Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall troseddau bywyd gwyllt ac anifeiliaid fod yn faes cymhleth i’w ddeall.
I gael gwybod beth yw troseddau bywyd gwyllt, ewch i’n tudalen am droseddau bywyd gwyllt.
Ymhlith y troseddau sy'n ymwneud ag anifeiliaid nad ydyn nhw'n droseddau bywyd gwyllt, mae:
Mae poeni da byw yn drosedd o dan Ddeddf Cŵn (Diogelu Da Byw) 1953.
‘Poeni’ yw lle mae ci yn erlid neu’n ymosod ar dda byw, gan achosi anafiadau neu ddioddefaint.
Nid bygythiad i fywoliaeth y ffermwr neu’r tirfeddiannwr yn unig yw hyn, mae hefyd yn sefyllfa beryglus i'r anifeiliaid dan sylw, a gallai arwain at risg pellach pe bai'r anifeiliaid yn cyrraedd y ffordd fawr.
Mae hawl gan y ffermwr i ladd y ci os yw’n poeni ei dda byw.
Dylech wastad gadw eich ci o dan reolaeth pan fydd anifeiliaid eraill o amgylch, ac os gwelwch chi gi yn rhydd ac yn poeni anifeiliaid, riportiwch y peth ar-lein.
Gall anifeiliaid pori fod yn darged hawdd yn enwedig mewn ardaloedd gwledig anghysbell.
Cofiwch fod pasbort ceffylau yn ofyniad cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i wneud cais am basport ceffylau.
Riportiwch lladrad da byw ar-lein
Cofiwch: mae pasbort ceffylau yn ofyniad cyfreithiol. Dylech:
Gallwch hefyd ymuno â’n cynllun Gwarchod Ceffylau.
Mae hela yn cynnwys ymlid, dal neu ladd anifeiliaid ac adar.
Nid yw pob math o hela yn drosedd, ond mae yna lawer o gyfreithiau gwahanol i amddiffyn y gwahanol rywogaethau o anifeiliaid ac adar. Mae’r cyfreithiau hyn yn cwmpasu pethau megis:
Mae llawer o anifeiliaid hefyd wedi’u diogelu gan y gyfraith, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon eu hela ar unrhyw adeg oni bai bod gennych eithriadau arbennig.
Os ydych yn bwriadu mynd i hela, mae’n bwysig gwybod beth sy’n gyfreithlon a beth sydd ddim yn gyfreithlon.
Darganfod mwy:
Hela anghyfreithlon
Mathau o hela anghyfreithlon
Gweler hefyd ein safbwynt am hela gyda chŵn.
Creulondeb i anifeiliaid yw pan nad yw rhywun yn gofalu am anifail neu'n brifo anifail yn fwriadol.
Gall gynnwys unrhyw beth o drais corfforol i drallod neu esgeulustod meddyliol bwriadol, er enghraifft peidio â bwydo neu lanhau anifail.
Os ydych chi'n gweld, neu'n amau, y gallai rhywun fod yn trin anifail yn wael, boed yn drais corfforol, esgeulustod neu unrhyw fath arall o greulondeb, dylech ei riportio yr RSPCA.
Rydym yn gweithio gyda’r RSPCA i ymchwilio i achosion o greulondeb i anifeiliaid.
Os yw eich partner, cyn bartner neu aelod o’r teulu wedi niweidio, neu’n bygwth niweidio, eich anifail anwes gall hyn fod yn fath o gam-drin domestig. Dysgwch fwy am greulondeb i anifeiliaid a cham-drin domestig.
Mae'n drosedd gadael i gi fod yn afreolus o beryglus – yn gyhoeddus neu'n breifat.
Ystyrir bod ci yn afreolus os yw’n:
Gall llys hefyd benderfynu bod eich ci yn afreolus o beryglus os:
Cofiwch, mae gan ffermwr yr hawl i ladd eich ci os yw’n poeni eu da byw.
Os gwelwch chi gi yn rhydd, riportiwch hynny ar-lein.
Os yw'n ymddangos ei fod allan o reolaeth, dywedwch wrthym trwy ffonio 101.
Yn y Deyrnas Unedig, mae yn erbyn y gyfraith i fod yn berchen ar rai mathau o gŵn. Mae’r cwestiwn a ydy'ch ci yn fath gwaharddedig yn dibynnu ar sut mae'n edrych, yn hytrach na'i frîd neu ei enw.
Mae'n drosedd i fod yn berchen ar gi XL Bully neu feddu ar gi XL Bully yng Nghymru a Lloegr oni bai bod gennych Dystysgrif Esemptio dilys.
Rhagor o wybodaeth am gŵn gwaharddedig.
Os ydych chi'n credu bod rhywun wedi neu yn bridio cŵn, riportiwch y peth ar-lein.
Os byddwch chi'n gweld ci gwaharddedig yn rhydd neu’n mae’n ymddangos nad yw’r ci o dan reolaeth, riportiwch y peth ar-lein neu ffoniwch 101.
Cyn ichi riportio bod ci wedi’i ddwyn, gwnewch yn siŵr nad yw’r ci:
Os ydych chi'n meddwl bod eich ci wedi'i ddwyn gallwch riportio’r peth ar-lein.
Byddwch yn barod i roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch inni, gan gynnwys:
Fe ddylech chi hefyd: