Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych wedi dioddef achos o gam-drin plentyn, neu’n poeni am ddiogelwch neu les plentyn, fe welwch isod y gwahanol ffyrdd y gallwch gysylltu. Hyd yn oed os nad ydych yn hollol siŵr, riportiwch eich pryderon. Gallai eich gwybodaeth gynorthwyo ein swyddogion a staff hyfforddedig i amddiffyn y plentyn.
Os ydych chi’n amau bod rhywun mewn perygl ar hyn o bryd, ffoniwch 999 ar unwaith. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os nad yw’n argyfwng, cysylltwch drwy unrhyw un o’r dulliau eraill hyn:
Os ydych yn blentyn, gallech hefyd siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo/ynddi, fel ffrind, athro/athrawes neu oedolyn arall.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, cofiwch fod cyfrifoldeb arnoch i gyfeirio eich pryderon at y tîm Gofal Cymdeithasol Plant drwy eich cyngor lleol.
Efallai mai swyddogion mewn iwnifform fydd yn derbyn adroddiad cychwynnol, ac wedi hynny efallai y bydd ditectifs arbenigol yn ymchwilio. Byddant yn egluro’n fanwl beth fydd yn digwydd nesaf.
Ni fyddwch chi na’ch teulu’n cael eich gorfodi i wneud unrhyw beth nad ydych yn gyfforddus yn ei wneud. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn gweithredu os ydym yn credu fod plentyn mewn perygl o gael mwy o niwed.