Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yma gallwch weld lefel y bygythiad presennol i’r DU gan ymosodiadau terfysgol a beth mae’r heddlu’n ei wneud o ddydd i ddydd i gadw’r wlad yn ddiogel. Cewch hefyd atebion i gwestiynau cyffredin am ein tactegau plismona a sut rydym yn ymchwilio terfysgaeth.
Mae pum lefel bygythiad:
Pennir y lefel gan y Gyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a’r Gwasanaeth Diogelwch (MI5).
Edrychwch ar lefel y bygythiad terfysgaeth presennol.
Ein prif flaenoriaeth yw cadw’r cyhoedd yn ddiogel drwy weithio’n agos gyda’n holl gymunedau.
Rydym yn adolygu ein hymgyrchoedd a’n cynllunio wrth gefn yn gyson, gan gydweithio â llywodraeth ganolog a lleol, y gwasanaethau brys ac asiantaethau eraill.
Rydym hefyd yn defnyddio ystod eang o dactegau plismona gweladwy a chudd. Nid yw tactegau cudd, yn ôl eu natur, yn amlwg i’r cyhoedd, ond rydym hefyd yn defnyddio tactegau gweladwy megis plismona amlwg mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae hyn yn cynnwys Prosiect Servator, sy’n defnyddio swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i sylwi ar arwyddion bod rhywun yn cynllunio i gyflawni trosedd, yn cynnwys gweithred derfysgol, i batrolio ein trefi a’n dinasoedd ar adegau ac mewn lleoliadau anrhagweladwy. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Servator drwy chwilio am #ProjectServator ar X.com.
Rydym hefyd yn defnyddio ymgyrch Prevent i geisio atal pobl fregus rhag cael eu radicaleiddio gan derfysgwyr neu eithafwyr yn y man cyntaf.
Rydym yn defnyddio’r mesurau ychwanegol hyn am amrywiaeth o resymau. Er enghraifft, gallai fod fel ymateb i batrymau troseddu tymhorol neu fel mesur rhagofalus yng ngoleuni’r bygythiad presennol o derfysgaeth ryngwladol.
Os ydych yn gweithio, yn byw neu’n ymweld â’n trefi a’n dinasoedd, byddwch yn parhau i weld amrywiaeth o dactegau plismona yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.
Ni thargedir unrhyw unigolyn gan yr heddlu oherwydd ei ddiwylliant, ffydd, hil neu grefydd.
Cynhelir ein hymholiadau o dan ddarpariaethau cyfraith bresennol y DU, sy’n rhoi ystyriaeth i hawliau dynol a chyfreithiol y rheini sy’n gysylltiedig. Bydd ymchwiliadau i derfysgaeth yn mynd i’r cyfeiriad a bennir gan wybodaeth a thystiolaeth.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr na chaiff cymunedau lleiafrifol eu troseddoli neu eu herlyn mewn unrhyw fodd. Mae plismona ym Mhrydain wedi’i seilio ar weithio gyda, ar gyfer, ac ar ran y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Byddai’n wrthgynhyrchiol i ni dargedu cymuned benodol gan mai nid gweithredu gan yr heddlu yn unig fydd yn gorchfygu terfysgaeth yn y pen draw, ond gweithredoedd yr holl gymunedau gyda’i gilydd.
Mae angen i ni gael cefnogaeth a hyder ein cymunedau i wella llif dwyffordd gwybodaeth, i arestio ac erlyn terfysgwyr ac i ddiogelu’r gymuned gyfan.
Mae swyddogion heddlu mewn porthladdoedd yn chwarae rhan allweddol mewn atal bygythiad presennol terfysgaeth a chynnal diogelwch y wlad. Maent yn defnyddio’r pwerau sydd ar gael iddynt o dan Atodlen 7 Deddf Terfysgaeth 2000 ac yn cadw at y Cod Ymarfer sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth.
Mae’r Cod yn ei gwneud hi’n ofynnol bod y detholiad o bobl sy’n cael eu stopio yn cyfateb i asesiad gwrthrychol o’r bygythiad a berir gan wahanol grwpiau terfysgol sy’n weithgar yn y DU a thu hwnt.
Os ydych yn cael eich stopio a’ch bod yn anfodlon gyda sut y cawsoch eich trin, gallwch wneud cwyn.