Rydym yn cydnabod nad yw bywyd bob amser yn hawdd.
Os byddwch chi’n mynd trwy gyfnod anodd, mi fyddwn ni yma i roi help llaw – boed yn gorfforol, yn feddyliol neu’n emosiynol. Gall ein Huned Iechyd Galwedigaethol, ein Rhaglen Les, a Chaplan yr Heddlu ddarparu’r help all fod ei angen arnoch. Hefyd, trwy ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu neu’r undeb llafur UNSAIN bydd gennych yr hawl i bob math o gymorth, gan gynnwys cyngor cyfreithiol ac ariannol.
Ar y llaw arall, pan fydd pethau’n mynd yn dda, rydym yn hoffi dathlu hynny. Yn ogystal â’n rhaglen Wobrwyo a Chydnabod, rydym yn cynnal seremoni wobrwyo flynyddol sy’n rhoi cyfle inni ymfalchïo yn y gwaith ardderchog a wneir trwy gydol y flwyddyn.
Mae pob un ohonom yn perthyn i un #teulu plismona – trwy’r dyddiau da a’r dyddiau du.
Cymorth mewnol
Gwyddom fod angen i bobl fod ar eu gorau ar lefel bersonol i berfformio’n dda ar lefel broffesiynol. Mae ein rhaglen les fewnol ‘Mae Ffordd o Fyw’n Bwysig’ yn darparu cyngor a chymorth o fewn pedwar prif faes:
Corff Iach
- Mae ein Huned Iechyd Galwedigaethol yn cynnig gwasanaeth sgrinio iechyd i unrhyw un sydd â diddordeb, yn ogystal â phrofion meddygol blynyddol ar gyfer rhai swyddi.
- Mae Hyfforddwr Hyfforddiant Corfforol yr Heddlu’n cynnig cymorth ffitrwydd i unigolion a grwpiau, p’un ai ydych chi’n swyddog newydd sy’n mynd trwy hyfforddiant cyfnod prawf, neu’n aelod staff sy’n cael trafferth cyrraedd y safon ffitrwydd ofynnol ar gyfer eich rôl.
- Gallwn helpu i ariannu cwrs o ffisiotherapi os oes ei angen arnoch.
- Gallwn eich cyfeirio at Ganolfannau Triniaeth yr Heddlu mewn gwahanol leoliadau ar draws y Deyrnas Unedig os oes angen triniaeth arnoch i adfer eich iechyd yn llawn yn dilyn salwch neu anaf (Heddweision, SCCH, Swyddogion Gwirfoddol a Swyddogion Carcharu y Ddalfa)
- Mae Cymdeithas Chwaraeon Heddlu Gogledd Cymru’n darparu amrywiaeth eang o glybiau a chystadlaethau chwaraeon – gallwch ymuno i gadw’n iach a heini a gwneud ffrindiau newydd!
- Mae gan nifer o orsafoedd gampfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd ar y safle
- Fel rhan o’r cynllun ‘Beicio i’r Gwaith’ gallwch gael help i brynu beic ar gyfer eich siwrnai ddyddiol i’r gwaith.
Meddwl Iach
- Mae gwasanaethau cwnsela ar gael i’r rhai sy’n mynd trwy amser anodd neu’n cael problemau iechyd meddwl
- Mae gwasanaeth sgrinio lles ar gael i’r rhai sy’n wynebu sefyllfaoedd anodd ac annifyr fel rhan o’u gwaith
- Mae ein Cynorthwywyr Cyfoedion (Iechyd Meddwl) yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol i gydweithwyr ar draws Heddlu Gogledd Cymru, gan gynnig clust i wrando a chyfeirio pobl at gymorth mwy ffurfiol pan fo angen
- Mae ein Caplan Gwirfoddol yn cynnig ‘clust’ gyfeillgar a chyfrinachol i bob un sydd angen rhywun i siarad â nhw, beth bynnag yw’r sefyllfa neu’r pwnc, a beth bynnag yw eu cefndir crefyddol
- Mae gwybodaeth ac adnoddau ar gael i’ch helpu i gael iechyd meddwl da.
Sefyllfa Ariannol Iach
- Cyflogau cystadleuol
- Taliadau bonws am waith o natur hynod o ymdrechgar, annymunol neu bwysig
- Cynllun pensiwn
- Cyfnodau absenoldeb mamolaeth/tadogaeth/mabwysiadu hael
- Taliadau salwch sydd uwchlaw’r cyfraddau statudol
- Cantinau sydd wedi’u sybsideiddio
- Gostyngiad ar amrywiaeth eang o gynnyrch a gwasanaethau trwy’r cynllun Golau Glas a chwmni Out There (a negodwyd gan Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru)
- Syrjeris ariannol am ddim gyda chynghorwyr ariannol lleol
- Cyngor ariannol am ddim gan Police Mutual
Bywyd Gwaith Iach
- Mae’r gwyliau blynyddol yn dechrau ar 22 diwrnod (heddwas) neu 25 diwrnod (staff heddlu a SCHH), sy’n cynyddu’n raddol gyda blynyddoedd o wasanaeth
- Wyth diwrnod gŵyl banc y flwyddyn gyda thâl, yn ogystal â’r hawl i ofyn am wyliau banc gwahanol os nad yw’r diwrnodau safonol yn cyd-fynd â’ch arferion crefyddol
- Rydym yn croesawu ceisiadau i weithio’n hyblyg, ac yn anelu at gefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu
- Gallwn fodloni gofynion gweithio’n ystwyth gyda rhai swyddi
Cymorth ychwanegol
Fel cyflogwr teg a thryloyw, byddwn yn gweithio’n agos â Ffederasiwn yr Heddlu ac UNSAIN i sicrhau bod popeth a wnawn ni ers eich lles pennaf chi
Ffederasiwn yr Heddlu
Gall heddweision ar bob lefel, o Gwnstabliaid i’r Prif Arolygydd, ymuno â Ffederasiwn yr Heddlu. Mae aelodaeth yn arwain at amrywiaeth eang o fuddiannau, gan gynnwys:
- Cynrychiolwyr lleol i’ch helpu gyda materion sy’n gysylltiedig â gwaith
- Cyngor a chymorth ar dâl ac amodau
- Cynrychiolaeth gyfreithiol a phroffesiynol mewn achosion o ddamweiniau ar ddyletswydd, gweithdrefnau cwyno neu ymchwiliadau i gamymddwyn
- Cyngor a chymorth cyfreithiol am ddim
- Mynediad i’r Cynllun Yswiriant Grŵp, gan gynnwys yswiriant bywyd, ac yswiriant ar gyfer salwch difrifol, damweiniau personol, costau cyfreithiol, a mwy
- Rhaglen Cefnogi Lles a mynediad i ystod o wasanaethau iechyd
- Mynediad i undeb Copperpot Credit ar gyfer benthyciadau, cynilion a morgeisi
- Cyngor proffesiynol ar ddyledion, gwneud ewyllys a sefydlu ymddiriedolaeth
- Bargeinion arbennig ar ffonau symudol, ceir, gwyliau, a mwy
UNSAIN
Mae staff yr Heddlu a SCHH sy’n ymuno ag UNSAIN yn cael y buddiannau canlynol, a llawer mwy.
- Mynediad uniongyrchol i gynrychiolwyr all eich helpu gyda phob math o faterion sy’n ymwneud â chyflogaeth
- Gwasanaethau cyfreithiol – cymorth gyda materion sy’n gysylltiedig â gwaith, cyngor cyfreithiol cychwynnol am ddim ar faterion eraill, a mynediad am ddim i gwmni cyfreithiol cymeradwy UNSAIN (ar gyfer rhai gwasanaethau cyfreithiol)
- Elusen lles Yno i Chi – cyngor a chymorth cyfrinachol ar faterion personol, lles, a materion ariannol
- Llinell Ddyledion (ffôn) a Chlinig Dyledion (ar-lein) – ar gael i holl aelodau UNSAIN i helpu i reoli arian a mynd i’r afael â dyledion
- Undeb credyd – mynediad i fenthyciadau llog isel ac ystod o gynnyrch cynilo
- Help gyda chost seibiannau lles - i gael hoe pan fydd yr amgylchiadau’n anodd
Ewch i wefan UNSAIN i ddysgu mwy am yr undeb.
Un Heddlu – Un Tîm
Hefyd, mae gennym nifer o gymdeithasau a rhwydweithiau sy’n cefnogi aelodau staff o wahanol grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.
Rydym yn croesawu amrywiaeth yn y gweithle ac rydym am ddarparu amgylchedd lle gall pob un gyflawni hyd eithaf ei botensial.