Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi neu rywun arall wedi cael anaf, mewn perygl uniongyrchol neu angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Os ydych chi mewn perygl ond nad ydych chi’n gallu siarad ar y ffôn, gallwch ffonio 999, yna dilyn y cyfarwyddiadau hyn.
1. Dywedwch wrthym am sbeicio |
2. Os digwyddodd yr achos sbeicio yn ddiweddar |
3. Riportio sbeicio a ddigwyddodd beth amser yn ôl |
4. Sut rydyn ni'n casglu tystiolaeth |
5. Riportio'n ddienw |
Os yw rhywun wedi cael ei sbeicio a ddim yn teimlo ei fod yn gallu siarad â'r heddlu eto, gallwch ei riportio eich hun. Byddwn yn cofnodi’r digwyddiad ac yn gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod y dioddefwr yn iawn.
Os byddwch chi’n riportio ar ran rhywun arall, byddwn yn gofyn i chi a ydynt yn gwybod eich bod yn gwneud yr adroddiad ac a gawn ni gysylltu â nhw ai peidio.
Ar ôl i chi riportio, byddwn yn cysylltu â’r unigolyn hwnnw cyn gynted ag y bydd yn ddigon da i roi datganiad dioddefwr.
Ond gallwch ddweud wrthym am sbeicio hyd yn oed os nad yw’r dioddefwr na chithau eisiau rhannu manylion cyswllt â ni.
Hoffem wybod am unrhyw achos sbeicio, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio ers hynny. Does dim ots os nad ydych chi’n gwybod holl fanylion yr hyn a ddigwyddodd i’r sawl a gafodd ei sbeicio. Neu os nad ydych chi’n siŵr a oes unrhyw dystiolaeth.
Os yw’r sawl a gafodd ei sbeicio yn teimlo’n sâl, dylech gael sylw meddygol brys iddynt. Dywedwch wrtho ef/hi eich bod yn meddwl bod rhywun wedi ei sbeicio. Galwch am ambiwlans os bydd y symptomau’n gwaethygu.
Dod o hyd i wasanaethau brys y GIG:
Os ydych chi’n credu bod ymosodiad rhywiol wedi digwydd, ewch â nhw i’ch canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) agosaf i gael cymorth a gofal arbenigol.
Dod o hyd i'ch SARC agosaf:
Gall riportio'r ymosodiad rhywiol gyda sbeicio ar ran dioddefwr fod yn drawmatig iddo ef/hi. Os yw’n bosibl, gofynnwch iddo ef/hi a yw eisiau i chi riportio i’r heddlu cyn i chi gysylltu â ni. Ond nid oes angen ei ganiatâd arnoch i riportio'r digwyddiad i ni os ydych chi’n teimlo bod angen i ni gael gwybod amdano.
Rydyn ni’n deall y gall hyn fod yn anodd os yw’r sawl yr ymosodwyd arno yn rhywun sy'n annwyl i chi. Gallwch riportio'r digwyddiad i ni am y tro. Byddwn yn siarad â’r dioddefwr cyn gynted ag y bydd yn gallu gwneud hynny er mwyn iddo ef/hi allu adrodd am yr hyn a ddigwyddodd yn ei eiriau ei hun.
Gallwch riportio ddigwyddiad sbeicio a ddigwyddodd i rywun arall ar unrhyw adeg ar-lein. Gallwch wneud hyn hyd yn oed os oes misoedd, blynyddoedd neu ddegawdau wedi mynd heibio ers hynny. Os ydych chi’n riportio achos sbeicio a ddigwyddodd fwy na saith diwrnod yn ôl, efallai y byddwn yn dal i allu ymchwilio a chasglu tystiolaeth.
Rydyn ni’n cymryd pob adroddiad o ddifrif, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio.
Os digwyddodd yr achos sbeicio yn ystod y saith diwrnod diwethaf, efallai y byddwn yn gofyn i’r sawl a gafodd ei sbeicio i roi sampl wrin neu sampl gwaed i ni ar gyfer prawf fforensig. Gall hyn ganfod a yw rhywun wedi ei sbeicio.
Mae prawf fforensig yn golygu y gallwn ddefnyddio’r canlyniad mewn tystiolaeth yn y llys os byddwn yn canfod, ac yn dal, y sawl oedd wedi’i sbeicio. Os ydyn nhw'n credu bod rhywun wedi ymosod arnyn nhw yn rhywiol, gall canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) wneud y profion fforensig hyn hefyd, yn ogystal â rhoi cymorth arbenigol iddyn nhw.
Mae rhai cyffuriau’n gadael y corff o fewn 12 awr neu’n llawer cynt. Os byddwch yn riportio cyn gynted â phosibl, gallwn gymryd sampl y gellid ei ddefnyddio ar gyfer prawf. Mae cyffuriau eraill yn aros yn y corff am lawer hirach, felly efallai y byddwn yn gallu gwneud prawf ar y dioddefwr hyd at saith diwrnod ar ôl y digwyddiad.
Os oes rhywun wedi ei sbeicio ag alcohol, mae ffyrdd eraill y gallwn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd iddo ef/hi.
Os oes tystiolaeth arall o bosibl, byddwn yn gofyn i chi ei diogelu os oes modd. Gallai hyn gynnwys rhywbeth y gallai’r troseddwr fod wedi’i adael ar ei ôl ar y safle. Er enghraifft, gwydr neu nodwydd. Gallai ein helpu i brofi beth ddigwyddodd. Ond peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n credu bod tystiolaeth.
Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n casglu tystiolaeth
Gallwch riportio sbeicio heb ddweud wrthym pwy ydych chi na rhoi eich manylion cyswllt. Ac os nad yw’r dioddefwr eisiau i chi rannu ei fanylion â ni, hoffem glywed gennych o hyd.
Gall yr adroddiadau hyn ein helpu i rwystro pobl rhag cael eu sbeicio yn y dyfodol.
Efallai na fydd modd i ni ymchwilio'n llawn i’r mater os na fyddwch yn rhoi eich manylion i ni. Y rheswm am hyn yw am nad oes modd i ni gysylltu â chi eto i ofyn mwy o gwestiynau. Gall hefyd amharu ar ein gallu i ganfod pwy bynnag wnaeth eich sbeicio. Ond gallwch bob amser roi eich manylion i ni yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Gallwch hefyd riportio sbeicio yn ddienw drwy wefan Crimestoppers neu drwy ei ffonio ar 0800 555 111.