Defnyddiwch y llinell 999 yn ddoeth
Ffonio oherwydd daint sydd wedi torri, ffonio am fod cerbyd heb lawer o ddiesel ar ôl a ffonio i ofyn am ragolygon y tywydd er mwyn gallu cerdded i fyny’r Wyddfa. Dyma rai enghreifftiau o’r galwadau 999 mae Heddlu Gogledd Cymru wedi’u cael dros yr wythnosau diwethaf.