Stamp amser presennol: 05/06/23 05:38:44
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Go to North Wales Police homepage

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Briwsion bara

  1. ...
  2. Newyddion

Wyth ymosodiad y dydd ar weithwyr brys – gweithiwch gyda ni, nid yn ein herbyn yw’r cais y Nadolig hwn

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Newyddion

19:16 03/12/2021

Cafwyd mwy na 1,360 o ymosodiadau yn y cyfnod chwe mis rhwng 1 Ionawr 2021 a 30 Mehefin 2021. 

Roedd yr ymosodiadau’n cynnwys cicio, slapio, taro pennau a cham-drin geiriol, gan amrywio o ymosodiad cyffredin i ymosodiadau difrifol wedi’u cynllunio ymlaen llaw ac wedi arwain at niwed corfforol difrifol. 

Roedd o leiaf 21 digwyddiad yn cynnwys defnyddio arf.

Wrth i’r Nadolig agosau – cyfnod y flwyddyn pan welir cynnydd mewn ymosodiadau’n draddodiadol – mae gweithwyr brys yn gofyn i’r cyhoedd eu trin â pharch. 

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae pandemig Covid-19 wedi bod yn gyfnod anodd i ni i gyd, ond nid yw hynny’n esgus i ymosod ar weithwyr brys, sy’n fodau dynol normal sydd yn ceisio cyflawni eu swydd. 

“Mae’r cyfnod cyn y Nadolig yn golygu y bydd mwy o bobl allan yn mwynhau’r dathlu, ac yn dilyn yfed alcohol gwelir cynnydd mewn ymosodiadau, corfforol a geiriol. 


“Roedd 60 ymosodiad geiriol ar staff ein hystafelloedd rheoli ambiwlans yn ystod chwe mis cyntaf y flwyddyn. 

“Rydym ni’n gwybod ei bod yn amser pryderus pan rydych chi’n aros am gymorth, ond nid cam-drin ein hatebwyr galwadau yw’r ateb – os rhywbeth, gallai hynny oedi anfon cymorth. 

“Allan yn y gymuned efallai na fydd gan ein criwiau unrhyw ddewis ac eithrio gadael y sefyllfa os yw ei diogelwch personol dan fygythiad, a dydi hyn ddim yn helpu unrhyw un, yn enwedig y claf.

“Nid yw’n dyled i’n gweithwyr gwasanaethau brys erioed wedi bod yn uwch, felly nawr fwy nag erioed, rydym ni’n gofyn i’r cyhoedd weithio gyda ni, nid yn ein herbyn ni y Nadolig hwn.”

Digwyddodd bron i hanner (47%) yr ymosodiadau yn ystod y cyfnod chwe mis yn Ne Ddwyrain Cymru: Caerdydd, Rhondda Cynon Taf a Phenybont ar Ogwr yw’r ardaloedd awdurdod lleol lle ceir yr achosion mynych. 

Troseddwyr rhwng 26 a 35 oed yw’r gyfran uchaf sy’n troseddu (24%), tra bo traean y digwyddiadau yn cynnwys pobl dan ddylanwad alcohol.

Gwelwyd y nifer uchaf o ymosodiadau (281) ym mis Mai 2021 wrth i’r diwydiant lletygarwch yng Nghymru ailagor ar ôl yr ail gyfnod clo Covid-19.

Ers dechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, bu o leiaf 36 digwyddiad lle mae unigolyn wedi pesychu’n fwriadol ar weithiwr brys. 

Mae ymosodiadau ar yr heddlu yn cynrychioli dau draean (67%) cyfanswm yr ymosodiadau, gyda 152 dioddefwr y mis ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod chwe mis. 

Dywedodd Richard Debicki, Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd CymruDyfed Powys: “Pob diwrnod mae ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn aml yn delio â sefyllfaoedd anodd a heriol ac yn rhoi ei hunain yng nghanol perygl er mwyn cynnal y gyfraith ac mae angen iddynt allu gwneud eu dyletswyddau mor ddiogel ag sy’n bosib. Tydi ymosodiad ddim yn, na ddylai fyth fod ‘yn rhan o’r swydd.

“Mae’n gwbl annerbyniol iddynt gael eu bygwth, i bobl ymosod arnynt, i bobl ymosod arnynt ar lafar neu fod rhywun yn poeri arnynt - a dylai’r rhai sy’n gyfrifol wynebu’r goblygiadau cyfreithiol.

“Mae ymosodiad yn drosedd trawmatig sy’n creu trallod enfawr i unrhyw un, ac nid yw’n wahanol pan fo’r dioddefwr yn weithiwr brys. 

“Mae ymosodiadau yn aros gyda’r dioddefwyr am weddill eu gyrfa, ac ni ddylai unrhyw un o fy heddlu na’r staff fynd i’w gwaith yn gwasanaethu’r cyhoedd ac ofni dioddef ymosodiad arnynt.

“Yn ystod tymor ewyllys dda, dangoswch barch tuag at ein gweithwyr brys a’u diogelu.” 

Dywedodd Mark Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol a Thrysorydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: “Fel pob gwasanaeth brys, mae swyddogion yr heddlu yn mynd I weithio bob diwrnod er mwyn gwarchod y cyhoedd; yn rhedeg tuag at perygl tra bod eraill yn rhedeg I ffwrdd.

“Pan mae swyddog yr heddlu, staff yr heddlu neu gwirfoddolwr yn cael eu ymosod wrth wneud eu Gwaith mae hyn yn cael effaith. Mae hwn yn ymosodiad ar gymdeithas.

“Tu ôl i’r lifrai mae person; mam, tad, mab, merch, brawd, chwaer. Mae’r creithiau, corfforol a meddyliol, yn gallu para am byth yn dilyn ymosodiad, felly rydym yn mynu fod y rhai sy’n gyfrifol yn gwynebu dedfryd llym.”

Er bod y nifer yn is – 22 digwyddiad yn ystod y cyfnod chwe mis – ym mis Mawrth 2021 gwelwyd cynnydd diesboniad yn yr ymosodiadau ar gydweithwyr yn y gwasanaeth tân, yn enwedig yn Ne Cymru. 

Dywedodd y Prif Swyddog Tân, Huw Jakeway QFSM, o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “Mae ein gwasanaethau brys yn gweithio’n galed bob dydd i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ac ni ddylent orfod ymdrin â cham-driniaeth. 

“Mae ymosodiadau ar griwiau tra’n diogelu ein cymunedau a chadw pobl yn saff yn gwbl annerbyniol. 

“Mae ein gwasanaethau goleuadau glas yn dod i’w gwaith i wasanaethu ac amddiffyn y cyhoedd ac mae effaith ymosodiadau o’r fath yn medru arwain at ganlyniadau sy’n newid bywyd i bawb a effeithiwyd. 

“Wrth gwrs, lleiafrif bach iawn sy’n ymddwyn fel hyn, ac unwaith eto rydym ni’n diolch i’n cymunedau am eu cefnogaeth barhaus yn gweithio gyda ni yn ystod tymor y Nadolig i gadw’n ddiogel.” 

Dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) mae’r diffiniad gweithwyr brys yn cynnwys staff yr heddlu, gwasanaeth tân ac ambiwlans yn ogystal â staff carchar a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru: “Mae ein gweithwyr brys yn darparu gofal achub bywyd a newid bywyd bob dydd, dan amgylchiadau anodd yn aml.

“Mae ein staff GIG yn paratoi ar gyfer cyfnod Nadolig heriol felly nawr, fwy nag erioed, maen nhw’n haeddu cael eu trin â pharch.

“Mae unrhyw fath o ymosodiad ar ein gweithwyr brys yn gwbl annerbyniol ac rydym ni’n gwneud popeth fedrwn ni i weithio â chyflogwyr GIG Cymru a’n hasiantaethau partner i gael gwared ar ymosodiadau geiriol neu gorfforol ar staff.”

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei fod yn cyflwyno deddf newydd a fydd yn golygu dedfryd oes orfodol i’r rhai sy’n lladd gweithiwr brys ar ddyletswydd. 

Dywedodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder y byddai’n anelu at gyflwyno ‘Deddf Harper’ yng Nghymru a Lloegr – er cof am y Cwnstabl Andrew Harper of Heddlu Dyffryn Tafwys, a gafodd ei ladd tra ar ddyletswydd yn 2019 – gynted ag y bo modd. 

Lansiwyd yr ymgyrch Gyda Ni, Nid yn ein Herbyn ym mis Mai 2021 gan y Grŵp Gwasanaethau Brys ar y Cyd i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.

Cofrestrwch eich cefnogaeth ac ymuno yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol  gan ddefnyddio’r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn a/neu #WithUsNotAgainstUs.

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.