Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi neu rywun arall wedi cael anaf, mewn perygl uniongyrchol neu angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Os ydych chi mewn perygl ond nad ydych chi’n gallu siarad ar y ffôn, gallwch ffonio 999, yna dilyn y cyfarwyddiadau hyn.
1. Eich corff |
2. Eich emosiynau |
3. Gwadu |
4. Os oes gennych chi broblem iechyd meddwl yn barod |
Mae pawb yn ymateb ac yn ymdopi yn ei ffordd ei hun os bydd rhywun yn ei sbeicio. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo. Mae angen cymorth meddygol brys ar rai dioddefwyr, ond dydy pawb ddim. Beth bynnag fo’ch sefyllfa, rydyn ni yma i chi.
Os ydych chi’n barod, gallwch riportio sbeicio ar-lein.
Ond os nad ydych chi eisiau siarad â ni, neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch, mae llawer o bobl a all helpu.
Chi sy’n rheoli pethau, a chi sy’n penderfynu gyda phwy rydych chi’n siarad a pha help rydych chi’n ei gael.
Gall fod yn anodd gwybod os yw rhywun wedi eich sbeicio. Ond os ydych chi’n teimlo’n rhyfedd neu fel petaech wedi cael mwy o alcohol i’w yfed nag ydych chi mewn gwirionedd, mynnwch help ar unwaith.
Os ydych chi’n teimlo’n sâl, dylech chwilio am sylw meddygol. Dywedwch wrthynt eich bod yn meddwl bod rhywun wedi eich sbeicio. Galwch am ambiwlans os bydd y symptomau’n gwaethygu.
Dod o hyd i wasanaethau brys y GIG:
Gall prawf fforensig ganfod a yw rhywun wedi eich sbeicio. Dim ond yr heddlu sy’n gallu cynnal prawf fforensig; gellir defnyddio’r canlyniad fel tystiolaeth os byddwn yn canfod pwy oedd wedi’ch sbeicio. Ond gallwch riportio sbeicio heb roi sampl ar gyfer prawf fforensig. Eich dewis chi fydd hyn.
Rhagor o wybodaeth am brofion fforensig
Gallai symptomau corfforol sbeicio gynnwys y canlynol:
Mae’r symptomau hyn fel arfer yn dechrau o fewn 15 munud i gael eich sbeicio, yn dibynnu ar yr hyn a ddefnyddiwyd i’ch sbeicio. Gallant bara am nifer o oriau.
Mae’n gallu bod yn anodd adnabod y symptomau gan eu bod yn amrywio yn dibynnu ar yr hyn a ddefnyddiwyd i’ch sbeicio. Gallant fod yn debyg i yfed gormod o alcohol. Neu efallai eich bod yn teimlo’n fwy meddw nag y dylech os ydy rhywun wedi rhoi mwy o alcohol i chi nag yr oeddech wedi cytuno iddo.
Ar yr un pryd, gall effeithiau alcohol fod yn debyg iawn i effeithiau rhai o’r cyffuriau a ddefnyddir wrth sbeicio. Mae hynny’n cynnwys teimlo rhai o’r effeithiau a ddisgrifiwyd uchod na fyddech yn eu disgwyl ar ôl cael ychydig o alcohol.
Efallai y byddwch yn sylwi ar effaith fwy o’r alcohol, er enghraifft, os ydych chi wedi blino neu’n sâl. Mae straen, defnydd o feddyginiaeth, a faint rydych chi wedi’i fwyta a’i yfed hefyd yn cael dylanwad.
Felly, efallai y byddwch yn teimlo’n sydyn fel petaech wedi cael cyffuriau hyd yn oed ar ôl ychydig o alcohol. Gall ymateb i ofn eich corff, yn ei dro, arwain at golli cof, pendro, crynu, poen yn yr abdomen a theimlo fel bod gennych lai o reolaeth.
Os byddwch chi’n riportioi’r heddlu am sbeicio, byddwn bob amser yn eich credu ac yn eich cefnogi. Byddwn yn eich gwahodd i roi sampl, a gallwn ei ddefnyddio mewn prawf fforensig. Ond os nad ydych chi eisiau rhoi sampl, mae hynny'n iawn.
Yn ogystal ag effeithiau corfforol, fel teimlo’n sâl neu’n chwil, efallai y byddwch yn teimlo amrywiaeth o emosiynau ar ôl i rywun eich sbeicio. Mae’r rhain yn ffyrdd normal o ymateb i brofiad bywyd sy’n achosi straen.
Mae sbeicio yn effeithio ar wahanol bobl mewn ffyrdd gwahanol. Mae emosiynau cyffredin yn cynnwys:
Efallai y byddwch yn teimlo anghrediniaeth ac yn meddwl, 'Pam fi?'. Gallech ei chael hi’n anodd siarad gyda’ch teulu a ffrindiau am gael eich sbeicio. Neu efallai y gwelwch fod angen i chi siarad am y peth yn aml er mwyn helpu i fynd â’r maen i’r wal.
Pan fydd rhywun yn eich sbeicio, gall effeithio ar eich perthynas â chydweithwyr, ffrindiau a pherthnasau. Er enghraifft, am nad ydynt yn eich credu. Efallai eich bod chi’n eu beio nhw am beidio ag atal yr hyn a ddigwyddodd i chi. Efallai y byddwch yn teimlo’n flin hyd yn oed a’ch bod wedi cael eich bradychu os oedd y sawl a oedd wedi eich sbeicio yn rhywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo.
Efallai y byddwch hefyd yn cael trafferth cofio beth ddigwyddodd. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n ansicr a oedd rhywun wedi eich sbeicio chi go iawn. Mae hynny’n normal.
Fel rydyn ni wedi dweud, mae pawb yn ymateb ac yn ymdopi yn ei ffordd ei hun os bydd rhywun yn ei sbeicio. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo.
Gall unrhyw un gael ei sbeicio mewn unrhyw le – ni waeth beth fo’i oedran, ei ryw, ei rywioldeb neu ei ethnigrwydd. Gellir gwneud hyn gan bobl ddiarth neu bobl rydych chi’n eu hadnabod. Dydych chi ddim ar fai.
Efallai y byddwch chi’n ymdopi â’r newyddion bod rhywun wedi eich sbeicio drwy smalio nad oedd wedi digwydd. Efallai na fydd hwn yn benderfyniad ymwybodol, ond yn ymateb greddfol. Efallai na fyddwch chi eisiau gwybod am rywun yn eich sbeicio na'i riportio. Mae hwn yn ymateb arall sy’n gwbl naturiol.
Mae pawb yn ymateb ac yn ymdopi yn ei ffordd ei hun. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo.
Weithiau mae’n bosibl y byddwch chi’n gweld bod gwadu’n digwydd y ffordd arall. Efallai y byddwch chi angen siarad am gael eich sbeicio, ond bod eich teulu a ffrindiau yn gwadu’r peth. Efallai y byddan nhw’n:
Gall pobl ymateb fel hyn oherwydd bod arnynt ofn i rywun eu sbeicio nhw. Efallai y byddant yn teimlo cywilydd wrth siarad amdano. Neu efallai eu bod wedi dychryn am fod rhywun wedi sbeicio rhywun sy'n annwyl iawn iddynt. Os nad ydynt yn siarad am y peth, gallant smalio nad oedd wedi digwydd.
Ond os ydych chi eisiau rhannu sut rydych chi’n teimlo gyda nhw a chael cefnogaeth, gall yr ymddygiad hwn eich brifo neu eich cynhyrfu. Os ydych chi’n teimlo fel hyn, rhowch gynnig ar ddweud wrthyn nhw sut rydych chi’n teimlo. Eglurwch fel y bydd siarad am y peth yn eich helpu.
Os yw’n berthnasol, dywedwch eich bod chi'n teimlo’r un mor ddryslyd ac ansicr â nhw ynghylch yr hyn a ddigwyddodd i chi.
Efallai y bydd y teimladau hyn yn fwy dwys os oes gennych chi broblem iechyd meddwl yn barod. Gallai wneud i symptomau eich problem iechyd meddwl deimlo’n waeth.
Dylech riportio i’r heddlu am unrhyw broblemau meddyliol rydych chi’n eu cael. Gallant drafod yr opsiynau o ran cymorth gyda chi.
Os oes angen cymorth meddygol brys arnoch, rhowch wybod i’r staff meddygol am eich problem iechyd meddwl.
Gall cael cymorth eich helpu i ymdopi a chynnal ansawdd eich bywyd.
Mae gan yr elusen iechyd meddwl Mind fwy o wybodaeth am broblemau iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am driniaeth a hunanofal.