Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae hela yn cynnwys cwrso, dal neu ladd unrhyw aderyn neu anifail.
Nid pob math o hela sy’n anghyfreithlon, ond mae yna lawer o ddeddfau a chyfyngiadau cyfreithiol sy'n helpu i ddiogelu bywyd gwyllt. Gall hela anghyfreithlon gynnwys hela y tu allan i dymor agored, defnyddio maglau neu arfau sy'n achosi dioddefaint diangen, neu hela heb drwydded arbennig.
Nid dim ond y weithred o hela’n anghyfreithlon sy’n drosedd. Rydych hefyd yn torri’r gyfraith os ydych yn cynorthwyo mewn helfa anghyfreithlon. Gallai hyn gynnwys caniatáu i helwyr ddefnyddio eich tir neu ddarparu cŵn ar eu cyfer.
Gall fod yn anodd gwybod pryd mae hela yn anghyfreithlon. Mae gan wahanol anifeiliaid ac adar gyfreithiau gwahanol i'w hamddiffyn. Os ydych chi'n bwriadu mynd i hela, mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod beth cewch chi a beth na chewch chi ei wneud.
Mae hela adar gwyllt yn cynnwys:
Mae'n anghyfreithlon hela aderyn gwyllt os:
Darganfod mwy am droseddau adar
Mae adar hela yn cynnwys ffesantod, petris a grugieir, fel maen nhw wedi’u diffinio gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Ymdrinnir â hela adar hela gan Ddeddf Hela 1831.
Mae gan adar hela eu tymor agored eu hunain.
Mae’n anghyfreithlon:
Mae ceirw yn rhywogaeth warchodedig, yn unol â Deddf Ceirw 1991.
Mae'n anghyfreithlon:
Nid yw ceirw Muntjac yn cael eu diogelu gan dymor agored, a hynny am fod ceirw Muntjac yn bridio drwy'r flwyddyn.
Mae hela llwynogod yn anghyfreithlon ond mae rhai eithriadau.
Mae’n anghyfreithlon hela llwynogod gan ddefnyddio:
Mae ‘hela llwybrau’ a ‘hela abwyd’, lle mae cŵn yn dilyn naill ai arogl anifeiliaid neu arogl artiffisial, yn gyfreithlon. Helfeydd yw’r rhain sydd wedi’u cynllunio i efelychu hela llwynogod heb fod llwynogod yn rhan o’r digwyddiad o gwbl. Fodd bynnag, mae’n dal rhaid i’r gweithgareddau hyn ddigwydd mewn lleoliadau lle caniateir i’r bobl neu’r anifeiliaid dan sylw fynd ac nad ydynt yn tresmasu.
Mae yna eithriadau o dan Ddeddf Hela 2004 sy’n caniatáu i lwynogod gael eu saethu’n ‘ddynol’ a’u lladd. Mewn achosion o’r fath, gall ci neu gŵn, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gael eu defnyddio’n gyfreithiol i ‘fflysio’ llwynog o’r gorchudd fel y gellir ei saethu.
Mae hela ysgyfarnogod a chwningod yn anghyfreithlon:
Gallwch saethu ysgyfarnogod a chwningod ar eich tir eich hun yn y rhan fwyaf o achosion, os oes gennych y drwydded arf tanio gywir. Gweler ‘Hela gydag arfau tanio’ ar y dudalen Mathau o hela anghyfreithlon am ragor o wybodaeth.
Mae hela gyda chŵn fel rhan o ddigwyddiad hela ysgyfarnogod, lle mae cŵn yn cael eu hasesu ar eu sgiliau hela ysgyfarnogod byw, yn anghyfreithlon. Lle mae cŵn yn gysylltiedig, mae hefyd yn anghyfreithlon i wneud y canlynol:
Oni bai bod gennych chi esemptiadau arbennig, mae'n anghyfreithlon hela, dal a lladd unrhyw un neu ragor o'r canlynol: