Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros 30 o arestiadau wedi cael eu gwneud fel rhan o'r ymgyrch atal Yfed a Gyrru a Gyrru ar Gyffuriau’r Nadolig.
Ers cychwyn yr ymgyrch ar 1 Rhagfyr mae 21 o arestiadau yfed a gyrru a 14 o arestiadau am yrru ar gyffuriau wedi’u gwneud ar draws y rhanbarth.
Lefel alcohol uchaf yr ymgyrch hyd yn hyn ydy 123 (35 ydy’r terfyn cyfreithiol) lle cafodd dyn 50 oed ei arestio ar gyrion Caernarfon ar 2 Rhagfyr. Mae’r dyn, sydd o ardal Cilgwri, eisoes wedi cael ei gyhuddo o yfed a gyrru ac mi fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Caernarfon ar ddydd Llun 20 Rhagfyr.
Mae’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru ar gyffuriau yn gorfod aros am ganlyniadau profion pellach cyn fydd penderfyniad am gyhuddo yn cael ei wneud.
Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall: “Fe ddylai unrhyw un sy’n ystyried gyrru, tra byddant o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, wybod y byddwn allan yn disgwyl amdanynt.
“Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i geisio cadw’r ffyrdd yn fwy diogel a thargedu’r rhai hynny sy’n peryglu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill.”
“Rydym wedi ymrwymo i wneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb a byddem yn parhau i dargedu’r rhai sy’n peryglu bywyd eu hunain a phobl eraill.
“Bydd nifer yn mynychu partïon Nadolig y penwythnos yma ac rydym yn erfyn arnynt i wneud trefniadau i fynd adref yn ddiogel, ac hefyd eu hatgoffa y gallent fod dros y terfyn cyfreithiol y bore wedyn.
“Rydym eisiau i bawb fwynhau’r cyfnod ac mae hwn yn un o’n ymgyrchoedd pwysicaf. Er ein bod yn rhoi rhybuddion yn rheolaidd am beryglon gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, mae gormod yn parhau i gymryd y risg.”
Dilynwch yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn yr hashnod #5Angheuol.
Os ydych chi’n amau bod rhywun yn gyrru pan na ddylent wneud hynny, hysbyswch yr Heddlu drwy ffonio 101 (neu ffoniwch 999 os yw’r perygl ar fin digwydd) neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.