Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw eich car wedi mynd ar goll, dilynwch y camau syml isod er mwyn ei dracio neu, yn y sefyllfa waethaf, riportio ei fod wedi’i ddwyn.
Mae’n swnio’n amlwg, ond os yw eich car ar goll ein cyngor cyntaf yw gwirio eto yn y man lle gwnaethoch ei barcio. Yn aml iawn bydd car sydd ar goll, y tybir ei fod wedi’i ddwyn, yn union lle gadawodd y perchennog ef - a’i fod wedi anghofio.
Y dyddiau hyn mae gan lawer o geir dracwyr GPS er mwyn eu lleoli os ydynt ar goll neu wedi’u dwyn. Ow yw hyn yn gywir/yr achos am eich car chi, cysylltwch â’ch gwasanaeth tracio penodol cyn cysylltu â ni – os yw’r car wir fel petai wedi cael ei ddwyn bydd y gwasanaeth fel arfer yn cysylltu â ni ar eich rhan.
Yr ail reswm mwyaf cyffredin am gerbyd ar goll yw ei fod wedi cael ei symud gan y cyngor am barcio’n anghyfreithlon.
Os ydych yn gwybod y cod post, gallwch ddarganfod pa gyngor sy'n gyfrifol am yr ardal lle cafodd eich car ei barcio.
Os nad oedd gan eich cerbyd dreth ddilys, fe allai fod wedi cael ei symud a'i gymryd i bownd gan NSL, cwmni clampio olwynion sy'n gweithio ar ran y DVLA. Rhagor o wybodaeth am sut i gael eich cerbyd yn ôl o bownd y DVLA.
Cliciwch 'Dechrau' isod i’w riportio.