Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym o’r farn bod pobl yn perfformio’n well os allan’ nhw fod yn nhw’u hunain yn y gwaith.
Ein nod yw sicrhau bod ein holl weithwyr yn teimlo’n gyfforddus yn y gweithle, waeth beth yw eu hanabledd, ethnigrwydd, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.
Mae Cymdeithas Heddlu Du ac Asiaidd (BAPA) HGC yn rhwydwaith sy'n cynorthwyo Swyddogion Heddlu, SCCH, Staff yr Heddlu, Swyddogion Gwirfoddol a Gwirfoddolwyr o leiafrifoedd ethnig o bob rheng a gradd ledled yr Heddlu. Mae ganddi sawl nod, o wella amgylchfyd gwaith staff Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) o fewn HGC, i gynorthwyo'r Heddlu wrth gyflawni gwasanaethau i bob rhan o'r gymuned. Mae'n gweithio'n galed i ddarparu presenoldeb gweladwy ac yn llais i holl bobl o leiafrifoedd ethnig yn ein gweithle.
Mae’r Rhwydwaith Cymorth Anableddau yn ceisio cynorthwyo holl bobl anabl, boed yn weithwyr neu'n wirfoddolwyr o fewn HGC. Mae hefyd yn ymestyn y cymorth hwn i holl weithwyr a gwirfoddolwyr sy'n gofalu am bobl anabl. Mae'r Rhwydwaith Cymorth Anableddau yn gweithredu fel rhwydwaith cymorth anffurfiol i unigolion. Mae'n weithgar wrth godi ymwybyddiaeth am faterion a phryderon anabledd. Mae'n cynrychioli ei aelodau mewn grwpiau strategol allweddol.
Wedi'i lansio'n wreiddiol yn 2003 fel Cymdeithas Merched Heddlu Gogledd Cymru, mae'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhywedd bellach yn cynrychioli pawb yn Heddlu Gogledd Cymru. Y cymhelliad tu ôl i'r trosglwyddiad hwn yw darparu rhwydwaith mwy cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar broblemau rhywedd sy'n effeithio ar ein holl swyddogion, staff a gwirfoddolwyr. Y nod yw annog, cynorthwyo ac ysbrydoli pawb gyrraedd eu llawn botensial a sicrhau tegwch i bawb.
Mae gan y rhwydwaith LHDT+ y nod o annog holl staff LHDT i gyflawni eu llawn botensial, yn broffesiynol ac yn bersonol. Mae'n cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth am ystod o faterion penodol i Gyfeiriadedd Rhywiol a Thrawsrywiol. Mae'n rhoi'r cyfle i ddatblygu cysylltiadau proffesiynol a chymdeithasol yn y gweithle.
Yn ogystal â rhwydweithiau penodol Heddlu Gogledd Cymru, mae yna nifer o rwydweithiau cenedlaethol sy’n darparu cymorth i heddweision a staff ar bob lefel:
Rydym yn gweithio’n agos â chynrychiolwyr y rhwydweithiau hyn i wneud yn siŵr bod Heddlu Gogledd Cymru’n lle positif a chefnogol i weithio.
Rydym wedi’n cydnabod fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Mae hynny’n golygu ein bod yn anelu at recriwtio a chadw pobl anabl a phobl gyda chyflyrau iechyd, am eu sgiliau a’u talent. Rydym wedi ymrwymo i’r egwyddorion canlynol:
Gallwch nodi ar eich ffurflenni cais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau arnoch i’ch galluogi i wneud y gwaith, neu i’ch cynorthwyo gyda’ch cais. Rydym am sicrhau, hyd y bo modd, ein bod yn cael gwared ag unrhyw rwystrau all eich atal rhag gwneud cais.
Os byddwch chi’n ymuno â ni gydag anabledd neu gyflwr meddygol, ein nod yw eich cynorthwyo i gyflawni’ch rôl yn effeithiol. Lle bo modd, byddwn yn trefnu addasiadau rhesymol er mwyn ichi allu gwneud hynny.
Pa rôl bynnag yr hoffech wneud cais amdani, rydym yn addo darparu cyfle cyfartal. Os gallwch ein helpu i greu Gogledd Cymru fwy diogel, yna rydym yn croesawu eich cais - beth bynnag yw eich oedran, credoau, anabledd, ethnigrwydd, rhyw, hil neu gyfeiriadedd rhywiol.