Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall darganfod bod eich plentyn, neu blentyn yn eich gofal, wedi bod yn dyst i achos o gam-drin neu wedi cael ei gam-drin fod yn anodd dros ben. Y flaenoriaeth gyntaf yw gwneud yn siŵr bod y plentyn ac unrhyw un arall yr effeithiwyd arnynt yn ddiogel. Yr ail yw sicrhau bod y bygythiad o berygl iddynt yn cael ei ddileu. Ein nod ni yw gwneud y ddau. Isod cewch wybod sut i siarad â’ch plentyn, neu blant yn eich gofal, am achosion posibl o gam-drin a gyda phwy y gallwch gysylltu i gael cymorth a chefnogaeth.
Efallai na fydd plentyn yn deall ei fod yn cael ei gam-drin. I rai, mae deinameg cymhleth cam-drin yn golygu eu bod yn datblygu ymglymiad wrth y person sy’n eu niweidio. Gall hyn wneud canfod y cam-drin yn anodd ac o ganlyniad y dioddefwr yn bychanu neu hyd yn oed yn gwadu bod y cam-drin yn digwydd.
Ewch i’n tudalen Beth yw cam-drin plant? er mwyn dysgu mwy am y pedwar prif fath o gam-drin a’r symptomau ac ymddygiadau cyffredin sy’n gysylltiedig â phob un.
Os yw plentyn wedi bod yn dyst i neu wedi cael ei gam-drin efallai y bydd wedi brwydro’n fewnol am beth amser cyn penderfynu siarad â chi, a bydd mwy na thebyg yn dal i boeni sut y byddwch yn ymateb. Felly os bydd yn penderfynu ymddiried ynoch:
Mae angen iddynt wybod eu bod yn ddiogel ac y byddwch yn eu hamddiffyn, felly ceisiwch eu sicrhau.
Efallai na fydd rhai eisiau siarad â’r heddlu yn syth. Fodd bynnag, y cynharaf y dywedir wrth yr heddlu, y cynharaf y gallwch roi terfyn ar y cam-drin a’i atal rhag digwydd i unrhyw un arall.
Efallai mai swyddogion mewn lifrai fydd yn cymryd yr adroddiad cyntaf, ac wedi hynny efallai y bydd ditectifs arbenigol yn ymchwilio. Byddant yn esbonio’n fanwl beth fydd yn digwydd nesaf.
Ni orfodir chi na’r plentyn i wneud unrhyw beth nad ydych yn gyfforddus yn ei wneud. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn gweithredu os ydym yn credu bod plentyn mewn perygl o ddioddef niwed pellach.
Os ydych chi'n poeni am ymddygiad rhywun tuag at blentyn, neu rywbeth rydych chi wedi'i weld, wedi’i glywed neu wedi cael gwybod amdano, gallwch ddefnyddio Cyfraith Sarah i ddarganfod a ydy'r person hwnnw'n risg.
Pan fydd gennych reswm i bryderu am rywbeth y mae plentyn wedi’i ddweud wrthych, mae’n bwysig sicrhau’r plentyn ond nid addo cyfrinachedd. Yn y pen draw, efallai y bydd yn rhaid i’r heddlu a gweithwyr proffesiynol eraill ymyrryd er mwyn cadw’r plentyn hwnnw, a phlant eraill yn ddiogel ac atal unrhyw niwed pellach.
Cofnodwch yn ysgrifenedig eich holl bryderon, trafodaethau am y plentyn, penderfyniadau a rhesymau dros y penderfyniadau hynny.
Gallai honiad o gam-drin plant neu esgeulustod arwain at ymchwiliad troseddol, felly mae’n hollbwysig nad ydych yn gwneud unrhyw beth a allai beryglu hynny, megis gofyn cwestiynau arweiniol neu geisio ymchwilio i honiadau eich hun.
Fodd bynnag, mae’n bwysig sefydlu’r ffeithiau sylfaenol er mwyn i’r heddlu neu’r gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Plant allu gwneud asesiad o’r peryglon sydd i'r plentyn hwnnw.
Siaradwch â’ch arweinydd diogelu i gael cefnogaeth a chyngor.
Mae'n anghyfreithlon meddu ar ddelweddau a fideos anweddus o blant (rhywun dan 18 oed), eu gwneud neu eu dosbarthu. Mae hyn yn fath o gam-drin plant.
Nid yw 'gwneud' delwedd anweddus yn golygu pan fo person yn tynnu llun neu fideo yn unig. Mae hefyd yn gallu golygu pan fo person yn lawrlwytho neu'n argraffu delwedd anweddus, neu'n agor atodiad ebost sy'n cynnwys delwedd anweddus.
Delwedd anweddus yw delwedd sydd:
I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan y GEG.