Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu farw dyn yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 i gyfeiriad y dwyrain wrth ymyl Pont Britannia ar Ynys Môn y bore 'ma (Mawrth 23 Mai).
Yn fuan wedi 3.10am galwyd y gwasanaethau brys i'r ardal, ond bu farw'r dyn yn y fan a'r lle.
Mae perthynas agosaf y gŵr a'r crwner wedi cael gwybod.
Caewyd yr A55 wrth i nifer o asiantaethau weithio i ymchwilio a chlirio'r safle. Diolch i'r cyhoedd am eu hamynedd.
Ail-agorwyd y ffordd ychydig ar ôl 12pm.
Dywedodd Arolygydd Jason Davies : "Gallwn gadarnhau y caewyd yr A55 y bore 'ma oherwydd gwrthdrawiad angheuol. Rydym yn estyn ein cydymdeimlad at deulu'r dyn yn ystod y cyfnod anodd hwn."
"Diolch i'r cyhoedd am fod mor ystyrlon gyda'r oedi mawr gyda'r traffig y bore 'ma.
“Mae ymchwiliad yn digwydd i'r digwyddiad ac rwyf yn apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A55 i gyfeiriad y dwyrain ger Pont Britannia cyn y gwrthdrawiad ac a welodd rhywbeth neu sydd â thystiolaeth dashcam o BMW 3 Series, i gysylltu â ni."
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy'r wefan, neu ar 101 gan ddefnyddio cyfeirnod 23000438583.”