Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Y peth cyntaf i'w wneud yw penderfynu a yw'r peth rydych chi wedi'i weld neu wedi clywed amdano yn drosedd.
Dysgwch beth yw trosedd bywyd gwyllt.
Mae yna droseddau eraill ynglŷn â phlanhigion ac anifeiliaid, sydd wedi’u disgrifio o dan troseddau cefn gwlad a throseddau amgylcheddol.
Mae gennym Dîm Troseddau Gwledig, sy’n cynnwys swyddogion bywyd gwyllt hyfforddedig.
Os ydych chi’n credu bod trosedd wedi digwydd:
Os ydych chi'n credu bod trosedd bywyd gwyllt yn cael ei chyflawni yna cysylltwch â ni drwy riportio trosedd ar-lein.
Os oes trosedd yn digwydd neu os oes rhywun mewn perygl, ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun ar 999 os ydych chi wedi cofrestru gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Byddai'n well gennyn ni eich bod yn cysylltu â ni a’n bod ni’n ymchwilio, yn hytrach na pheidio â chlywed gennych.
Gallwch riportio troseddau bywyd gwyllt yn ddienw hefyd i Taclo’r Taclau drwy ffonio 0800 555 111.
Mynnwch ragor o wybodaeth am droseddau bywyd gwyllt drwy edrych ar y gwefannau hyn:
Uned Genedlaethol Troseddau Bywyd Gwyllt