Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:50 23/12/2021
Ffonio oherwydd daint sydd wedi torri, ffonio am fod cerbyd heb lawer o ddiesel ar ôl a ffonio i ofyn am ragolygon y tywydd er mwyn gallu cerdded i fyny’r Wyddfa. Dyma rai enghreifftiau o’r galwadau 999 mae Heddlu Gogledd Cymru wedi’u cael dros yr wythnosau diwethaf.
Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi wrth i Heddlu Gogledd Cymru hybu ei ymgyrch #LleihauGalwadau. Mae hyn er mwyn cynorthwyo i leihau’r nifer o alwadau diangen ac amhriodol sy’n cael eu gwneud i’r Ganolfan Cyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy cyn un o adegau prysuraf y flwyddyn.
Mae’r Uwcharolygydd Mark Williams o Ystafell Reoli’r Heddlu yn annog pobl i sicrhau eu bod yn defnyddio’r llinell 999 yn briodol. Mae hefyd yn eu hatgoffa y dylent ond ffonio’r llinell ddifrys os yw’n fater i’r heddlu. Dywedodd: “Mae pob galwad ddiangen yn lleihau’r amser sydd gennym ar gyfer galwadau brys sydd angen sylw’r heddlu. Mae hefyd yn gwastraffu amser y staff ac yn rhoi pwysau ar y system 999.
“Yn draddodiadol mae cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn un o’r adegau prysuraf ar gyfer yr Heddlu. Rydym yn gofyn i bobl ddefnyddio’r system 999 yn gall er mwyn cynorthwyo i sicrhau nad oes galwad frys yn cael ei methu dros yr Ŵyl.
“Mae ffonio 999 am faterion megis eich bod wedi gweld car heb ddrych ochr a bod sbectol ar goll yn gwastraffu amser ac adnoddau a gallai atal galwad frys ddilys rhag dod drwodd atom.
“Mae enghreifftiau eraill o alwadau y mae Heddlu Gogledd Cymru wedi’u cael yn cynnwys rhywun yn ffonio 999 gan eu bod wedi anghofio’r cod ar gyfer eu safe.’
“Nid yw ffonio 999 oherwydd pryder am ffrind sydd wedi yfed gormod yn fater i’r heddlu. Er bod yr un a oedd wedi ffonio wedi gwneud hyn oherwydd eu bod yn poeni amdanynt, nid ydym yn gallu darparu gwasanaeth tacsi er mwyn mynd â phobl adref yn ddiogel.
“Ynghyd â’r llinell ddifrys 101 gall bobl sgwrsio â ni yn fyw ar-lein os oes ganddynt faterion difrys i’w trafod. Mae hwn ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Rydym yn sylweddoli na fydd pobl o hyd eisiau neu angen siarad â ni ar y ffôn, ac felly rydym yn cynnig opsiynau gwahanol, yn cynnwys e-bost.
Fe ychwanegodd: “Ni fydd ffonio 999 am faterion arferol yn rhoi gwell gwasanaeth i’r galwr. Byddant yn cael eu cynghori i ffonio’n ôl ar y rhif difrys. Os ydym yn gweld fod pobl yn parhau i wneud ffug alwadau yna fe allent gael eu herlyn.”
Yn 2020 fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru dderbyn:
Mae’n gallu bod yn anodd gwybod beth sy’n argyfwng neu beidio, ond fe ddylech fel rheol ffonio 999 os: