Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1. Yr ymchwiliad |
2. Eich hawliau yn ystod yr ymchwiliad |
3. Cyfeirio achos at Wasnaeth Erlyn y Goron |
4. Beth sy'n digwydd os bydd achos sbeicio yn mynd i dreial |
Os byddwn yn arestio’r un a amheuir, byddwn yn ei gyfweld ac yn casglu tystiolaeth. Bydd yr heddlu’n trosglwyddo’r holl dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron. Byddwn yn nodi holl amgylchiadau’r drosedd.
Bydd cyfreithiwr sydd wedi’i hyfforddi’n arbennig yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yn adolygu’r holl dystiolaeth. Ynghyd ag ail 'gyfreithiwr adolygu', byddant yn penderfynu a oes digon o dystiolaeth i fynd ymlaen i’r llys.
Yna bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn rhoi gwybod i’r heddlu a ddylid cyhuddo’r person dan amheuaeth ai peidio.
Byddant yn edrych ar y dystiolaeth ac yn penderfynu a ydynt yn credu bod cyfle realistig i ganfod yr unigolyn a amheuir yn euog. Os nad oes, bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cau’r achos.
Efallai y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron hefyd yn cau achos os yw’n penderfynu na all erlyniad fynd yn ei flaen am unrhyw reswm arall, er enghraifft os yw’r unigolyn a amheuir yn rhy hen neu sâl i sefyll prawf.
Os bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn penderfynu cyhuddo’r sawl a amheuir, yna bydd yr achos yn symud ymlaen i’r cam nesaf.
Os nad oes digon o dystiolaeth i barhau i erlyn, ni fyddwn yn cyfeirio’r achos at Wasanaeth Erlyn y Goron. Byddwn yn dirwyn yr ymchwiliad i ben. Byddwn yn dweud wrthych pam ein bod wedi penderfynu gwneud hynny.
Os ydyn ni’n penderfynu dirwyn yr ymchwiliad i ben, dydy hynny ddim yn golygu nad ydyn ni’n eich credu. Neu eich bod wedi gwastraffu eich amser yn rhoi gwybod i ni. Dydy hi ddim bob amser yn bosibl dod â phobl o flaen eu gwell drwy'r system cyfiawnder troseddol. Ond gall pob adroddiad ein helpu i atal troseddau yn y dyfodol.
Os nad ydych chi’n cytuno â phenderfyniad i gau eich achos (naill ai gan yr heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Goron), gallwch ofyn i’r penderfyniad gael ei adolygu o dan Gynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad.
Nid chi sy'n destun ymchwiliad, ac ni ddylai unrhyw un wneud i chi deimlo felly. Dylai ein hymchwiliad ganolbwyntio ar yr unigolyn dan amheuaeth, ac nid arnoch chi.
Ond efallai y byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym am unrhyw alcohol, cyffuriau anghyfreithlon neu bresgripsiwn y gallech fod wedi’u cymryd o’ch gwirfodd pan gawsoch eich sbeicio. Yr unig adeg y byddwn yn gofyn i chi am hyn yw os bydd yn ein helpu i ganfod pa fathau eraill o alcohol neu gyffuriau y gallai rhywun fod wedi’u defnyddio i’ch sbeicio.
Os gwnaethoch chi ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, fyddwch chi ddim mewn trwbl amdano oni bai eich bod yn gyrru. Ni fydd yn effeithio ar y ffordd rydyn ni’n trin eich adroddiad sbeicio.
Nesaf: Beth sy'n digwydd os bydd achos sbeicio yn mynd i dreial