Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Meithrin perthynas amhriodol yw pan fydd person yn meithrin perthynas â phlentyn, person ifanc neu oedolyn sy’n wynebu risg er mwyn eu cam-drin nhw a dylanwadu arnyn nhw i wneud pethau.
Mae'r gamdriniaeth fel arfer yn rhywiol neu'n ariannol, ond fe all gynnwys gweithredoedd anghyfreithlon eraill hefyd.
Gall meithrin perthynas amhriodol ddigwydd ar-lein neu'n bersonol a gall ddigwydd dros gyfnod byr neu hir – o ddyddiau i flynyddoedd.
Mae pobl sy’n meithrin perthynas amhriodol yn dda am ddweud celwydd ynghylch pwy ydyn nhw, yn enwedig ar-lein lle gallan nhw greu hunaniaeth ffug a chymryd arnyn nhw eu bod nhw’n iau nag ydyn nhw.
Gall pobl gael eu meithrin perthynas amhriodol ar-lein drwy’r canlynol:
Gall person sy’n meithrin perthynas amhriodol fod yn ddieithryn neu'n rhywun mae'r dioddefwr yn eu nabod yn barod ac yn ymddiried ynddyn nhw, er enghraifft drwy ffrind neu deulu, neu mewn clwb maen nhw’n mynd iddo.
Mae’n gallu bod yn anodd dweud a ydy rhywun yn cael ei meithrin perthynas amhriodol nid yw’r arwyddion ddim bob amser yn amlwg ac fe allan nhw fod yn gudd.
Dyma rai arwyddion i chwilio amdanyn nhw:
Fydd person ddim yn gwybod eu bod yn cael eu meithrin perthynas amhriodol. Fe fyddan nhw’n ymddiried yn eu cam-driniwr sy'n rhoi llawer o sylw ac anrhegion iddyn nhw. Hefyd, efallai bod y person sy’n meithrin perthynas amhriodol wedi eu rhybuddio nhw am beidio â dweud wrth neb am y peth.
Mae meithrin perthynas amhriodol yn drosedd. Os ydych chi'n amau bod rhywun yn cael ei meithrin perthynas amhriodol, hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr, dywedwch wrth rywun.
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi’n cael eich meithrin perthynas amhriodol, dylech chi ddweud wrth rywun.
Oes rhywun ar fin dioddef ymosodiad neu gael eu brifo? Oes trosedd yn digwydd y funud yma? Os oes, ffoniwch 999 nawr a gofynnwch am yr heddlu.
Os oes gennych chi nam ar y clyw neu'r lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun aton ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda'r gwasanaeth SMS brys.
Os ydych chi mewn perygl ond yn methu siarad ar y ffôn, dylech chi ffonio 999 o hyd, yna dilynwch y cyfarwyddiadau hyn.
Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)
Elusen sy'n gweithio i atal camdriniaeth a helpu plant a'u teuluoedd pan fydd camdriniaeth wedi digwydd.
Llinell gymorth 0808 800 5000
Canolfan Camfanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)
Asiantaeth gorfodi'r gyfraith sy'n cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag camfanteisio a chamdriniaeth rywiol.
Gwasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim lle gall plant siarad â chwnselydd sydd wedi’i hyfforddi am unrhyw beth sy'n peri gofid iddyn nhw, unrhyw adeg o'r dydd.
Elusen i’r Deyrnas Unedig gyfan a sefydlwyd i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol.
Elusen genedlaethol sydd wedi ymroi i helpu unrhyw un y mae trosedd wedi effeithio arno – nid yn unig dioddefwyr a thystion, ond hefyd ffrindiau, teulu ac unrhyw un arall sy’n cael eu taro o ganlyniad i’r drosedd.
Mae Get Safe Online yn darparu cyngor am gadw’n ddiogel ar-lein.
Rhaglen addysg sy'n cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel drwy addysgu am gamdriniaeth rywiol a chamfanteisio rhywiol.