Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni dal i apelio am wybodaeth ar ôl ymosodiad yng Nghaergybi ar nos Iau, 30 Tachwedd.
Credir fod yr ymosodiad, lle dioddefodd dyn glwyfau trywanu, rhwng 9.30pm-10.15pm yng nghyffiniau Stryd Roberts a Stryd Edmund yng Nghaergybi.
Aethpwyd â'r dyn i'r ysbyty hefo anafiadau difrifol ond mae bellach wedi cael ei anfon adref.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "'Da ni'n dal i apelio ar unrhyw un a oedd yng nghyffiniau Stryd Edmund a Stryd Roberts yng Nghaergybi nos Iau 30 Tachwedd ac efallai welodd neu glywodd unrhyw beth amheus i gysylltu hefo ni.
"Buaswn i'n hoffi tawelu meddwl y gymuned fod digwyddiadau fel hyn yn hynod brin ar Ynys Môn. Roedd hwn yn ddigwyddiad unigryw ac ni chredir fod unrhyw fygythiad ehangach i'r gymuned.
"Bydd presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal at ddibenion tawelu meddwl.
"Dwi'n annog unrhyw un hefo gwybodaeth neu ffilm camera cerbyd neu CCC preifat posibl yn yr ardaloedd uchod a allai helpu ein hymchwiliadau gysylltu.
"Os 'da chi'n dymuno peidio siarad hefo'r heddlu, gallwch chi riportio gwybodaeth wrth Crimestoppers yn gyfan gwbl anhysbys ar 0800 555 111."