Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fel rheol gyffredinol, nid yw meddu ar bornograffi oedolion, ei rannu neu ei werthu, ddim yn anghyfreithlon. Ond rhai mathau o bornograffi’n anghyfreithlon ac mae meddu arno, ei wneud neu ei ddosbarthu yn droseddau difrifol.
Ystyr meddu yw bod y ddelwedd gennych chi fel ffeil ar ffôn symudol neu gyfrifiadur, copi print/copi caled, neu ddelwedd sydd wedi'i chreu/wedi’i thrin â chyfrifiadur. Gall ffeil sydd wedi'i dileu gyfrif hefyd.
Mae'n anghyfreithlon meddu ar 'ddelweddau pornograffig eithafol'.
Dyma ddeunydd sy'n ‘ddifrifol o dramgwyddus, yn ffiaidd neu fel arall yn anllad', ac sydd 'mewn modd amlwg a realistig' yn dangos:
I gael rhagor o wybodaeth, gweler gwefan y GEG.
Os ydych chi'n pryderu am unrhyw ddelweddau neu fideos rydych chi wedi'u gweld ar y rhyngrwyd neu os bydd deunydd anllad yn cael ei anfon atoch chi, cysylltwch â ni mewn unrhyw un neu ragor o'r ffyrdd hyn:
Os ydych chi’n amau bod rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 nawr. Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMSbrys.
Stop It Now!
Yn darparu cymorth a chefnogaeth os ydych yn poeni am ymddygiad anghyfreithlon neu niweidiol rhywun arall ar-lein.
Llinell gymorth gyfrinachol: 0808 1000 900
Internet Watch Foundation (IWF)
Yn darparu cyngor a chymorth i wella diogelwch ar y rhyngrwyd ac amddiffyn plant.
Canolfan Cam-fanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)
Cyngor yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i rieni, plant a phobl ifanc ar gadw’n ddiogel rhag cam-drin rhywiol a pherthynas amhriodol ar-lein.
Sefydliad Marie Collins
Helpu plant a'u teuluoedd i wella os ydych chi wedi dioddef cam-driniaeth ar-lein neu drwy dechnoleg symudol.
Lucy Faithful Foundation
Elusen sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â cham-drin a cham-fanteisio'n rhywiol ar blant.
NSPCC
Elusen sy'n gweithio i amddiffyn plant ac atal cam-driniaeth.
Get Safe Online
Cyngor am ddim ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein a diogelu’ch dyfeisiau sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd.