Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae nifer o gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich gweithwyr a’ch busnes rhag bygythiad terfysgaeth. Yn gyntaf, mae’n werth gofyn i’ch staff ac unrhyw un arall sy’n defnyddio eich eiddo i ymgyfarwyddo â’ch cyngor ar Cadw'n ddiogel rhag terfysgaeth.
Yn ail, Gallwch ddarllen canllawiau lleoliadau sy’n hygyrch i’r cyhoedd Protect UK. Mae’n dweud wrthych sut i gynnwys cyngor a chamau gwrthderfysgaeth yn eich polisïau, gweithdrefnau ac arferion gweithio, a sut i ddelio â bygythiad bomiau. Darllenwch hefyd y cyngor ar gyfer rheolwyr diogelwch yn ystod lefel bygythiad uwch er mwyn gwella gweithdrefnau diogelwch eich busnes.
Yn olaf, gallwch chi a’ch staff gwblhau pecyn e-ddysgu Ymwybyddiaeth ACT a hefyd gysylltu â’ch cynghorydd diogelwch gwrthderfysgaeth lleol i gael cyngor arbenigol wedi’i deilwra ar gyfer eich busnes. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gweld sut i gysylltu isod.
Cynllun cenedlaethol yw Ymwybyddiaeth ACT (Action Counters Terrorism) i ddiogelu adeiladau, ardaloedd busnes a’u cymdogaethau cyffiniol rhag bygythiad terfysgaeth.
Gallwch chi ac aelodau’ch staff gwblhau cwrs e-ddysgu Ymwybyddiaeth ACT, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer pob busnes a sefydliad yn y DU gan y Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol.
Bydd y cwrs yn cymryd llai nag awr i’w gwblhau ac mae’n ymdrin â’r canlynol:
Fel rhan o Ymwybyddiaeth ACT, bydd cynghorwyr diogelwch gwrthderfysgaeth lleol yn gweithio’n agos gyda busnesau, cynrychiolwyr sefydliadau masnach a chyrff proffesiynol ar draws y DU, gan wneud yn siŵr bod eu mesurau a’u cynlluniau diogelwch amddiffynnol yn gyfredol gyda’r cyngor diogelwch gwrthderfysgaeth diweddaraf.
Mae cynghorwyr diogelwch gwrthderfysgaeth wedi cael hyfforddiant arbenigol, cynhwysfawr mewn meysydd megis:
Os hoffech wneud cais am gyngor gan eich cynghorydd diogelwch gwrthderfysgaeth lleol neu holi ynglŷn â rhywbeth arall sy’n ymwneud â diogelu eich busnes rhag terfysgaeth, cliciwch ‘Dechrau’ isod i lenwi ein ffurflen ar-lein gyflym a syml.