Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae angen hysbysu’r cyngor lleol neu asiantaethau eraill am nifer o broblemau gwastraff neu amgylcheddol.
Mae angen ei riportio i’ch cyngor lleol. Dod o hyd i’ch cyngor lleol.
Mae angen riportio dympiau sbwriel a gwastraff i’ch cyngor lleol. Dod o hyd i’ch cyngor lleol.
Mae angen riportio tipio anghyfreithlon, sef dympio gwastraff i’ch cyngor lleol. Dod o hyd i’ch cyngor lleol.
Gallwch gysylltu â’ch cyngor i weld os ydyn nhw'n cynnig gwasanaethau rheoli plâu fel cacwn, llygod mawr, llygod neu llau gwely. Dod o hyd i’ch cyngor lleol.
Bydd eich cyngor lleol yn trefnu i gasglu chwistrelli a theclynnau yn ymwneud â chyffuriau a adawyd yn gyhoeddus. Dod o hyd i’ch cyngor lleol.
Gallwch riportio adeiladau neu strwythurau peryglus i’ch cyngor lleol. Dod o hyd i’ch cyngor lleol.
Mae pwy y dylech roi gwybod am hyn, eich cyngor, y cwmni cyfleustodau neu asiantaeth arall, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae Gov.uk yn rhoi dadansoddiad defnyddiol o bwy i gysylltu â nhw.
Does dim cyfraith ynglŷn â chael coelcerth yn eich gardd, ond mae yna gyfreithiau am y niwsans y gallan nhw eu hachosi. Ceir fwy o wybodaeth yn Gov.uk.
Os gwelwch chi unrhyw un o’r canlynol yn Lloegr, galwch llinell gymorth Asiantaeth yr Amgylchedd i’w riportio:
Llinell Gymorth 24 awr ar gyfer digwyddiadau: 0800 80 70 60
Rhowch wybod i Adnoddau Naturiol Cymru am y digwyddiad
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn delio â thir halogedig, ymbelydredd, llygredd a’r perygl o lifogydd. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am risg amgylcheddol.
Gallwch gael gwybod mwy am drwyddedu a gweithgareddau i’w gwneud gyda rhywogaethau gwarchodedig ac amgylcheddau bregus.
Mae pysgota anghyfreithlon yn cynnwys:
Ffoniwch 999 os ydych chi'n gwybod bod y troseddau hyn yn digwydd nawr.
Riportiwch ar-lein os nad yw'r troseddau'n digwydd nawr.
Cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd am ddigwyddiadau eraill sy'n gysylltiedig â physgota fel pysgota heb drwydded neu ddefnyddio offer anghywir.
Mae angen i ni wybod am ddympio anghyfreithlon ar raddfa fawr (lle mae lorïau'n cael eu defnyddio i ddympio sbwriel), rhywun sy’n rhedeg safle gwastraff heb drwydded neu’n gwrthod dilyn rheolau’r drwydded wastraff. Riportiwch hyn ar-lein.
Os ydych yn ymwybodol o wastraff peryglus a allai beryglu’r cyhoedd ar unwaith, riportiwch y peth yn syth drwy alw 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun at 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMSbrys.