Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth i'w ddisgwyl fel dioddefwr neu dyst i drosedd |
2. Beth sy'n digwydd ar ôl ichi riportio trosedd? |
3. Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad |
4. Rhoi datganiad tyst neu ddatganiad dioddefwr |
5. Mynd i'r llys |
6. Beth sy'n digwydd ar ôl y treial? |
7. Mudiadau cymorth i ddioddefwyr a thystion |
Mae’r cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad (VRR) yn rhoi hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad o benderfyniad gan yr heddlu i beidio â chyhuddo rhywun sydd dan amheuaeth.
Mae’r VRR yn gymwys i achosion lle mae rhywun sydd dan amheuaeth wedi'i adnabod ac wedi’i gyfweld dan rybudd. Mae hyn yn digwydd naill ai ar ôl iddyn nhw gael eu harestio neu am eu bod wedi gwirfoddoli i roi cyfweliad.
Mae gennych chi hawl i ofyn am adolygiad os bydd yr heddlu'n penderfynu:
peidio â chyhuddo rhywun
neu
lle mae'r heddlu'n penderfynu nad yw'r achos yn bodloni'r prawf i Wasanaeth Erlyn y Goron (GEG) benderfynu cyhuddo rhywun
Dim ond pan benderfynir peidio â chyhuddo neu beidio â throsglwyddo'r achos i'r GEG i wneud penderfyniad i gyhuddo rhywun y mae’r VRR yn gymwys.
Nid yw'n ymdrin â phenderfyniadau ynghylch a ydy trosedd yn cael ei chofnodi neu a all ymchwiliad i drosedd barhau. Os yw’r GEG yn penderfynu peidio â chyhuddo rhywun, mae eu gwefan yn esbonio beth allwch chi ei wneud.
Nid yw’r VRR yn gymwys i achosion:
Weithiau mae ymchwiliad i drosedd yn parhau, felly er bod yr heddlu wedi penderfynu a ddylai rhywun sydd dan amheuaeth gael ei gyhuddo neu beidio, gall ystyried VRR gael ei ohirio nes bod yr ymchwiliad wedi'i gwblhau
Mae'r cynllun yn gymwys i unrhyw benderfyniad a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015.
Os yw’ch cais chi am adolygiad yn ymwneud â chynllun VRR y GEG, gallwch ofyn am adolygiad ar benderfyniad a wnaed ar neu ar ôl 5 Mehefin 2013. Gan mai cynllun gan y GEG yw hwn, mae'r hawl i gael adolygiad yn eu dwylo nhw. Ewch i wefan y GEG i gael rhagor o wybodaeth.
Rhaid ichi ofyn am adolygiad o fewn tri mis ar ôl y penderfyniad i beidio â chyhuddo.
Os yw'r achos yn gymwys o dan y cynllun, gall unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd ofyn am adolygiad o'r achos.
Gall pobl eraill wneud cais ar ran dioddefwr. Mae'r rhain yn cynnwys:
Gallwch ofyn i rywun weithredu ar eich rhan, fel cyfreithiwr neu Aelod Seneddol (AS). Os gwnewch chi hynny, bydd arnon ni angen cadarnhad ysgrifenedig bod ganddyn nhw ganiatâd i weithredu ar eich rhan.
I ofyn am adolygiad o benderfyniad gan yr heddlu i beidio â chyhuddo, dechreuwch ein ffurflen ar-lein.
Neu ysgrifennwch at:
Penderfyniad GEG
CPS Direct
6th Floor
United House
Piccadilly
York YO1 9PQ
Neu Ffoniwch GEG ar 01904 545 592 (rhwng 9yb tan 5yh, dydd Llun i dydd Gwener)
Penderfyniad Heddlu Gogledd Cymru
Ein nod yw cysylltu â phobl o fewn 10 diwrnod gwaith er mwyn rhoi gwybod ein bod ni wedi cael eu cais.
Bydd swyddog, nad oedd yn rhan o'r achos, yn cael ei neilltuo i adolygu'r achos. Nid adolygu'r penderfyniad blaenorol yw rôl y swyddog, ond edrych o'r newydd ar y dystiolaeth a gwneud ei benderfyniad ei hun.
Fel arfer, mae adolygiad yn cael ei gwblhau o fewn 30 diwrnod gwaith. Mewn achosion cymhleth neu sensitif, gall gymryd mwy o amser. Fe gewch chi diweddariadau rheolaidd.
Mae chwe chanlyniad posibl i adolygiad:
Byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod ichi am y canlyniad.
Os nad ydych chi’n fodlon â'r penderfyniad, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys am adolygiad barnwrol.