Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1. Yr ymchwiliad |
2. Eich hawliau yn ystod yr ymchwiliad |
3. Cyfeirio achos at Wasanaeth Erlyn y Goron |
4. Beth sy'n digwydd os bydd achos sbeicio yn mynd i dreial |
Ar ôl i chi riportio sbeicio, byddwn yn ymchwilio er mwyn canfod a dod o hyd i’r sawl oedd wedi eich sbeicio.
Byddwn yn cymryd datganiad ffurfiol manwl gennych chi. Byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym yn eich geiriau eich hun beth ddigwyddodd mewn cymaint o fanylder â phosibl er mwyn helpu â’r ymchwiliad.
Byddwn yn neilltuo swyddog i’ch achos – bydd yn gyfrifol am ymchwilio a sicrhau’r holl dystiolaeth.
Gallai’r ymchwiliad gynnwys ceisio dod o hyd i luniau teledu cylch cyfyng neu dystion. Os oes unrhyw dystiolaeth fforensig, bydd hynny'n rhan o’r ymchwiliad hefyd. Er enghraifft, gwydr neu nodwydd.
Fel rheol, bydd eich swyddog yn rhoi gwybod i chi sut mae’r ymchwiliad yn mynd yn ei flaen o leiaf bob 28 diwrnod. Efallai y bydd yn fwy aml os oes unrhyw wybodaeth newydd.
Dim ond os byddwch yn rhoi eich enw a’ch manylion cyswllt i ni pan fyddwch yn riportio y byddwn yn gallu rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi. Rydyn ni’n deall efallai y byddai’n well gennych beidio â rhoi’r manylion hyn na chymryd rhan mewn ymchwiliad. Mae hynny’n iawn. Bydd eich adroddiad yn dal i’n helpu i fod yn fwy gwybodus am ddigwyddiadau sbeicio, a gall ein helpu i ddal y rhai sy’n gyfrifol. A gallwch bob amser roi eich manylion i ni yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Ar y pwynt hwn, efallai y bydd yn teimlo bod pethau’n arafu. Gall gymryd rhai wythnosau cyn i ni gael canlyniadau prawf fforensig os byddwn yn anfon eich sampl i ffwrdd i gael ei brofi.
Gall hefyd gymryd cryn amser i ni lunio’r achos cryfaf posibl. Mae ymchwiliadau fel arfer yn cymryd wythnosau yn hytrach na diwrnodau. Mewn nifer fach o achosion gallant gymryd llawer mwy o amser.
Mae cefnogaeth ar gael drwy gydol y broses gyfan.
Os gallwn ganfod a dod o hyd i’r sawl a amheuir, gallwn ei arestio. Byddwn ni’n cymryd i ystyriaeth eich dymuniadau chi, manylion yr achos a'r hyn sydd orau i'r cyhoedd yn ein barn ni.
Os ydyn ni wedi arestio’r un a amheuir, efallai y byddwn yn ei gadw yn y carchar yn ystod yr ymchwiliad. Neu efallai y byddwn yn ei ryddhau tra byddwn yn ymchwilio ymhellach i’r mater.
Os bydd yn cael ei ryddhau, efallai y bydd cyfyngiadau ar yr hyn y gall ei wneud. Er enghraifft, peidio â chysylltu â phobl benodol neu fynd i fannau penodol.
Ar ôl ymchwilio, gallwn benderfynu naill ai:
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn sefydliad sy’n gyfrifol am benderfynu pa achosion ddylai fynd i dreial yn y llys. Mae ar wahân i’r heddlu a’r llywodraeth.