Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall troseddau bywyd gwyllt ac anifeiliaid fod yn faes cymhleth i’w ddeall. I gael gwybod beth yw troseddau bywyd gwyllt, ewch i’n tudalen am droseddau bywyd gwyllt.
Ymhlith y troseddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid nad ydyn nhw'n droseddau bywyd gwyllt, mae:
Mae dau fath o droseddau da byw:
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y troseddau yma, gan gynnwys sut y gallwch eu riportio i ni, ar ein tudalen troseddau da byw.
Mae hela yn cynnwys ymlid, dal neu ladd anifeiliaid ac adar.
Nid yw pob math o hela yn drosedd, ond mae yna lawer o gyfreithiau gwahanol i amddiffyn y gwahanol rywogaethau o anifeiliaid ac adar. Mae’r cyfreithiau hyn yn cwmpasu pethau megis:
Mae llawer o anifeiliaid hefyd wedi’u diogelu gan y gyfraith, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon eu hela ar unrhyw adeg oni bai bod gennych eithriadau arbennig.
Darganfod mwy:
Hela anghyfreithlon
Mathau o hela anghyfreithlon
Gweler hefyd ein safbwynt am hela gyda chŵn.
Creulondeb i anifeiliaid yw pan nad yw rhywun yn gofalu am anifail neu'n brifo anifail yn fwriadol.
Gall gynnwys unrhyw beth o drais corfforol i drallod neu esgeulustod meddyliol bwriadol, er enghraifft peidio â bwydo neu lanhau anifail.
Os ydych chi'n gweld, neu'n amau, y gallai rhywun fod yn trin anifail yn wael, boed yn drais corfforol, esgeulustod neu unrhyw fath arall o greulondeb, dylech ei riportio yr RSPCA.
Rydym yn gweithio gyda’r RSPCA i ymchwilio i achosion o greulondeb i anifeiliaid.
Os yw eich partner, cyn bartner neu aelod o’r teulu wedi niweidio, neu’n bygwth niweidio, eich anifail anwes gall hyn fod yn fath o gam-drin domestig. Dysgwch fwy am greulondeb i anifeiliaid a cham-drin domestig.
Mae nifer o droseddau sy'n gysylltiedig â chŵn. Mae'r rhain yn cynnwys:
Mae hefyd yn drosedd os bydd rhywun yn dwyn eich ci.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y troseddau yma, a sut y gallwch eu riportio, ar ein tudalen troseddau cŵn.
Os yw'n ymddangos ei fod allan o reolaeth, dywedwch wrthym trwy ffonio 101.