Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi neu rywun arall wedi cael anaf, mewn perygl uniongyrchol neu angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth emergencySMS.
Os ydych chi mewn perygl ond nad ydych chi’n gallu siarad ar y ffôn, gallwch ffonio 999, yna dilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Gall riportio sbeicio a throseddau sy’n ymwneud â sbeicio, fel lladrad ac ymosodiad rhywiol, fod yn frawychus.
Rydyn ni yma i’ch cefnogi p’un a ydych chi’n barod i riportio i ni neu petai’n well gennych siarad â rhywun arall. Fyddwn ni ddim yn eich beirniadu, byddwn yn eich trin â pharch, a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a’ch lles yn gyntaf.
Does dim bai arnoch am yr hyn a ddigwyddodd i chi. Gall unrhyw un gael ei sbeicio mewn unrhyw le – ni waeth beth fo’i oedran, ei ryw, ei rywioldeb neu ei ethnigrwydd. Gellir gwneud hyn gan bobl ddiarth neu bobl rydych chi’n eu hadnabod.
Gallwch riportio sbeicio ar-lein.
Os ydych chi wedi cael eich sbeicio ac mae rhywun wedi ymosod arnoch hefyd neu wedi dwyn rhywbeth gennych, gallwch ddweud wrthym am bopeth sydd wedi digwydd ar yr un pryd. Does dim rhaid i chi roi gwybod am bob peth ar wahân.
Byddwn ni’n trin eich adroddiad â’r un brys â phan fyddwch yn ffonio 999.
Mae rhywun ar gael i ateb ein rhif ffôn di-frys cenedlaethol 24 awr y dydd. Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch ni ar 101 a dweud beth ddigwyddodd neu ofyn am gyngor.
Os hoffech chi siarad wyneb yn wyneb â swyddog, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyfforddus yn unrhyw un o’n gorsafoedd heddlu.
Os oes angen cyfieithydd arnoch, gallwn ddarparu rhywun dros y ffôn i ddechrau ac wyneb yn wyneb yn nes ymlaen.
Dod o hyd i'ch gorsaf heddlu agosaf.
Os ydych chi’n riportio sbeicio, gallwch hefyd ddweud wrthym am unrhyw droseddau eraill a ddigwyddodd ar ôl i rywun eich sbeicio. Er enghraifft, ymosodiad rhywiol neu ladrad.
Dydy’r rhan fwyaf o achosion sbeicio ddim yn arwain at ymosodiad rhywiol neu ladrad. Ond mae sbeicio’n anghyfreithlon ac yn cario dedfryd o garchar, hyd yn oed os na ddigwyddodd unrhyw drosedd arall. Rydyn ni’n cymryd unrhyw achos sbeicio o ddifrif.
Os ydych chi am riportio sbeicio ond nad ydych chi eisiau gwneud hynny eich hun, gallwch ofyn i rywun arall riportio ar eich rhan.
Os ydych chi'n cael triniaeth frys mewn ysbyty neu ganolfan galw i mewn ar ôl cael eich sbeicio, gallwch ofyn i staff meddygol roi gwybod ar eich rhan.
Gallwch ddweud wrthym am sbeicio heb ddweud wrthym pwy ydych chi na rhoi eich manylion cyswllt. Gall yr adroddiadau hyn ein helpu i rwystro pobl rhag cael eu sbeicio yn y dyfodol.
Rydyn ni’n deall efallai y byddai’n well gennych beidio â rhoi eich enw yn eich adroddiad neu gymryd rhan mewn ymchwiliad. Mae hynny’n iawn. Ond mae hynny’n golygu efallai na fyddwn yn gallu ymchwilio’n llawn i’r mater. Y rheswm am hyn yw am nad oes modd i ni gysylltu â chi eto i ofyn mwy o gwestiynau. Gall hefyd amharu ar ein gallu i ddod o hyd i bwy bynnag wnaeth eich sbeicio. Ond gallwch bob amser roi eich manylion i ni yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Gallwch hefyd roi gwybodaeth am sbeicio yn ddienw drwy wefan Crimestoppers neu drwy ei ffonio ar 0800 555 111. Mae’n elusen annibynnol.
Gallwch riportio sbeicio a rhoi eich manylion i ni, ond dal i benderfynu peidio â chymryd rhan mewn ymchwiliad neu erlyniad llawn gan yr heddlu yn y llys. Ar ôl i chi riportio sbeicio, gallwch benderfynu a ydych chi am roi sampl wrin neu sampl gwaed i ni ar gyfer profion fforensig.
Beth bynnag y byddwch yn ei benderfynu, gallwn barhau i ddefnyddio unrhyw wybodaeth a rowch i ni er mwyn canfod patrymau sbeicio, lleoliadau neu droseddwyr a’i atal rhag digwydd eto. Yn enwedig os ydych chi’n teimlo eich bod yn gallu gwneud datganiad ffurfiol.
Gallwch riportoisbeicio ar ran rhywun arall rydych chi’n ei adnabod, neu fel tyst hyd yn oed os nad ydych chi’n adnabod y dioddefwr.
Os byddwch chi’n riportio ar ran rhywun arall, byddwn yn gofyn i chi a ydynt yn gwybod eich bod yn gwneud yr adroddiad ac a gawn ni gysylltu â nhw. Does dim angen i chi gael caniatâd ganddynt i riportio i ni.
Gallwch ddweud wrthym am rywbeth sydd wedi digwydd i rywun hyd yn oed os nad ydyn nhw na chithau eisiau rhannu eu manylion â ni.
Gallwch riportio sbeicio i ni os ydych chi’n gweithio mewn lleoliad neu ddigwyddiad. Er enghraifft, bar, clwb neu ŵyl. Does dim ots os nad oes gennych chi holl fanylion yr achos sbeicio.
Gallwch ddweud wrthym am rywbeth sydd wedi digwydd i rywun hyd yn oed os nad ydyn nhw na chithau eisiau rhannu eu manylion â ni.
Os byddwch chi’n riportio sbeicio i ni, bydd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar ganfod pwy wnaeth hynny a dod â nhw o flaen eu gwell.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r lleoliad i ddeall sut y digwyddodd hyn a sut y gallwn ni eu helpu i atal hyn rhag digwydd eto.
Hoffem wybod am unrhyw achos sbeicio, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio ers hynny. Does dim terfyn amser i riportio sbeicio. Does dim ots os nad ydych chi’n gallu cofio'r holl fanylion neu os nad ydych yn siŵr a oes unrhyw dystiolaeth.
Hyd yn oed os oes misoedd, blynyddoedd neu ddegawdau wedi mynd heibio, hoffem i chi ddweud wrthym amdano. Rydyn ni’n cymryd pob adroddiad o ddifrif, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.
Gall cael prawf ganfod a yw rhywun wedi eich sbeicio. Gall yr heddlu gynnal prawf fforensig ond os ydych chi'n credu bod rhywun wedi ymosod arnoch chi'n rhywiol, gall canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) wneud y profion fforensig hyn hefyd, yn ogystal â rhoi cymorth arbenigol i chi. Gellir defnyddio’r canlyniad fel tystiolaeth os byddwn yn canfod pwy oedd wedi’ch sbeicio.
Mae rhai cyffuriau’n gadael y corff o fewn 12 awr neu’n llawer cynt. Os byddwch yn riportio i ni cyn gynted â phosibl, gallwn gymryd sampl y gellid ei ddefnyddio ar gyfer prawf.
Mae cyffuriau eraill yn aros yn y corff am lawer hirach, felly efallai y byddwn yn gallu gwneud prawf hyd at saith diwrnod ar ôl y digwyddiad. Ond os oes mwy na saith diwrnod wedi mynd heibio ers i chi gael eich sbeicio, byddwn yn dal yn falch petaech yn ei riportio. Efallai y byddwn yn dal i allu ymchwilio a chasglu tystiolaeth.
Os oes rhywun wedi eich sbeicio ag alcohol, mae ffyrdd eraill y gallwn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd i chi.
Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n casglu tystiolaeth
Gallwch ddweud wrthym am sbeicio hyd yn oed os nad ydych chi eisiau bwrw ymlaen â phrawf fforensig ac ymchwiliad.
Er bod profion fforensig yn gallu dweud wrthych chi a ni a yw rhywun wedi eich sbeicio, chi sy’n rheoli pethau. Os nad ydych chi eisiau rhoi sampl gwaed neu wrin ar gyfer profion fforensig, mae hynny'n iawn.
Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi’n barod i riportio sbeicio, rydyn ni wedi paratoi gwybodaeth a allai eich helpu i benderfynu a yw riportio yn addas i chi.