Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Stelcio neu aflonyddu yw pan fydd rhywun yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy'n gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad.
Os mai’ch partner presennol yw'r person rydych chi'n gwybod neu'n ei amau eu bod nhw’n eich stelcio neu’ch aflonyddu, cam-drin domestig yw hynny. Gallwch riportio hyn i ni yma.
Os oes rhywun wedi ymddwyn tuag atoch mewn ffordd sydd wedi gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad, a bod hyn wedi digwydd unwaith, fe allai hynny fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn drosedd casineb neu’n drosedd arall. Riportiwch y peth i ni yma.
Stelcio neu aflonyddu yw pan fydd rhywun yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy'n gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad.
Gallwch riportio hyn i ni drwy ddefnyddio'r gwasanaeth yma:
Cliciwch ar y botwm 'Riportio ar-lein' isod a byddwn ni’n gofyn ychydig o gwestiynau ichi i sicrhau ein bod ni’n rhoi'r ffurflen gywir ichi i’w llenwi.
Mae unrhyw wybodaeth y byddwch chi’n ei hanfon aton ni ar y ffurflen yn ddiogel, ond os ydych chi'n poeni bod eich ffôn neu’ch gliniadur wedi'u hacio, ystyriwch ddefnyddio dyfais ffrind neu gyfrifiadur yn eich llyfrgell leol.
Gallwch riportio drosoch chi’ch hun, dros rywun arall neu fel tyst.
Byddwn ni’n ymchwilio i beth bynnag rydych chi’n ei ddweud wrthon ni ac yn rhoi gwybod ichi pa gamau gymerwn ni nesaf.
Os nad ydych chi’n awyddus i riportio ar-lein, dyma wybodaeth am y ffyrdd eraill y gallwch chi riportio, gan gynnwys yn ddienw.
Os nad ydych chi’n siŵr ynglŷn â riportio inni eto, mae hynny'n iawn. Mae yna sefydliadau eraill y gallwch chi siarad â nhw i gael cyngor a chymorth. Mae'n bwysig eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch.
1. Beth yw stelcio ac aflonyddu? |
2. Beth i'w wneud nawr os ydych chi'n cael eich stelcio neu'ch aflonyddu |
3. Amddiffyn rhag stelcio ac aflonyddu ar-lein |