Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ar 7 Rhagfyr bydd sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn cynnal un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg sy’n gyfrifol am gydlynu’r diwrnod. Bydd degau o sefydliadau cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn ymuno yn y dathliadau drwy hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg a rhannu profiadau o sut mae defnyddio gwasanaethau Cymraeg wedi effeithio’n gadarnhaol ar fywydau pobl.
Safonau’r Gymraeg sydd wedi creu’r hawliau, ac erbyn hyn mae 124 o sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu’r safonau: o gynghorau sir, i fyrddau iechyd, y gwasanaethau brys, colegau a phrifysgolion, a sefydliadau cenedlaethol Cymru.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Ers i safonau gael eu cyflwyno, rwyf wedi gweld newid byd o ran hawliau siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Erbyn hyn, rydym yn gweld sefydliadau yn ystyried y Gymraeg wrth iddynt gynllunio eu gwasanaethau, ac yn gynyddol mae gan y cyhoedd hyder bod gwasanaeth o ansawdd ar gael iddynt yn yr iaith. Mae’r safonau hefyd wedi arwain at sefydlu hawliau i weithwyr ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, gan gynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith bob dydd.
“Wrth gwrs, mae disgwyl i sefydliadau hyrwyddo eu gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn, ond mae rhoi un diwrnod penodol i bawb ddathlu’r gwasanaethau Cymraeg ar yr un pryd yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth. Mae hefyd yn reswm i neilltuo dyddiad penodol bob blwyddyn i atgoffa staff yn fewnol o’r hawliau sy’n bodoli a chynnal gweithgareddau hyrwyddo.’
Unwaith eto mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch o fod yn ran o’r ymgyrch yma. Fel rhan o’r dathliadau fe fyddwn yn cynnal ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn hybu ein gwasanaethau Iaith Gymraeg ac er mwyn hybu ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymraeg.
Meddai Meic Raymant, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg Heddlu Gogledd Cymru: “Yma yng ngogledd Cymru rydym yn lwcus iawn o gael canran uchel o’r gweithlu sy’n siarad Cymraeg sy’n gallu darparu trigolion Gogledd Cymru hefo safon uchel o Gymraeg. Hefyd mae gennym llawer iawn o staff sy’n dysgu drwy ein cyrsiau mewnol, neu’n datblygu eu sgiliau Cymraeg gyda chefnogaeth ein rhwydwaith o bencampwyr iaith Gymraeg.
“Gall pobl ddefnyddio eu Cymraeg hefo ni ar y ffôn, pan yn ysgrifennu atom, gan edrych ar ein gwefan a defnyddio ein cyfryngau cymdeithasol, ac wrth ymgeisio am swyddi hefo ni.
“Rydym yn cydnabod bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil ar y cyd â sgiliau plismona eraill ac rydym wedi datblygu Polisi Sgiliau Cymraeg er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd hwn.
“Rydym wedi datblygu nifer o fentrau i wella'n gallu i arddangos cwrteisi ieithyddol a chynnig dewis iaith dilys i'r cyhoedd. Rydym hefyd yn gweithio i gynnig yr un dewis iaith i'n staff yn ein gwaith er mwyn hyrwyddo gweithleoedd dwyieithog. Gyda chymorth yr Heddlu, mae llawer o staff yn dysgu'r iaith neu'n gwella eu sgiliau a'u hyder yn ei defnyddio hi drwy fynychu ein darpariaeth hyfforddiant Cymraeg mewnol neu drwy gymorth gan ein Pencampwyr Cymraeg mewn adrannau.
Meddai’r Dirprwy Brif Gwnstabl Richard Debicki, Cadeirydd Grwp Strategol Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd ein cyfrifoldebau tuag at ein cymunedau dwyieithog a Chymraeg eu hiaith yn hynod o ddifrif. Ers sawl blwyddyn mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg a dwyieithrwydd yn ei strategaethau a chynlluniau o ran y Gymraeg.
“Mae'n hanfodol bwysig sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn dewis iaith, a mynediad at swyddogion a staff sy'n gallu ymdrin â'u problem drwy'r Gymraeg. Mae darparu dewis iaith o'r dechrau'n deg yn bwysig iawn – o godi'r ffôn yn yr ystafell reoli i aelod o staff yn cyrraedd y digwyddiad, ac yna at aelodau o unedau arbenigol. Ar ben hynny, nid oes amheuaeth bod rhai pobl yn fwy parod i gydweithredu â ni, creu perthynas gyda ni a rhoi gwybodaeth i ni drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Rydym yn falch o’n hymrwymiad i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wrth i ni warchod a tawelu meddwl y cyhoedd.
“Mae’r gallu i gyfathrebu yn arf hanfodol i blismona ac rydym eisiau i bobl dderbyn y gwasanaeth o’r lefel uchaf gan Heddlu Gogledd Cymru wrth iddynt gysylltu â ni, ond hefyd yn yr iaith y maent fwyaf cyffyrddus yn ei defnyddio.”
Gallwch gefnogi’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn #MaeGenIHawl.
Nodiadau i olygyddion