Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi neu rywun arall wedi cael anaf, mewn perygl uniongyrchol neu angen cymorth ar unwaith, ffoniwch 999 nawr.
Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu ar eich lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth emergencySMS.
Os ydych chi mewn perygl ond nad ydych chi’n gallu siarad ar y ffôn, gallwch ffonio 999, yna dilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Os ydych chi wedi gweld rhywun yn sbeicio pobl eraill neu os ydych chi’n gwybod bod rhywun yn sbeicio pobl, gallwch chi riportio fel tyst. Byddwn yn cofnodi’r digwyddiad ac yn cymryd camau i atal rhagor o achosion sbeicio, os yw’n bosibl.
Hoffem wybod am unrhyw achos sbeicio, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio ers hynny. Does dim terfyn amser i riportio sbeicio. Does dim ots os nad ydych chi’n gallu cofio'r holl fanylion neu os nad ydych yn siŵr a oes unrhyw dystiolaeth.
Mae’n bwysig iawn riportio sbeicio. Os nad yw’r heddlu’n gwybod lle mae troseddau’n digwydd, does dim modd iddynt gymryd camau i atal rhagor o ddigwyddiadau neu ddal y sawl sy’n gyfrifol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd ychydig o dystiolaeth neu ddim tystiolaeth o gwbl, ond byddwn yn dal yn falch petaech yn riportio sbeicio i ni.
Ar ôl i chi riportio sbeicio fel tyst, byddwn yn gwneud yn siŵr mai ni yw’r heddlu priodol i ymchwilio i’r drosedd. Er enghraifft, os byddwch chi’n mynd allan mewn tref wahanol i’r un rydych chi’n byw ac yn gweld rhywun yn sbeicio. Yn yr achos hwnnw, byddem yn anfon eich adroddiad at yr heddlu perthnasol a nhw fyddai’n ymchwilio i’r mater.
Byddwn yn edrych ar yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni, ac yn penderfynu a oes modd i ni ymchwilio ymhellach i’ch adroddiad. Os byddwn yn penderfynu na allwn ymchwilio i’ch adroddiad, byddwn yn cysylltu â chi i egluro pam.
Rydyn ni’n seilio ein penderfyniad ar bedwar ffactor allweddol:
Os byddwn yn penderfynu ein bod yn gallu ymchwilio i’r achos, dyma rai o’r camau y gallem eu cymryd:
Ar ôl cwblhau ein hymchwiliad cychwynnol, byddwn naill ai’n cau’r achos neu’n parhau â’r ymchwiliad. Er enghraifft, byddwn yn cau’r achos os nad oes unrhyw lwybrau eraill y gallwn eu dilyn ar yr adeg honno.
Weithiau byddwn yn cael gwybodaeth newydd neu’n dod o hyd i dystiolaeth newydd. Os ydy hynny'n digwydd gallwn ailagor yr ymchwiliad a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi.
Beth bynnag sy’n digwydd, mae eich adroddiad a’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu â ni yn werthfawr. Mae’n helpu i benderfynu ble a phryd rydyn ni’n defnyddio adnoddau’r heddlu i gadw golwg ar droseddau a’u hatal.
Byddwn yn neilltuo swyddog ymchwilio ar eich cyfer. Bydd y swyddog hwn yn cysylltu â chi yn ystod yr ymchwiliad i ateb unrhyw gwestiynau ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.
Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen eich help arnom eto - er enghraifft, os bydd angen i chi adnabod yr un a amheuir.
Os bydd yr ymchwiliad yn arwain at achos llys, bydd y swyddog ymchwilio yn eich cyflwyno i’r Uned Achosion Tystion. Bydd yn eich arwain drwy bob cam o’r broses.
Hyd yn oed os nad ydych chi eisiau mynd i’r llys, efallai y bydd yn rhaid i chi. Mae’n dibynnu ar ba mor bwysig yw eich tystiolaeth i’r treial. Os oes rhaid i chi fynd i’r llys, efallai y bydd y llys yn anfon gwŷs tyst atoch. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fynd i'r llys pan mae’r wŷs yn dweud wrthych am wneud hynny.
Os nad ydych chi eisiau mynd i’r llys am fod rhywun yn eich bygwth, dylech ddweud wrthym. Mae’n drosedd bygwth unrhyw un sy’n helpu’r heddlu gydag ymchwiliad.
Efallai y bydd gennych wybodaeth neu dystiolaeth newydd am adroddiad tyst. Gallwch ddiweddaru neu dynnu eich datganiad tyst yn ôl ar unrhyw adeg ar-lein neu drwy gysylltu â’r swyddog ymchwilio.
Os byddwch yn tynnu eich datganiad tyst yn ôl, efallai y bydd yr achos yn dal i fynd i dreial. Er enghraifft, os rydyn ni’n hyderus bod digon o dystiolaeth i erlyn yr unigolyn a amheuir.
Os ydych chi eisiau tynnu eich datganiad yn ôl am eich bod yn nerfus ynglŷn â rhoi tystiolaeth yn y llys, dywedwch wrth y swyddog ymchwilio sut rydych chi’n teimlo. Efallai na fydd angen i chi roi tystiolaeth yn y llys, er enghraifft os yw’r sawl a amheuir yn pledio’n euog.
Gallwch riportio sbeicio fel tyst heb roi eich enw na’ch manylion cyswllt i ni. Ond ni fyddwn yn gallu cysylltu â chi yn ystod ein hymchwiliad os oes gennym unrhyw gwestiynau, ac ni fydd modd i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi.
Os yw’n well gennych roi gwybodaeth am sbeicio fel tyst yn ddienw i rywun ar wahân i’r heddlu, gallwch roi’r wybodaeth hon i Crimestoppers, sef yr elusen annibynnol sy'n brwydro yn erbyn trosedd.
Mae gwybodaeth a roddir yn ddienw drwy Crimestoppers yn werthfawr iawn i’n helpu i gynllunio sut rydyn ni’n plismona pob ardal.
Gallwch gysylltu â nhw drwy'r wefan neu drwy ffonio 0800 555 111.
Mae tystion troseddau yn cael eu hamddiffyn dan y Siarter Tystion. Mae’r siarter yn esbonio'r cymorth y gallwch chi ei gael a sut y dylech gael eich trin.
Mae gan bawb sy'n dyst i drosedd hawl i’r canlynol:
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae tystion a dioddefwyr troseddau’n cael eu trin a’r gwasanaethau eraill sydd ar gael, ewch i wefan llywodraeth y DU.