Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall 'gwaith rhyw' fod yn buteinio, stripio neu ddawnsio glin, perfformio mewn pornograffi, rhyw ffôn neu ryw ar y rhyngrwyd, neu unrhyw wasanaethau rhywiol eraill yn gyfnewid am arian, nwyddau, neu eitemau eraill y cytunwyd arnynt.
Mae cyfnewid gwasanaethau rhywiol am arian yn gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig (heblaw Gogledd Iwerddon lle mae'n anghyfreithlon talu am ryw).
Ond, mae'r gweithgareddau perthynol hyn yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003:
Os ydych chi’n weithiwr rhyw, gallech fod yn darged ar gyfer treisio, camdriniaeth gorfforol a rhywiol a lladrad, gan fod troseddwyr (pimpiaid neu gleientiaid yn aml) yn meddwl na fyddwch chi’n riportio’r drosedd.
Ond, os ydych chi'n dweud 'na', mae'n golygu na – does dim ots a ydych chi'n weithiwr rhyw ai peidio. Mae gennych chi’r un hawl dros eich corff ag unrhyw un arall a'r un hawl ag unrhyw un arall i roi neu i wrthod rhoi cydsyniad.
P'un a ydych chi’n gweithio ar-lein, ar y strydoedd neu mewn mangre, dysgwch sut i gadw'n ddiogel gyda’r awgrymiadau diogelwch hyn i weithwyr rhyw.
Os ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur neu'r rhyngrwyd fel rhan o'ch gwaith, fe allech chi fod mewn perygl o gamdriniaeth ar-lein hefyd.
Mae cyswllt diangen drwy’r ebost, negeseuon testun neu gyfryngau cymdeithasol a negeseuon testun, galwadau neu negeseuon ebost sy’n bygwth neu’n aflonyddu yn gyffredin.
Mae yna risg hefyd y bydd delweddau neu fideos ohonoch yn cael eu defnyddio heb eich cydsyniad. Mae hyn yn anghyfreithlon. Os yw hyn wedi digwydd i chi, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Pornograffi Dial.
Os ydych chi’n cael eich gorfodi i mewn i unrhyw fath o waith rhyw, mae hyn yn gamfanteisio rhywiol, sy’n fath o gaethwasiaeth fodern.
A oes rhywun mewn perygl ar hyn o bryd? A oes trosedd yn cael ei chyflawni neu a oes un newydd ddigwydd? Os felly, ffoniwch 999 nawr a gofynnwch am yr heddlu. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os ydych chi’n weithiwr rhyw mae gennych chi hawl i riportio unrhyw drosedd sydd wedi’i chyflawni yn eich erbyn.
Mae’n swyddogion ni yma i wrando ac i'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Os ydych chi'n poeni am rywun arall ac yn meddwl y gallen nhw fod yn cael eu cam-drin, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Gallwch riportio trosedd inni ar-lein neu’n ffonio ni ar 101 unrhyw bryd.
Os hoffech chi aros yn ddienw, gallwch gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111.
Neu caiff unrhyw weithiwr rhyw gofrestru gyda National Ugly Mugs (NUM) am ddim. Mae NUM yn elusen sy’n anelu at roi diwedd ar drais yn erbyn gweithwyr rhyw.
Gall yr aelodau:
Gallwch eu ffonio nhw ar 0161 629 9861 neu anfon neges ebost at [email protected]. Maen nhw ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am i 5pm.
Elusen genedlaethol sy'n darparu cymorth cyfrinachol am ddim i fenywod yn y diwydiant rhyw.
SWARM (Mudiad Eiriolaeth a Gwrthsafiad Gweithwyr Rhyw)
Mae SWARM yn ymgyrchu dros hawliau a diogelwch pawb sy'n gwerthu gwasanaethau rhywiol.
English Collective of Prostitutes
Sefydliad cenedlaethol o weithwyr rhyw sy'n ymgyrchu dros hawliau a diogelwch gweithwyr rhyw.
Elusen genedlaethol sy'n ymroi i helpu unrhyw un y mae trosedd wedi effeithio arnyn nhw i ymdopi â'u profiad ac ymadfer ar ei ôl.
Os nad oes ganddyn nhw swyddfa yn eich ardal chi, gallan nhw eich cyfeirio at gymorth lleol.
Maen nhw hefyd yn rhedeg My Support Space, sef lle diogel a chyfrinachol am ddim lle gallwch ddewis sut gymorth yr hoffech ei gael. Cofrestrwch ar gyfer My Support Space - mae’n gyflym ac yn hawdd.