Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni'n apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad da byw pryderus yn ardal Llandyrnog yn Sir Ddinbych.
Mae dwy ddafad wedi marw ar ôl dioddef ymosodiad mewn cae ger Siglen Uchaf islaw Moel Arthur rhwng 6pm ar 30 Awst a 12pm ar 31 Awst.
Dywedodd PC Ian Nicholls: "Er gwaethaf ein rhybuddion dro ar ôl tro i amlygu effeithiau dinistriol aflonyddu ar dda byw, mae ymosodiadau yn parhau i gael eu riportio.
"Mae'n siomedig nad oes neb wedi dod ymlaen i riportio'r digwyddiad hwn.
"'Da ni unwaith eto yn annog perchnogion cŵn i gadw cŵn ar dennyn wrth gerdded mewn caeau lle mae da byw yn bresennol er mwyn peidio ag achosi gofid na niwed i'r anifeiliaid.
"Os ydy eich ci wedi dianc mewn ardal wledig, dylech gysylltu hefo'r heddlu cyn gynted â phosib er mwyn rhybuddio ffermwyr a thirfeddianwyr."
"Dwi'n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal yn ystod gyda'r nos ar 30 Awst neu fore 31 Awst ac sydd hefo gwybodaeth a allai helpu ein hymchwiliadau ni i gysylltu hefo ni gan ddyfynnu cyfeirnod 25000725028."