Arwyddion ymosodiad terfysgol posibl
Mae angen llawer o waith manwl i gydlynu ymosodiad terfysgol. Fel troseddwyr eraill, mae angen i derfysgwyr gynllunio a pharatoi, prynu a storio cyfarpar, a chanfod ffyrdd i ariannu eu gweithgareddau. Gwneir llawer o hyn yng ngŵydd y cyhoedd.
Os byddwch yn gweld neu’n clywed rhywbeth annisgwyl neu amheus, gwrandewch ar eich greddf a gweithredwch ACT(Action Counters Terrorism) drwy riportio amdano yn gyfrinachol. Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn bwysig, felly mae’n well bod yn saff ac riportio. Gallwch helpu’r heddlu i atal terfysgaeth ac arbed bywydau.
Gallwch chi helpu drwy ddod i ddeall arwyddion ac ymddygiadau terfysgwyr a bod yn wyliadwrus ynghylch eu gweithgareddau, ar-lein ac yn eich cymuned, megis y canlynol.
Storfeydd
Gall terfysgwyr ddefnyddio garejis a siediau a mannau eraill dan glo i storio offer. Ydych chi’n amheus o unrhyw un yn rhentu eiddo masnachol?
Cemegion
Ydych chi wedi sylwi ar rywun yn prynu symiau mawr neu anarferol o gemegion am ddim rheswm amlwg.?
Cyfarpar diogelu
Mae trin cemegion yn beryglus. Ydych chi wedi gweld gogls neu fasgiau wedi eu gadael yn rhywle?
Ariannu
Mae twyll sieciau neu gardiau credyd yn ffordd o greu arian. Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw drafodion amheus?
Mwy nag un dull adnabod
Ydych chi’n adnabod rhywun sydd â dogfennau mewn enwau gwahanol heb reswm amlwg?
Gwyliadwriaeth
Mae arsylwi a gwyliadwriaeth yn helpu terfysgwyr i gynllunio ymosodiadau. Ydych chi wedi gweld unrhyw un yn tynnu lluniau trefniadau diogelwch?
Trafnidiaeth
Os ydych chi’n gweithio yn y maes gwerthu neu logi cerbydau masnachol, a oes unrhyw werthiant neu logi wedi teimlo’n wahanol i’r arfer?
Teithio
Gall cyfarfodydd, hyfforddiant a chynllunio ddigwydd yn unrhyw le. Wyddoch chi am unrhyw un sy’n teithio ond yn amwys ynglŷn â lle mae’n mynd?
Cyfathrebu
Mae ffonau symudol dienw, talu wrth fynd a rhai sydd wedi’u dwyn yn nodweddiadol. Ydych chi wedi gweld rhywun sydd â nifer o ffonau symudol heb reswm amlwg?
Cyfrifiaduron
Wyddoch chi am unrhyw un sy’n ymweld â gwefannau cysylltiedig â therfysgaeth neu sy’n rhannu cynnwys sy’n hyrwyddo neu’n dyrchafu terfysgaeth? Gallwch ddarllen rhagor am derfysgaeth ar-lein isod.
Os yw unrhyw rai o’r uchod yn canu cloch, gwrandewch ar eich greddf ac riportiwch am weithgarwch terfysgol posibl. Bydd ein swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn edrych ar y mater.
Pecynnau amheus
Ydych chi’n amheus am lythyr neu becyn? Gallwch weld pa arwyddion i gadw llygad amdanynt. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gadewch y pecyn ar arwyneb gwastad, ynyswch yr ardal a cheisiwch gyngor.