Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cofrestrwch ar gyfer Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru cyn dydd Mawrth 21 Rhagfyr 2021 i fod mewn raffl am ddim er mwyn cael y cyfle i ennill arolwg atal trosedd a thaleb £100 er mwyn prynu offer atal trosedd.
Cynhelir yr arolwg atal trosedd am ddim gan un o Swyddogion Trosedd Atal Trwy Gynllunio Heddlu Gogledd Cymru. Gwnânt ymweld â'ch cartref ar adeg sy'n gyfleus i chi a rhoi cyngor diogelwch ar sut orau i warchod eich cartref, eich eiddo, a'ch teulu.
Mae Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru yn wasanaeth negeseuon cymunedol am ddim i bobl sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Gogledd Cymru. Mae'n cael ei gyflwyno i chi gan Heddlu Gogledd Cymru a phartneriaid. Mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am drosedd, digwyddiadau ymgysylltu, apeliadau, cyngor atal a gweithgarwch plismona cyffredinol yn eich ardal leol.
Mae cofrestru yn gyfan gwbl am ddim, yn sydyn ac yn syml. Mae Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru hefyd yn rhoi'r cyfle i chi roi adborth i'ch tîm plismona cymdogaethau lleol ar y problemau sydd o'r pwys mwyaf i chi. Bydd yn ein cynorthwyo ni i weithio gyda'n gilydd i wneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU.
Rydym yn eich annog chi i wahodd eich ffrindiau, eich teulu a'ch cymdogion i ymuno cyn gynted â phosibl, nid yn unig i gael cyfle o ennill ond hefyd i gynorthwyo gwarchod eu hunain a gwella eu diogelwch. Maent yn derbyn negeseuon rhybudd atal trosedd gwerthfawr ynghylch troseddau a sgamiau sy'n digwydd yn eu hardal.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru, cliciwch yma: https://www.northwalescommunityalert.co.uk/
Rhoddir y cynnig hwn gan Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT) sef elusen gofrestredig sy'n cynorthwyo prosiectau sy'n lleihau trosedd ac anrhefn. Am fwy o wybodaeth ar PACT, ewch ar: https://www.pactnorthwales.co.uk/
Telerau ac amodau:
Er mwyn cymhwyso, rhaid i chi gofrestru a chadarnhau (drwy ymateb i'ch e-bost cadarnhau) erbyn 21/12/2021.
Bydd y raffl yn digwydd ar 22/12/2021 a hysbysir yr enillydd cyn 24/12/2021.
Mae'r raffl Nadolig yn agored i unigolion yn unig ac nid cwmnïau. Fodd bynnag, rydym yn croesawu busnesau i ymuno â Rhybudd Gogledd Cymru fel y gallent hwythau hefyd dderbyn cyngor a rhybuddion atal trosedd gwerthfawr sy'n berthnasol i fusnesau.
Nid yw'r cynnig hwn yn agored i weithwyr Heddlu Gogledd Cymru, ond eto rydym yn croesawu cydweithwyr Heddlu Gogledd Cymru i ymuno â'r cynllun ac annog eu teuluoedd, eu ffrindiau, a'u cymdogion i ymuno hefyd.
Gwneir y raffl gan gwmni allanol nad yw'n aelod o Heddlu Gogledd Cymru sy'n cynorthwyo gyda rheoli Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru. Fodd bynnag, gwirir unrhyw enillwyr posibl gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau nad ydynt yn weithwyr / busnesau. (Os tynnir enw gweithiwr neu fusnes, fe wnawn ofyn i enw arall gael ei dynnu).
Cwblheir yr arolwg ym mis Ionawr gan un o'n Swyddogion Trosedd Trwy Gynllunio o Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi cymhwyso'n llawn.
Bydd y daleb ar gael i'w gwario ar ôl yr arolwg gydag un o'n cyflenwyr offer atal trosedd. Mae rhwydd hynt i'r enillydd ddewis unrhyw offer maent ei eisiau ar yr amod ei fod yn cael ei ystyried yn gymorth atal trosedd a ddim mwy na'r cyfanswm o £100 (pris yn cynnwys TAW – Treth ar werth).
Rhaid i chi gytuno cael eich cysylltu at y diben o'ch hysbysu mai chi yw'r enillydd. Mae gennych yr hawl i beidio tanysgrifio unrhyw adeg os nad ydych bellach yn dymuno derbyn unrhyw rybuddion pellach.
Mae Heddlu Gogledd Cymru / PACT yn neilltuo'r hawl i newid neu dynnu'r gystadleuaeth yn ôl ar unrhyw adeg.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: [email protected]
Am fwy o wybodaeth ar PACT a'r mentrau maent yn eu cefnogi ar hyn o bryd, ewch ar: https://www.pactnorthwales.co.uk/