Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall fod yn anodd gwybod os yw’n drosedd bywyd gwyllt neu beidio a pha bryd y dylid cysylltu â ni. Mae sawl gwahanol fath o droseddau bywyd gwyllt a throseddau anifeiliaid – o hela sgwarnogod, masnachu mewn rhywogaethau sydd mewn perygl, erlid rhywogaethau gwarchodedig i boeni da byw. Darllenwch beth sy’n drosedd a beth allwch chi ei wneud am y peth.
Mae troseddau bywyd gwyllt yn cynnwys unrhyw weithgareddau sy'n mynd yn groes i ddeddfwriaeth sy'n amddiffyn anifeiliaid a phlanhigion gwyllt yn y DU. Gall achosi poen a dioddefaint i anifeiliaid, gwthio rhywogaethau yn agosach at ddifodiant a gellir ei gysylltu â throseddau difrifol eraill fel troseddau arfau saethu a throseddu trefnedig.
Mae cyfraith bywyd gwyllt yn gymhleth a gall fod yn anodd gwybod a yw rhywbeth yn drosedd neu beidio ac a ddylid cynnwys yr heddlu, neu pryd.
Weithiau byddwn yn mynd i ddigwyddiadau hela er mwyn cynnal trefn ac i ddiogelu bywydau ac eiddo. Byddwn yn gwneud hyn heb ffafrio unrhyw grŵp. Gall gynnwys:
Mae cwrso sgwarnogod yn anghyfreithlon. Mae ffyrdd o ganfod os oes achos o gwrso sgwarnog yn digwydd neu ar fin digwydd. Bydd:
Gallech weld:
Os welwch chi sgwarnog yn cael ei gwrso, riportiwch y peth ar-lein. Peidiwch â mynd yn agos at unrhyw un sy’n rhan o’r peth. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Os ydych yn credu bod trosedd bywyd gwyllt yn cael ei chyflawni cysylltwch â ni drwy riportio’r drosedd ar-lein.
Os oes trosedd wrthi’n digwydd neu os oes rhywun mewn perygl, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu anfonwch neges destun at 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaethSMSbrys.
Byddai'n well gennym pe byddech yn cysylltu â ni er mwyn i ni ymchwilio, na pheidio â chlywed wrthych.
Gallwch hefyd riportio troseddau bywyd gwyllt drwy alw Crimestoppers yn ddienw, ffoniwch 0800 555 111.
Os ydych yn taro ci, ceffyl, buwch, mochyn, dafad neu asyn (neu ful), yna mae’n rhaid i chi riportio’r peth i ni, p'un a yw'r anifail wedi’i ladd ai peidio.
Os ydych yn taro anifail gwyllt yn ddamweiniol ac na allwch fynd ag ef at filfeddyg ar unwaith neu'n ddiogel, mae angen i chi gysylltu â ni ar 101, gan fod caniatáu i anifail gwyllt ddioddef yn drosedd. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Mae taro anifail gwyllt yn fwriadol yn drosedd o dan Ddeddf Mamaliaid Gwyllt (Amddiffyn).
Os ydych yn taro ac yn lladd anifail gwyllt, rhaid i chi ei adael yn ddiogel wrth ymyl y ffordd a rhoi gwybod i’r cyngor lleol er mwyn iddyn nhw allu cael gwared ar y gweddillion. Mae rhai anifeiliaid gwyllt yn warchodedig ac mae'n drosedd meddu ar un, yn farw neu'n fyw.
Os dewch chi ar draws anifeiliaid yn rhydd ar y ffordd a bod perygl i draffig, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18000 neu anfonwch neges destun at 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaethSMSbrys.
Rydym yn gweithio gyda’r RSPCA i archwilio creulondeb i anifeiliaid. I roi gwybod am achosion o greulondeb, esgeulustod neu gamdriniaeth, gallwch fynd i wefan RSPCA neu ffonio 0300 1234 999 (llinellau ar agor 24 awr y dydd).
Mae poeni a dwyn da byw yn droseddau ac mae’n rhaid eu riportio i ni. Gallwch wneud hynny drwy riportio trosedd ar-lein.
Rhaid i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â chŵn, naill ai ci afreolus mewn man cyhoeddus, brîd o gi sydd wedi'i wahardd neu ymladd cŵn, gael eu riportio i ni ar-lein.