Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn y Deyrnas Unedig, mae yn erbyn y gyfraith i fod yn berchen ar rai mathau o gŵn, sef:
Mae cŵn XL Bully wedi’u gwahardd yng Nghymru a Lloegr.
Mae’n anghyfreithlon:
Mae’r cwestiwn a ydy'ch ci yn fath gwaharddedig yn dibynnu ar sut mae'n edrych, yn hytrach na'i frid neu ei enw.
Mae yn erbyn y gyfraith i adael i gi fod allan o reolaeth yn beryglus unrhyw le. Rhagor o wybodaeth am ystyr allan o reolaeth a’r cosbau.
Os oes gennych chi gi gwaharddedig, caiff yr heddlu neu warden cŵn y cyngor lleol ei gymryd i ffwrdd a'i gadw, hyd yn oed os:
Rhagor o wybodaeth am gŵn gwaharddedig.
Mae'n drosedd i fod yn berchen ar gi XL Bully neu feddu ar gi XL Bully yng Nghymru a Lloegr.
Mae'n anghyfreithlon ailgartrefu, gwerthu, prynu neu drosglwyddo perchnogaeth ci XL Bully i berson arall. Rhagor o wybodaeth am y gwaharddiad ar gŵn XL Bully.
Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi gi XL Bully a’ch bod chi heb wneud cais am Dystysgrif Esemptio, dylech chi gysylltu â ni.
Mae Tystysgrif Esemptio yn gadael ichi gadw ci gwaharddedig cyn belled ag nad yw'n ymddwyn yn beryglus, a'ch bod chi’n dilyn rheolau penodol. Mae'n ddilys drwy gydol oes y ci.
Os ydych chi'n credu bod gan rywun gŵn gwaharddedig neu’n bridio cŵn gwaharddedig, riportiwch y peth ar-lein.
Os byddwch chi'n gweld ci gwaharddedig yn rhydd, riportiwch y peth ar-lein.
Gallwch riportio niwsans neu aflonyddwch gan gi gwaharddedig, a allai gynnwys ci yn brathu.
Os yw'n ymddangos bod y ci allan o reolaeth, rhowch wybod inni drwy ffonio 101.
Os oes trosedd yn digwydd neu os oes rhywun mewn perygl, ffoniwch 999. Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaethSMSbrys.
Mae’n well gennyn ni eich bod chi’n cysylltu â ni a’n bod ni’n ymchwilio, na pheidio â chlywed gennych.
Does dim disgwyl i filfeddygon riportio cŵn XL Bully a'u perchnogion i'r heddlu. Rhagor o wybodaeth am iawndal a chadarnhau bod ci XL Bully wedi’i niwtro.