Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma ddatganiad ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae ein hymateb gweithredol i hela yn seiliedig ar gyngor yr NSPCC sy’n cydnabod bod ‘hela gyda chŵn’ yn bwnc emosiynol, sy’n ennyn cefnogaeth, gwrthwynebiad ac ymateb gan sbectrwm eang o gymdeithas, sy’n fwy amlwg ar gyfryngau cymdeithasol yn yr oes fodern o blismona’.
Rydym yn cydnabod darpariaethau Deddf Hela 2004 sy’n cyfreithloni mathau penodol o hela.
Rydym yn cydnabod, yn gyfartal, bod gan y rheini sy’n gwrthwynebu hela, yr hawl i brotestio.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ymchwilio a, lle bo tystiolaeth yn bodoli, i ddod ag unrhyw berson sy’n torri'r gyfraith o flaen ei well. Mae hwn yn ddarn cymhleth o ddeddfwriaeth ac mae angen ystyried y dystiolaeth o sawl agwedd wahanol er mwyn profi'r drosedd gyfan.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Nigel Harrison, Arweinydd Arbenigol Gweithredol: ‘Rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch bwrpasol ers sawl blwyddyn yn ystod y tymor hela, sydd wedi ceisio cydbwyso hawl y rhai sy'n dymuno protestio yn erbyn hela â’r rheini sy’n dymuno ymgymryd â gweithgareddau cyfreithlon.
‘Mae’r ymgyrch hon wedi cynnwys nifer fach o swyddogion, ac ar brydiau, defnyddiwyd dronau i geisio casglu tystiolaeth o unrhyw weithgaredd anghyfreithlon, gan gynnwys unrhyw weithgaredd hela anghyfreithlon.
‘Mae ein Tîm Troseddau Gwledig pwrpasol yn angerddol am ddiogelu bywyd gwyllt ac maen nhw’n adolygu unrhyw dystiolaeth sydd ar gael a allai gefnogi erlyniad o dan y ddeddfwriaeth hela. I fod yn glir, ni fyddwn yn goddef aflonyddu neu dresmasu troseddol ac ni fyddwn chwaith yn cilio rhag ymchwilio i'r rhai a allai fod yn hela’n anghyfreithlon. Ceisiwn ymgysylltu â phob carfan a gwneud ein gorau glas i aros yn ddiduedd.
'Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn cyflawni ein dyletswydd i warchod ein cymunedau ac i gadw’r cyhoedd yn ddiogel, a byddwn yn parhau i geisio ymgysylltu â phob carfan.’
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Arfon Jones: ‘Mae hela yn bwnc dadleuol gyda theimladau cryfion ar ddwy ochr y ddadl, ac mae’r heddlu yn troedio ffin denau wrth blismona digwyddiadau o’r fath yn ddiduedd.
‘Mae yna ganfyddiad bod yr heddlu yn ochri gyda charfan yr helwyr, ond rôl yr heddlu, gan fwyaf, yw cadw’r heddwch ac i blismona darpariaethau’r Ddeddf Hela. Serch hynny, yn fy marn i, mae bylchau o fewn y Ddeddf hon yn ei gwneud hi’n amhosibl bron i gael euogfarn, a dyna pam ceir canfyddiad nad yw’r heddlu yn ymddwyn yn ddiduedd.
‘Mae cyfrif Twitter Tîm Troseddau Gwledig Gogledd Cymru yn anghyffredin yn yr ystyr nad yw ofn risg pan ddaw hi’n fater o bostio, ac o ganlyniad, mae ganddo nifer fawr o ddilynwyr. Nid yw popeth maen nhw’n ei gyhoeddi at ddant pawb, ac maen nhw wedi gorfod tawelu a blocio nifer o gyfrifon yn y gorffennol oherwydd y cynnwys.
‘Fel holl rolau plismona, mae’r timau plismona gwledig yn plismona cymunedau lle ceir tensiynau a thrafferthion wrth gynnal cydbwysedd a bod yn ddiduedd.’