Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall plant ddioddef cam-drin ar y rhyngrwyd drwy gemau ar-lein, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol ac apiau megis Facebook, Instagram a Snapchat, y gallant eu cyrchu drwy ddyfeisiau megis cyfrifiaduron llechen, ffonau symudol a chonsolau gemau.
Er mwyn helpu i amddiffyn plant pan fyddant ar-lein, dilynwch y camau hyn:
Gallwch hefyd gael cyngor am bethau megis gosod rheolaeth rhieni neu roi cyngor i’ch plentyn ar arfer cyfrinair da ar wefan Get Safe Online.
Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un fod ym meddiant, rhannu neu greu delweddau rhywiol neu fideos o bobl dan 18 oed.
O ran y gyfraith, mae hyn yn cynnwys lluniau neu fideos personol a wneir gan rai dan 18 oed a’u rhannu gyda’i gilydd (a elwir weithiau’n 'secstio').
Fodd bynnag, nid yw bob amser er budd y cyhoedd i erlyn yn yr achosion hyn. Byddwn yn penderfynu a ddylid gweithredu ai peidio yn dibynnu ar bethau fel tystiolaeth o gamfanteisio neu feithrin perthynas amhriodol ar-lein.
Gall yr elusennau, grwpiau a sefydliadau isod ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth.
Y Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)
Asiantaeth heddlu genedlaethol ar gyfer mynd i’r afael â throseddwyr sy’n defnyddio’r rhyngrwyd i feithrin perthynas amhriodol a cham-drin plant.
ThinkuKnow
Gwefan a gynhelir gan CEOP (gweler uchod) ar gyfer pobl o bob oed, sy’n rhoi cyngor hawdd ei ddeall a ffyrdd i gysylltu.
Get Safe Online
Cyngor diogelwch diduedd ac am ddim ar sut i gadw’n ddiogel ar-lein a diogelu eich dyfeisiau sy’n cysylltu â’r rhyngrwyd.
NSPCC Share Aware
Cynorthwyo rhieni a phlant i gadw’n ddiogel ar-lein ac yn rhoi cychwynwyr sgwrs er mwyn cynorthwyo rhieni i drafod diogelwch ar-lein, yn ogystal â chyngor ynglŷn â beth i’w wneud os yw pethau’n mynd o’i le ar-lein. Mae hefyd yn cynnwys y fideos 'Lucy a’r Bachgen' ac 'Gwelais i dy ‘willy’ di ' ynglŷn â pheryglon rhannu gwybodaeth a lluniau personol ar-lein.