Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A ydych chi eisiau gweithio i Heddlu Gogledd Cymru, ond nid fel swyddog rheng flaen? A ydych wedi ystyried rôl staff yr Heddlu?
Mae gennym ystod fawr o gyfleoedd staff yr Heddlu. Gallwch ddilyn gyrfa gyffrous beth bynnag fo’ch dewis o faes. Gan weithio ochr yn ochr â swyddogion rheng flaen, mae staff yr heddlu yn yn cadw’r Heddlu i redeg yn esmwyth.
Boed eich bod yn cynorthwyo gydag ymchwiliadau neu’n prosesu cyflogres, mae gan bawb ran i’w chwarae. O Ddadansoddwyr Cudd-wybodaeth, i Swyddogion y Wasg, i Ymchwilwyr Mannau a Lleoedd Troseddau, mae gan bawb rôl allweddol i wneud Gogledd Cymru yn lle mwy diogel.
Rydym yn cynnig rolau llawn amser a rhan amser, ac mae holl staff yr heddlu yn mwynhau’r manteision hyn:
Rydym yn falch o fod yn rhan o’r mudiad Cyflog Byw fel Cyflogwr Cyflog Byw. Mae hyn yn golygu bod pob aelod o staff yn ein sefydliadau yn ennill nid lleiafswm cyflog ond Cyflog Byw go iawn.
Mae’r Cyflog Byw yn raddfa dâl sy’n cael ei dalu wrth yr awr sy’n cael ei osod yn annibynnol ac yn cael ei ddiweddaru yn flynyddol, yn seiliedig ar gostau byw yn y DU. Credwn y dylai pob aelod o staff gael Cyflog Byw, oherwydd mae diwrnod caled o waith yn haeddu diwrnod teilwng o gyflog. Gallwch ddarganfod mwy trwy ymweld ar wefan swyddogol.
Ydio'n swnio'n dda i chi? Edrychwch ar y swyddi gwag ymysg staff yr heddlu.
Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter ar gyfer swyddi gwag yn y dyfodol.
Mae gofynion cymhwysol yr heddlu yn rhai manwl iawn. Nid ydym eisiau i chi dreulio amser yn llenwi’r ffurflen dim ond i chi ddarganfod ein bod ni yn methu eich derbyn chi! Atebwch y cwestiynau hyn i weld os ydych yn gymwys...
Byddaf – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Na fyddaf – Ni allwch ymgeisio am y rôl hon hyd nes byddwch yn 16 oed (neu'n 18 oed os yw gwaith sifft ynghlwm).
Ydw – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Nac ydw – Ni allwch ymgeisio am y rôl hon nac un arall o fewn HGC.
Ydw – ewch i’r cwestiwn nesaf.
Nac ydw – Gan ddibynnu ar ba mor hir rydych wedi bod o’r wlad, efallai na fyddwch yn gallu ymgeisio. Os oedd am fwy na chwe mis, cysylltwch â’n Tîm Recriwtio i drafod hyn ymhellach. Ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Nag oes – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Oes – mae mwy o fanylion i'w cael yn y wybodaeth fetio yma
Naddo – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol gall mathau eraill o gollfarn droseddol effeithio eich cais. Os oes gennych unrhyw bryderon cysylltwch â’n Tîm Recriwtio i drafod.
Do – mae mwy o fanylion i'w cael yn y wybodaeth fetio yma
Nac ydw – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Ydw – Ni allwch ymgeisio am y rôl hon nac un arall o fewn HGC.
Nac oes – ewch ymlaen i’r cwestiwn nesaf.
Oes – Caniateir tatŵs, ond rhaid iddynt beidio â bod yn sarhaus na thanseilio urddas ac awdurdod eich rôl.
Yn ystod eich cais byddwn yn gofyn i chi anfon llun atom a disgrifiad o'ch tatŵs.
Rhai enghreifftiau o datws na fyddem yn eu derbyn yw:
Mae cyfweliadau yn seiliedig ar y Fframwaith Gwerthoedd Cymhwysol (PDF - Saesneg yn unig), eich gwaith ymchwil i Heddlu Gogledd Cymru a’r rôl yr ydych yn ymgeisio amdani.
Mae'n newyddion gwych eich bod yn edrych ar ymuno â ni! Gallwch gwblhau ffurflen gais drwy fynd ar ein porth yma.
Er mwyn cwblhau cais, bydd angen i chi gofrestru cyfrif gyda ni. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud nodyn o'ch cyfeiriad e-bost rydych chi'n defnyddio i cofrestru ac cadw'ch cyfrinair mewn lle diogel, byddwch angen yr ddau i fewngofnodi i'ch ceisiadau yn y dyfodol.
Ar gyfer y mwyafrif o rolau Staff yr Heddlu, cewch eich cyfeirio at dudalen meini prawf cymhwysedd fer. Unwaith caiff ei gyflwyno, bydd y porth wedyn yn mynd â chi at gwestiynau'r ffurflen gais. Sicrhewch eich bod yn cwblhau'r holl feysydd angenrheidiol sydd wedi'u nodi gyda '*' gan na allwch gyflwyno eich cais os ydych yn gadael unrhyw un o'r meysydd hyn yn wag.
Mae'n bwysig cofio pan ydych yn dod i'r 'Datganiad i Gefnogi eich cais' eich bod yn cyfeirio at y Proffil Swydd. Rhowch fanylion, gydag enghreifftiau penodol os yw'n bosibl, o sut mae eich profiad, eich cymwysterau, eich sgiliau a'ch gallu yn bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl.
Mae hynny'n newyddion gwych! Mae gan ein holl swyddi sydd wedi'u hysbysebu broffil swydd wedi'i atodi. Os ydych yn edrych ar hwn, bydd yn rhoi manylion i chi o ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r deiliad swydd a'r gofynion sylfaenol i unigolyn ymgeisio am y rôl.
Rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn unigryw ac yn wahanol.
Mae ein Tîm Cynrychioli'r Gweithlu yn cynnig amrywiaeth o fentrau gan gynnwys darparu cyngor, anogaeth a chefnogaeth briodol drwy gydol y broses recriwtio.
Os ydych yn dod o grŵp Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), grŵp crefydd lleiafrifol, LHDT+, neu ag anabledd neu gyflwr niwroamrywiol (e.e. dyslecsia), gall y Tîm Cynrychioli'r Gweithlu gynnig cefnogaeth Gweithredu Positif i chi yn dibynnu ar y rôl rydych yn gwneud cais amdani. Gall rhai rolau gynnwys y cynnig o gymorth pan mae rhywun wedi'u tangynrychioli gan rywedd penodol. Nodir yn yr hysbyseb pa rywedd sy'n gymwys am gymorth, felly edrychwch ar y geiriad er mwyn darganfod os ydych yn gymwys.
Ewch ar ein tudalen Gweithredu'n Bositif i ddysgu mwy am sut mae hyn yn gweithio ac ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymroddedig i amrywio ein gwasanaeth heddlu. Rydym wedi bod yn weithredol yn ein cymunedau, yn estyn allan at bobl o grwpiau cymunedol sy'n cael eu tangynrychioli i ymuno a ni fel Swyddogion Heddlu. Gallwch wybod am y cymorth rydym yn ei roi drwy gofrestru eich diddordeb mewn ymgeisio drwy gwblhau'r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb (PDF) ac anfon hon at:
E-bost: [email protected]
Swydd: Tîm Cynrychioli'r Gweithlu, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Bae Colwyn, LL29 8AW.
Rydym yn falch iawn eich bod â diddordeb yn un o'n rolau. Edrychwch ar yr hysbyseb swydd a all fanylu cyfeiriad e-bost y Rheolwr a fydd â llawer o brofiad a gwybodaeth y gallent ei rhannu gyda chi er mwyn eich cynorthwyo chi i wneud y penderfyniad iawn drosoch chi.
Fel arall, os nad oes manylion rheolwr llinell ar yr hysbyseb, gwnaiff un o aelodau ein tîm anfon eich e-bost at y rheolwr llinell a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Sylwer y gall hyn gymryd yn hirach na'n haddewid i ateb negeseuon mewn 2 ddiwrnod.
Rydym yn falch iawn fod gennych ddiddordeb mewn ymuno â Heddlu Gogledd Cymru fel Swyddog Heddlu.
Am wybodaeth ar ddod yn Swyddog Heddlu ac os ydy'r rôl yn iawn i chi, ewch ar ein gwefan. Oddi yma byddwch hefyd yn gallu edrych ar yr hyn yw ein swyddi gwag presennol.
Fe'ch hysbysir fod gennym flwch post penodol i Swyddogion Heddlu y gallwch gyfeirio unrhyw ymholiadau'r dyfodol at: [email protected].
Pob lwc!
Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r ddolen hon i fynd i'r porth. Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair mae opsiwn ar y dudalen mewngofnodi i ddewis 'wedi anghofio eich cyfrinair?' byddwch angen rhoi'r cyfeiriad e-bost gwnaethoch ei ddefnyddio i gofrestru eich cais.
Yn anffodus, unwaith mae'r swydd wedi cau, mae'r holl geisiadau'n cael eu prosesu sy'n golygu ein bod yn methu derbyn ceisiadau hwyr.
Mae'n ddrwg gennym glywed nad ydych bellach yn dymuno parhau gyda'ch cais. Gallwch dynnu eich cais yn ôl ar unrhyw bryd drwy fewngofnodi i'n porth recriwtio yma.
Unwaith rydych wedi dewis y cais rydych yn dymuno ei dynnu'n ôl, mae botwm 'tynnu'n ôl' ar eich sgrin. Pwyswch y botwm hwn. Byddwch yna'n derbyn e-bost hysbysu am dynnu'n ôl a does dim byd pellach i chi wneud.
Ymdrinnir â'ch cais drwy ein porth recriwtio ar-lein lle cewch ddiweddariadau. Os hoffech adolygu hanes eich cais, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair i'r porth drwy glicio yma.
Llongyfarchiadau a chroeso i'n teulu plismona! Rydym yn gweithio'n galed i brosesu eich cais drwy ein gwiriadau Cyn Cyflogaeth. Rydym yn ceisio eich cael drwy'r broses cyn cyflogaeth mor gyflym â phosibl. Rydym yn cynghori cyfnod o hyd at 3 mis cyn disgwyl dechrau yn eich rôl gyffrous newydd.
Am unrhyw ddiweddariadau ar eich cais, byddem yn eich cynghori i fewngofnodi i'ch porth gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair drwy glicio yma. Rydym yn cynghori nad ydych yn rhoi eich ymddiswyddiad i'ch cyflogwr presennol hyd nes eich bod wedi derbyn cynnig diamod gennym ni.
Bydd eich asesiadau meddygol a'ch canlyniadau'n cael eu diweddaru drwy ein system recriwtio ar-lein. Os ydych yn dymuno gweld eich statws presennol, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair i'r porth drwy glicio yma.
Diolch am wirio! Os ydym yn profi anawsterau wrth gysylltu gyda'ch canolwr neu'n cael ymateb, peidiwch â phoeni. Bydd rhywun o'n tîm recriwtio yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. Mae bob amser yn ddefnyddiol os ydych yn gallu gofyn i'ch canolwyr ddychwelyd y geirda mor fuan â phosibl er mwyn cynorthwyo i symud eich ffeil ymlaen.