Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Boed eich bod yn ymuno â ni mewn rôl iwnifform neu fel staff heddlu, gallwch edrych ymlaen at ystod o gyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu.
O gysgodi swyddi i ddysgu am rolau ac unedau eraill, i astudio am gymwysterau arwain, mae llawer o opsiynau ar gyfer twf personol. Boed eich bod yn edrych ar symud i fyny’r rhengoedd neu ddatblygu sgiliau newydd, gweithiwn gyda chi i’ch cynorthwyo i gyrraedd eich llawn botensial.
Rhown i chi’r galluoedd yr ydych eu hangen i wneud eich gwaith, boed fod hynny ar y rheng flaen neu du ôl i’r llenni mewn rôl mewn swyddfa.
Rydym eisiau i bob aelod o Dîm HGC i fod yn arweinydd hyderus. I gyflawni hyn defnyddiwn ystod gynhwysfawr o offer datblygu, o secondiadau proffesiynol a chyfleoedd ymarferwyr uwch, i fentora ac adborth 360.
Mae bob gweithiwr HGC yn derbyn gwerthusiadau chwarterol a blynyddol fel rhan o’n rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Ynghyd â chofnodi eich cynnydd a gwirio eich bod yn bodloni eich amcanion personol, mae’r broses DPP yn ein cynorthwyo i nodi sut gallwch dyfu o fewn y sefydliad.
Eisiau astudio yn eich amser sbâr? Efallai y gallwn eich cynorthwyo i dalu amdano. Gall gweithwyr am gymorth ariannol a gall dderbyn hyd at 75% o’r ffioedd cwrs. Rydym wedi cynorthwyo pobl i gwblhau cyrsiau hyd at lefel gradd meistr.