Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran yma:
Mae yna wahanol fathau o orchmynion amddiffynnol a all helpu i'ch amddiffyn rhag rhagor o stelcio neu aflonyddu. Mae'r rhan fwyaf yn cael eu rhoi gan yr heddlu neu'r llysoedd, ond gallwch wneud cais am orchymyn peidio ag ymyrryd eich hun.
Gall gorchymyn amddiffyn stelcio gael ei ddefnyddio i amddiffyn unrhyw un sydd wedi dioddef stelcio.
Gall y gorchymyn wahardd y stelciwr rhag gwneud pethau penodol, gan gynnwys:
Gall y gorchymyn hefyd ei gwneud yn ofynnol i'r stelciwr wneud pethau penodol, gan gynnwys:
Mae'r gorchymyn yn para am o leiaf dwy flynedd.
Mae torri gorchymyn amddiffyn, heb reswm da, yn drosedd.
Os ydych chi’n amau bod y stelciwr neu'r aflonyddwr wedi torri gorchymyn, dywedwch wrth y swyddog sy'n delio â'ch achos.
Mae yna ffyrdd eraill y gall yr heddlu neu'r llysoedd helpu i'ch amddiffyn rhag rhagor o stelcio neu aflonyddu.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig a bod y person sy'n eich stelcio neu'ch aflonyddu ar hyn o bryd yn gyn-bartner ichi, gallwch wneud cais am orchymyn peidio ag ymyrryd eich hun.
Bydd y stelcio neu'r aflonyddu presennol yn dal i gael ei ystyried yn gamdriniaeth ddomestig gan yr heddlu.
Gall y gorchymyn wahardd y cam-driniwr rhag gwneud pethau fel:
Rhagor o wybodaeth a sut gallwch chi wneud cais.
Mae'r gorchymyn fel arfer yn para rhwng chwech a 12 mis.
Mae torri gorchymyn peidio ag ymyrryd, heb reswm da, yn drosedd.
Os ydych chi’n amau bod y stelciwr wedi torri gorchymyn a bod rhagor o stelcio neu aflonyddu wedi digwydd, gallwch riportio’r peth i ni.
Nesaf: Cymorth i ddioddefwyr a thystion stelcio ac aflonyddu