Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych mewn perygl, ffoniwch 999 a cheisiwch siarad â’r teleffonydd, hyd yn oed drwy sibrwd. Efallai y gofynnir i chi besychu neu wasgu digidau eich ffôn i ateb cwestiynau.
Os na fyddwch yn siarad nac yn ateb cwestiynau, gwasgwch 55 pan ofynnir i chi a bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i’r heddlu.
Bydd gwasgu 55 ond yn gweithio ar ffonau symudol ac nid yw’n caniatáu i’r heddlu ganfod eich lleoliad.
Os na fyddwch yn gwasgu 55 bydd eich galwad yn cael ei therfynu.
Os nad ydych yn siarad neu’n ateb cwestiynau a bydd y teleffonydd ond yn clywed synau cefndir, bydd yn trosglwyddo eich galwad i’r heddlu.
Os byddwch yn rhoi’r darn llaw yn ôl yn ei grud, efallai y bydd y llinell dir yn parhau wedi'i chysylltu am 45 eiliad rhag ofn eich bod yn ei godi eto.
Mae ffonio 999 o linell dir yn rhoi gwybodaeth i’r heddlu am eich lleoliad yn awtomatig.