Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae dyn a ddefnyddiodd ddryll ffug wedi'i addasu er mwyn ymosod ar ei frawd wedi cael ei garcharu.
Ymosododd Jamie Williams, o Dre'r Gof, Caernarfon, ar ei frawd a bygwth pobl eraill ar 18 Ebrill.
Ymddangosodd y dyn 24 oed er mwyn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar 15 Mehefin. Roedd hyn ar ôl iddo gyfaddef yn flaenorol ymosod, achosi niwed corfforol a meddu ar ddryll tanio hefo'r bwriad o achosi ofn trais. Gwnaeth hefyd gyfaddef meddu ar ddryll tanio a bwledi heb dystysgrif, addasu dryll tanio ffug yn ddryll tanio defnyddiol a meddu ar ganabis.
Fe wnaeth Williams ddyrnu ei frawd yn ei wyneb sawl gwaith mewn ymosodiad digymell cyn defnyddio dryll tanio ffug er mwyn taro'r dioddefwr yn y pen hefo'r carn.
Er bod ei frawd wedi syrthio'n anymwybodol, parhaodd Williams hefo'r ymosodiad trwy ei ddyrnu a stampio ar ei ben gan achosi anafiadau difrifol.
Yna defnyddiodd y dryll tanio ffug, a oedd wedi'i addasu er mwyn tanio bwledi, i fygwth pobl eraill a oedd yn bresennol a cheisio helpu brawd Williams.
Cafodd ei garcharu am bum mlynedd a saith mis.
Gwnaed gorchymyn fforffedu ar gyfer dinistrio'r gwn, y bwledi a'r canabis.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Chris Burrow: "Ymosododd Williams ar ei frawd ei hun, a allai fod wedi arwain at farwolaeth yn hawdd.
"Bydd hyn yn ddi-os yn cael effaith barhaol ar y dioddefwr a'r rhai a welodd yr ymosodiad brawychus hwn.
"Mae digwyddiadau o'r natur hon yn brin iawn yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn rhoi sicrwydd i drigolion na fydd cario arfau yn cael eu goddef. Byddwn yn mynd ar drywydd unrhyw wybodaeth a adroddwyd i ni.
"Mae unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y rhai sy'n cario arfau, neu arfau ffug yn gyhoeddus, yn cael eu hannog i gysylltu hefo'r heddlu neu'n ddienw trwy Crimestoppers."