Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch lwyddiannus gan Heddlu Gogledd Cymru wedi tarfu ar gang troseddol a wnaeth gynllwynio i ddod â mwy na £2 miliwn o gyffuriau i'r rhanbarth.
Yn Llys y Goron Caernarfon (20 Rhagfyr), carcharwyd 14 o unigolion o Ogledd Cymru a Glannau Mersi am gyfanswm o 72 mlynedd ac wyth mis am gynllwynio i gyfenwi cocên a chanabis.
Amlygodd adroddiadau cudd-wybodaeth fod rhai o'r llwythi cyffuriau hyn wedi'u casglu a'u cyfnewid mewn lleoliadau yng Ngwynedd.
Cafodd symudiadau a negeseuon y rhai hynny a amheuir o fod ynghlwm eu monitro'n agos gan Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig Heddlu Gogledd Cymru fel rhan o Ymgyrch Blue Glacier.
Roedd yr ymchwiliad hwn hefyd yn cynnwys data telathrebu Ymgyrch Venetic a rannwyd gyda Heddlu Gogledd Cymru gan Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Cafwyd y data telathrebu yn gudd gan weinyddwyr o ran ffonau symudol amgryptedig (EncroChat). Darparwyd data perthnasol i Ymgyrch Blue Glacier yna i Heddlu Gogledd Cymru i'w symud ymlaen.
Gwnaeth dadansoddi negeseuon amgryptedig a ddefnyddiwyd gan aelodau'r gang arwain at arestiadau arwyddocaol ac atafaelu cyffuriau yn y pen draw.
Yn gronnol, atafaelwyd 10kg o gocên a meintiau cyfanwerthol o ganabis o ganlyniad i'r camau plismona hyn rhwng misoedd Mai a Thachwedd 2020.
Casglwyd cyfanswm mawr o arian parod sef £467,235 oddi wrth y rhai o dan amheuaeth, ynghyd ac arian crypto a oedd werth dros £26,000.
Dangosir delweddau sy'n dangos meintiau'r cyffuriau a'r arian a atafaelwyd isod.
Yn ystod yr achos llys, canmolodd y Barnwr Nicola Saffman waith swyddogion Heddlu Gogledd Cymru am eu gwaith ymchwil o fewn yr achos.
Gan adlewyrchu ar y dedfrydau a roddwyd, dywedodd y Ditectif Arolygydd Dean Jones: "Mae'r dedfrydau heddiw'n anfon neges glir na wnawn oddef gwerthu cyffuriau yn ein cymunedau.
"Rydym wedi ymroi i weithio, ynghyd ag asiantaethau eraill, i gadw un cam ar y blaen i'r troseddwyr hyn. Fe wnawn ymlid unrhyw un sy'n torri'r gyfraith ac sy'n camfanteisio ar bobl er eu budd eu hunain yn ddidrugaredd.
"Nid yn unig mae'r canlyniad hwn yn dystiolaeth o waith caled ac ymroddiad y swyddogion, ond hefyd y cymorth rydym yn eu derbyn gan y cyhoedd sy'n cynorthwyo'n fawr wrth ymdrin â'r drosedd hon sydd yn cael cymaint o effaith niweidiol ar fywydau pobl.
"Mae'r ymgyrch hon ond yn rhan o'r ymchwiliad parhaus sy'n cael ei wneud. Dylai fod yn rhybudd o'r canlyniadau i unrhyw un sydd ynghlwm â throsedd o'r fath.
"Gwnawn barhau i geisio gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw ynddo yn y DU."
Am gynllwynio i gyflenwi cocên a chynllwynio i gyflenwi canabis, rhoddodd y barnwr y dedfrydau canlynol. Bydd yr ail ddedfrydau yn rhedeg ar y cyd â'r cyntaf: