Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cam-fanteisio’n rhywiol ar blant yn cynnwys sefyllfaoedd, cyd-destunau neu berthynas lle rhoddir rhywbeth i berson dan 18 oed, megis bwyd, llety, cyffuriau, alcohol, sigaréts, cariad, anrhegion neu arian yn gyfnewid am gyflawni gweithgareddau rhywiol neu gael gweithgareddau rhywiol wedi’u cyflawni arnynt hwy. Gall hefyd gynnwys trais, gorfodaeth a brawychiad, gyda bygythiadau o niwed corfforol neu gywilydd.
Crëwyd y ffilm hon, am Kayleigh Haywood sy’n 15 oed, gan Heddlu Swydd Caerlŷr er mwyn rhybuddio plant ac oedolion am beryglon meithrin perthynas amhriodol a cham-fanteisio’n rhywiol.
Ym mhob achos o gam-fanteisio’n rhywiol ar blant, mae’r person sy’n cam-fanteisio ar y plentyn neu’r person ifanc yn gallu creu’r teimlad o awdurdod drostynt mewn rhyw ffurf. Gallai hyn fod oherwydd ei oedran, rhyw, deallusrwydd, cryfder corfforol neu sefyllfa economaidd.
Gall cam-fanteisio’n rhywiol ar blant ddechrau drwy ddefnydd technoleg, heb iddynt sylweddoli hynny i ddechrau. Er enghraifft, efallai y caiff y person ifanc ei berswadio i bostio lluniau ar y rhyngrwyd neu drwy ffôn symudol heb daliad na mantais bersonol i gychwyn.
Mae trais, gorfodaeth a brawychiad yn gyffredin, gyda bregusrwydd penodol y plentyn neu’r person ifanc yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn. Gall hyn wneud i’r person ifanc deimlo fel nad oes ganddo ef neu hi ddewis ond parhau â’r berthynas.
Gall arwyddion bod plentyn neu berson ifanc yn cael perthynas gam-fanteisiol amrywio. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys:
Os ydych chi’n amau bod person yn cam-fanteisio’n rhywiol ar blant, neu’n meddwl bod rhywun rydych chi’n ei adnabod wedi dioddef, neu y gallai fod yn ddioddefwr yn fuan, ewch i dudalen Sut i riportio achosion posibl o gam-drin plant neu ffoniwch ein rhif di-argyfwng, 101. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Os oes rhywun mewn perygl o ddioddef niwed ar hyn o bryd, ffoniwch 999 ar unwaith. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMSbrys.
Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn ac amlygu mai cyfrifoldeb pawb yw diogelu ac amddiffyn plant.
Mae ein Tîm Onyx yn casglu cudd-wybodaeth am gamfanteisio’n rhywiol ar blant, fel y gallwn atal troseddau pellach, diogelu dioddefwyr ac ymlid troseddwyr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chamfanteisio’n rhywiol ar blant, neu os ydych am gael cymorth neu gefnogaeth, ebostiwch Tîm Onyx neu ffoniwch 101 er mwyn siarad â swyddog. Os ydych angen cymorth mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.
Gydag asiantaethau partner rydym wedi lansio Ymgyrch Net Safe, ymgyrch Cymru gyfan sy’n targedu pobl sy’n creu, gwylio a rhannu delweddau rhywiol anweddus o bobl ifanc dan 18 oed ar-lein.
Barnardo's
Elusen genedlaethol sy’n cynorthwyo plant mewn tlodi, yn cefnogi gofalwyr ifanc ac yn cynorthwyo teuluoedd sydd am faethu neu fabwysiadu.
Canolfan Cam-fanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)
Cyngor yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i rieni, plant a phobl ifanc ar gadw'n ddiogel rhag cam-drin rhywiol a pherthynas amhriodol ar-lein.
Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)
Elusen plant genedlaethol, sy’n atal cam-drin ac yn cynorthwyo’r rheini yr effeithir arnynt i adfer.
Rhieni yn Erbyn Cam-fanteisio ar Blant (PACE)
Y brif elusen genedlaethol sy’n gweithio gyda rhieni a gofalwyr plant y cam-fanteisir arnynt yn rhywiol.
ECPAT UK
Sefydliad y DU sy’n ymgyrchu yn erbyn masnachu plant a cham-fanteisio ar blant.
Fearless
Gwasanaeth sy’n caniatáu i chi rannu gwybodaeth am drosedd yn gwbl ddienw.
Ymgyrch Enough
Ymgyrch genedlaethol i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.
Ynys Môn
Swyddogion ar ddyletswydd: 01248 752722 neu 01248 752733 rhwng 8.45am a 5.00pm.
Neu gallwch siarad â gweithiwr cymdeithasol ar 01248 353551 y tu allan i oriau swyddfa.
Gwynedd
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd os ydych chi neu’ch teulu angen cefnogaeth, cyngor neu gymorth.
Yn ystod oriau swyddfa: 01758 704455 (Dydd Llun hyd Ddydd Gwener, 9.00am i 5.00pm)
Tu allan i oriau swyddfa: 01248 353551
Conwy
Yn ystod oriau swyddfa: 01492 575111 (Dydd Llun hyd Ddydd Gwener, 9.00am i 5.00pm)
Tu allan i oriau swyddfa: 01492 515777
Sir Ddinbych
Yn ystod oriau swyddfa: 01824 712200 (Dydd Llun hyd Ddydd Iau, 8.30am i 5.00pm; Dydd Gwener, 8.30am i 4.30pm)
Tu allan i oriau swyddfa: 0845 053 3116
Sir y Fflint
Gwasanaethau Cymdeithasol Plant: 01352 701000
Tu allan i oriau swyddfa: 0845 053 3116
Wrecsam
Yn ystod oriau swyddfa: 01978 292039
Tu allan i oriau swyddfa: 0845 053 3116