Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran yma:
Stelcio ac aflonyddu yw pan fydd rhywun yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy'n gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad. Os yw'r ymddygiad digroeso yma yn digwydd ddwywaith neu fwy, gall fod yn drosedd a gallwch ei riportio i ni.
Os oes rhywun wedi ymddwyn tuag atoch mewn ffordd sydd wedi gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad, a bod hyn wedi digwydd unwaith fe allai fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn drosedd casineb neu’n drosedd arall. Riportiwch y digwyddiad i ni.
Mae stelcio ac aflonyddu yn droseddau o dan Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997. Maen nhw'n droseddau rydyn ni'n eu cymryd o ddifrif ac rydyn ni yma i chi os yw hyn yn rhywbeth rydych chi'n ei brofi.
Mae stelcio ac aflonyddu yn droseddau tebyg iawn. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n cael eich stelcio ynteu eich aflonyddu. Os byddwch chi’n riportio’r peth i ni, dywedwch beth sydd wedi bod yn digwydd a byddwn ni’n gallu egluro a oes trosedd wedi'i chyflawni a beth yw'r drosedd honno.
Gall aflonyddu gynnwys:
Mae'n aflonyddu os yw'r ymddygiad digroeso wedi digwydd ddwywaith neu fwy ac wedi gwneud ichi deimlo'n ofidus neu dan fygythiad.
Mae stelcio yn fath o aflonyddu, ond bydd gan y stelciwr obsesiwn gyda'r person y mae'n ei dargedu a gall yr ymddygiad digroeso dro ar ôl tro wneud i'r dioddefwr deimlo'n ofidus neu'n ofnus.
Gall stelcio gynnwys:
Mae'n stelcio os yw'r ymddygiad digroeso wedi digwydd ddwywaith neu fwy ac wedi gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad.
Stelcio neu aflonyddu ar-lein yw pan fydd rhywun yn monitro, yn stelcio, yn aflonyddu, yn bygwth, yn rheoli neu’n dynwared person arall drwy ddefnyddio'r rhyngrwyd neu dechnoleg arall.
Gall stelcio neu aflonyddu ar-lein gynnwys:
Mae'n stelcio neu'n aflonyddu ar-lein os yw'r ymddygiad digroeso wedi digwydd ddwywaith neu fwy ac wedi gwneud ichi deimlo'n ofnus, yn ofidus neu dan fygythiad.
Gall y sylw digroeso, ailadroddus gael effaith ddifrifol ar eich iechyd corfforol neu feddyliol, yn ogystal â'ch bywyd o ddydd i ddydd. Mae rhai pobl sydd wedi cael eu stelcio neu eu haflonyddu wedi gorfod gwneud newidiadau i'w bywydau bob dydd; mae rhai wedi newid eu swyddi neu wedi symud tŷ.
Mae'n bwysig eich bod yn cael y cymorth sydd arnoch ei angen os yw hyn yn rhywbeth rydych chi’n ei brofi. Os nad ydych chi'n barod i riportio’r peth i ni, mae hynny'n iawn. Mae yna sefydliadau eraill a all roi cyngor a help ichi.
Nesaf: Beth i’w wneud nawr os ydych chi’n cael eich stelcio neu’ch aflonyddu