Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Gwrandawiad Camymddygiad yr Heddlu: 2 Medi 2026.
Trefnwyd gwrandawiad camymddwyn ynglŷn â Chwnstabl 4021 Sheppard i’w gynnal ym Mhencadlys yr Heddlu, Glan y Don, Bae Colwyn LL29 8AW, yn dechrau am 1000am ar 2 Medi 2026.
Mae’r gwrandawiad wedi’i ganslo, a bydd hysbysiad cyhoeddus pellach pan mae dyddiad wedi’i gadarnhau.
Gwrandawiad Camymddwyn: 3 Medi 2026
Cynhelir gwrandawiad camymddwyn ym Mhencadlys yr Heddlu, Glan-y-Don, Bae Colwyn, LL29 8AW yn dechrau am 10.00 o’r gloch y bore ar ddydd Iau 3 Medi 2026. Mae Cwnstabl 3074 Michael Smith yn wynebu y cyhuddiad canlynol:
Honnir ar 27 Ebrill 2026 i chi gael mynediad i ddigwyddiad ICAD yn ymwneud â gwrthdrawiad traffig a ddigwyddodd ar 26 Ebrill 2026. Eich gwraig oedd gyrrwr un o’r cerbydau ac roeddech yn dyst i’r digwyddiad (gan eich bod yn teithio yn y cerbyd). Nid oedd pwrpas plismona i’r mynediad hwn heb awdurdod.
Wrth gael mynediad i systemau’r heddlu, mae’r neges yn glir ymhob sesiwn mewnosod, rydych yn cael eich atgoffa o gyfrifoldebau swyddogion a staff sy’n cael mynediad i’r wybodaeth a rhaid gwneud hyn ar gyfer pwrpas plismona. Honnir i chi fethu â dilyn y cyfarwyddiadau hyn.
Honnir i PC Smith dorri Safonau Ymddygiad Proffesiynol yn ymwneud â Chyfrinachedd, Gorchmynion a Chyfarwyddiadau ac Ymddygiad Anheilwng.
Mae’r cyhuddiadau uchod wedi cael eu hasesu gan yr Awdurdod Priodol fel Camymddwyn Difrifol.
Bydd modd i’r cyhoedd weld y gwrandawiad hyn drwy Microsoft Teams.
I gael mynediad i’r gwrandawiad hwn rhaid i chi gofrestru drwy ddefnyddio’r ddolen cyn i’r gwrandawiad ddechrau.
Mae gwrandawiadau camymddygiad yn agored i bawb. Mae lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Sylwch y gallech gael eich chwilio cyn mynd i ystafell y gwrandawiad.
Mynnwch ragor o wybodaeth am yr hyn sydd i'w ddisgwyl mewn gwrandawiad drwy ddarllen canllawiau'r Swyddfa Gartref ar wrandawiadau camymddygiad.