Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyn recriwtio unrhyw un i weithio i Heddlu Gogledd Cymru, rhaid gwneud gwiriadau trwyadl i weld a oes unrhyw beth yn hysbys sy'n niwed i'r ymgeisydd, eu cymar, neu berthynas agos gan gynnwys rhieni a brodyr a chwiorydd, lle bynnag maent yn byw. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw un sy'n byw neu sy'n gysylltiedig â'r ymgeisydd.
Bydd holl ymgeiswyr, os yn llwyddiannus yn y broses recriwtio, angen cwblhau ffurflenni fetio er mwyn galluogi gwneud y gwiriadau hyn. Rhaid i ymgeiswyr roi'r manylion a ofynnir amdanynt a hysbysu'r rhai hynny y darperir manylion amdanynt y gwneir yr ymholiadau hyn. Ni all Heddlu Gogledd Cymru ddadlennu canlyniadau ymholiadau ynghylch trydydd parti oherwydd cyfyngiadau deddfwriaethol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n cymhwyso'r canllaw euogfarnau troseddol a geir yng Nghod Ymarfer Fetio'r Coleg Plismona a'r Arfer Proffesiynol Awdurdodedig (APA) o ran holl geisiadau Swyddog Heddlu a Swyddogion Gwirfoddol.
Nid yw'n briodol i osod rhestr o euogfarnau a rhybuddion a all arwain at wrthod. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinwedd ei hun ac yng nghyswllt y rôl sy'n cael ei wneud a'r asedau sy'n cael eu ceisio, yn atebol i'r meini prawf gwrthod isod.
Nid yw Deddf Canllawiau Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 yn berthnasol i unrhyw swyddi Swyddogion Heddlu neu Swyddogion Gwirfoddol
Bydd ceisiadau am swyddi fel Swyddog Heddlu neu Swyddog Gwirfoddol yn cael eu gwrthod ymhob achos ble:
Ar gyfer holl euogfarnau neu rybuddion eraill mae yna dybiaeth amodol y dylent gael eu gwrthod ac, yn benodol, dylai troseddau lle targedwyd pobl fregus, troseddau a gymhellwyd gan gasineb neu anffafriaeth a throseddau o gam-drin domestig arwain at wrthodiad. Yn benodol, dylai'r canlynol gael eu gwrthod:
Ni fydd euogfarnau neu rybuddion o angenrheidrwydd yn eich atal rhag cael eich penodi i swyddi staff yr heddlu. Bydd yn dibynnu ar y rôl a ymgeisiwyd amdani a natur yr ymddygiad troseddol.
O dan Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 mae angen i holl ymgeiswyr i fod yn staff yr heddlu ddatgan euogfarnau a rhybuddion blaenorol a fyddai fel arfer yn cael eu hystyried 'wedi'u treulio'.
Fodd bynnag, mae Gorchymyn (Eithriadau) 1975 Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 yn dweud NAD yw ymgeiswyr ar gyfer rolau staff yr heddlu/SCCH yn gorfod datgan unrhyw wybodaeth o ran rhybudd AMDDIFFYNNOL neu euogfarn AMDDIFFYNNOL.
Ystyrir euogfarn yn AMDDIFFYNNOL os yw'r HOLL feini prawf canlynol yn berthnasol:
Ystyrir rhybudd i fod yn amddiffynnol os yw'r HOLL feini prawf canlynol yn berthnasol:
*Mae troseddau sy'n cael eu rhestru'n cynnwys troseddau difrifol, treisgar a rhywiol a throseddau sydd o berthnasedd penodol i ddiogelu plant ac oedolion bregus, ac na fydd byth yn cael eu treiddio neu eu hamddiffyn. Ceir y rhestr benodol o droseddau na fydd yn cael eu treiddio neu eu hamddiffyn ar y wefan Gov UK neu mae ar gael o'r Uned Fetio.
Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am ddeall os oes ganddynt rybudd neu euogfarn wedi'u hamddiffyn a sicrhau y cwblheir y ffurflen fetio'n gywir. Os ydych yn amau, cysylltwch yr Uned Fetio am gyngor.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n cymhwyso'r canllaw euogfarnau troseddol a geir yng Nghod Ymarfer Fetio'r Coleg Plismona a'r Arfer Proffesiynol Awdurdodedig (APA) o ran holl geisiadau staff yr heddlu. O ganlyniad, bydd ceisiadau'n cael eu gwrthod lle:
Ar gyfer holl euogfarnau neu rybuddion eraill tybir yn wrthbrofadwy y dylent gael eu gwrthod ac, yn benodol, dylai troseddau lle targedwyd pobl fregus, troseddau a gymhellwyd gan gasineb neu wahaniaethu a throseddau o gam-drin domestig arwain at wrthodiad.
Gwnawn gymryd gofal penodol lle mae unigolyn wedi cael eu heuogfarnu (neu eu rhybuddio am droseddau yn cynnwys anonestrwydd, arfer llygredig neu drais.
Bydd bob achos yn cael ei ystyried yn ôl ei rinwedd ei hun. Tra mae'r dybiaeth wrthbrofadwy yw dylai euogfarnau, rhybuddion neu sancsiynau eraill arwain at wrthodiad, gall fod achosion lle gall hyn fod yn anghymesur yn yr amgylchiadau.
Gall fod amgylchiadau lle nad yw ymgeisydd yn syrthio o fewn y meini prawf, ond y mae eu cysylltiad amheus gyda throseddau, neu gysylltiadau troseddol yn gwneud cynnig o gyflogaeth yn amhriodol.
Bydd bob ymgeisydd yn cael eu statws ariannol wedi'i ddilysu drwy wiriad cyfeirnod credyd. Mae'r gwiriadau yn cael eu cynnal oherwydd mae gan staff yr heddlu fynediad at wybodaeth freintiedig a hynod sensitif, a all eu gwneud yn agored i lygredigaeth. Dylai ymgeiswyr i'r gwasanaeth heddlu fod yn rhydd fel rhan o ddyled neu rwymedigaeth heb ei rhyddhau a gallu rheoli benthyciadau presennol. Dylai'r pwyslais fod ar reoli dyledion yn synhwyrol.
Ni fydd ymgeiswyr sydd â Dyfarniadau Llys Sirol yn parhau yn eu herbyn neu sydd wedi'u cofrestru fel methdalwyr ac sydd heb ryddhau eu methdaliad yn cael eu hystyried. Ni fydd ymgeiswyr sydd wedi'u cofrestru fel methdalwyr ac sydd wedi rhyddhau eu dyledion methdaliad yn cael eu hystyried hyd nes bydd tair blynedd ar ôl rhyddhau'r ddyled wedi mynd heibio. Bydd gorchmynion rhyddhau dyled yn cael eu trin yn yr un ffordd â methdaliad.
Rhoddir ystyriaeth ofalus pan mae gwiriad cyfeirnod credyd yn datgelu fod gan ymgeisydd drefniant gwirfoddol unigol (IVA) ar hyn o bryd. Ni wneir penderfyniadau clirio hyd nes bod tystiolaeth fod yr ymgeisydd wedi cynnal ad-daliadau IVA dros nifer o fisoedd ac yna ystyrir bob achos yn ôl ei rinwedd ei hun. Mae'r un egwyddor yn berthnasol pan mae gan yr ymgeisydd gyfrifon diofyn.
Gellir ystyried ymgeiswyr sy'n gallu dangos fod ganddynt drefniadau rheoli dyledion a'u bod yn glynu atynt. Bydd angen tystiolaeth ddogfennol i ddangos eu hymrwymiad a'u hymlyniad at unrhyw drefniadau rheoli dyledion o'r fath. Ystyrir bob achos yn ôl ei rinwedd ei hun.
Pan ganiateir cliriad fetio gwnaiff yr Uned Fetio hysbysu'r Adran Recriwtio a dim yr ymgeisydd yn uniongyrchol.
Pan wrthodir cliriad fetio gwnawn hysbysu'r ymgeisydd am y rheswm, oni bai fod rheswm dilys am beidio, er enghraifft pe bai'n:
Pan wrthodir cliriad fetio bydd gan ymgeiswyr yr hawl i apelio pan mae un neu fwy o'r ffactorau canlynol yn berthnasol:
Mae'r penderfyniad apelio'n derfynol.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gynnal y lefelau uchaf o onestrwydd ac unplygrwydd ac i atal llygredigaeth, anonestrwydd neu ymddygiad anfoesegol neu amhroffesiynol. Mae gweithdrefnau diogelwch fetio yn cefnogi’r ymrwymiad hwn drwy sicrhau mai dim ond y rhai hynny sy’n dangos y safonau uchaf o ymddygiad, gonestrwydd ac unplygrwydd sy’n cael eu recriwtio i Heddlu Gogledd Cymru a bod y safonau hynny’n cael eu cynnal a’u cefnogi gan broses adolygu reolaidd.
Mae’n berthnasol i holl aelodau a darpar aelodau Heddlu Gogledd Cymru gan gynnwys Swyddogion Heddlu, Swyddogion Gwirfoddol, Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu, Staff yr Heddlu, Gwirfoddolwyr, Contractwyr, Is-gontractwyr ac unrhyw unigolion arall sydd angen mynediad i eiddo, systemau neu asedau Heddlu Gogledd Cymru.
Fel ymgeisydd, gofynnir i chi lenwi ffurflen fetio sy’n berthnasol i’ch rôl, bydd yn gofyn i chi nodi gwybodaeth bresennol ac yn ddibynnol ar y rôl fe allai’r ffurflen hefyd ofyn i chi nodi adran ariannol ar sail tic yn y blwch gyda lle i chi roi mwy o fanylion petai chi’n teimlo bod angen, neu efallai y gofynnir i chi lenwi holiadur ariannol.
Bydd angen i chi lofnodi a dyddio pob ffurflen.
Bydd y manylion yn cael eu gwirio yn erbyn y cofnodion troseddol a diogelwch cenedlaethol ac mewn rhai achosion, yn ddibynnol ar y lefel o fetio, gydag Asiantaeth Credyd.
Bydd hefyd angen i chi lofnodi datganiad cyfrinachedd.
O ganlyniad i’r anghenion fetio cyn cyflogi neu fynediad i eiddo neu asedau Heddlu Gogledd Cymru, mae’r meini prawf preswylio yn berthnasol i’r holl ymgeiswyr, mae’r rheol preswylio yn bodoli bod gan ymgeiswyr ‘hanes y gellir ei wirio’ yn y DU er mwyn cynorthwyo’r Prif Gwnstabl yn ei ddyletswydd i gynnal heddlu effeithiol ac effeithlon.
Rhaid i’r isafswm cyfnod preswylio gyfeirio at y cyfnod o amser yn syth cyn gwneud y cais ac nid ar gyfer cyfnodau eraill o amser a dreuliwyd yn y DU.
Ystyrir y rhai hynny sydd wedi bod yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain neu unrhyw Wasanaeth Llywodraeth arall fel unigolion sydd wedi bod yn breswyl yn y DU.
Os byddwch yn penderfynu, am ba bynnag reswm, nad ydych yn gallu cwblhau unrhyw adran benodol o’r ffurflen fetio, neu nad ydych yn dymuno gwneud hynny, dylech drafod y mater â’ch Rheolwr Llinell neu bwynt cyswllt Heddlu Gogledd Cymru. Dylech wneud hyn cyn cyflwyno’r ffurflen.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi gael eich cyfweld gan yr Uned Fetio cyn y gellir gwneud unrhyw benderfyniad o ran cliriad fetio. Amcan y cyfweliad yw cael gwybodaeth ddigonol er mwyn galluogi’r Uned Fetio i allu cwblhau’r broses fetio ac i drafod unrhyw anawsterau a allai fod wedi codi yn ystod y broses.
Rhaid cofio na fydd unigolion sydd wedi methu ag ymgysylltu yn y broses fetio yn cael mynediad llawn i eiddo, gwybodaeth na systemau’r Heddlu. Ar gyfer contractwyr, gallai hyn effeithio ar eu gallu i gyflawni eu goblygiadau ac o ganlyniad mae’r risg yn aros gyda’r contractwr, ni fydd yr Heddlu yn cymryd unrhyw atebolrwydd.
It must be remembered that persons who have not engaged in the Vetting procedure will be denied unrestricted access to Force premises, information or systems. For contractors this could affect the ability to meet their obligations and such risk remains with the contractor, no liability is assumed by the Force.
Bydd pob achos yn cael ei ddelio ag ef ar sail unigol. Mae isafswm canllawiau Polisi Fetio cenedlaethol CCPSH yn berthnasol. Pan gyflwynir y Cod Ymarfer arfaethedig (a fydd yn disodli’r Polisi Cenedlaethol), eto bydd egwyddorion tebyg yn cael eu gweithredu.
Bydd y materion hyn yn cael eu hystyried yn erbyn ffactorau eraill gan gynnwys ymgysylltiad â’r Heddlu (yn hytrach na dioddefwr neu dyst) neu gyswllt neu gydymaith arall sy’n droseddwr.
Os oes angen cyngor pellach arnoch, cysylltwch â’r Uned Fetio.
Mae cyswllt troseddol yn cyfeirio at unigolion nad oes ganddynt gofnod troseddol efallai, ond sy’n ymwneud â gweithgareddau troseddol, neu sy’n gysylltiedig â phobl o’r fath.
Mae’n bosibl bod rhai unigolion yn perthyn i glybiau, cymdeithasau neu sefydliadau lle mae cyd-aelodau yn disgyn i mewn i’r categorïau a nodir uchod. Os yw’r wybodaeth hon yn hysbys i’r ymgeisydd fe ddylid ei nodi. Yn ogystal, os oes gennych ffrindiau neu berthnasau sy’n perthyn i’r categori hwn, rhaid i chi gynnwys eu manylion nhw hefyd.
Ni ddylech chi, eich hun na gofyn i unrhyw arall wneud, mewn UNRHYW amgylchiadau wneud gwiriadau i weld a oes gan eich cysylltiadau euogfarnau troseddol neu a ydynt wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ymwneud â throsedd.
Ar gyfer rhai rolau mwy sensitif, gofynnir i chi ddatgelu a ellid amharu ar eich addasrwydd gan fater meddygol neu seicolegol. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Swyddog Meddygol yr Heddlu ar gyfer asesiad.
Ni fydd manylion unrhyw gyflwr yn cael eu datgelu i’r Uned Fetio nac unrhyw un arall heb eich caniatâd. Fodd bynnag, os yw Swyddog Meddygol yr Heddlu o’r farn na fyddai’n briodol i chi gael eich cyflogi neu barhau i wneud swydd benodol, fe hysbysir yr adran fetio o hynny a byddwch yn cael eich hysbysu.
Dylid cofio bod penderfyniadau o’r fath yn digwydd mewn sefyllfaoedd eithriadol a dim ond gyda’r achosion mwyaf difrifol y bydd cliriad yn cael ei wrthod.
Bydd yr Heddlu yn cynnal gwiriadau ariannol drwy asiantaeth Gwirio Credyd, Experian fel arfer, ac mae angen cynnal gwiriadau ariannol ar bob lefel o fetio gan eithrio NPPV lefel 1. Mae’r lefel hon ond yn berthnasol i unigolion sy’n cael mynediad heb oruchwyliaeth i eiddo’r heddlu yn achlysurol ac yn afreolaidd ond nad ydynt yn cael mynediad i unrhyw wybodaeth, systemau electronig neu asedau.
Ei ddiben yw asesu a oes gennych fynediad i arian digonol er mwyn lleihau’r risg ohonoch yn agored i ysgogiad ariannol.
Does dim angen pryderu neu boeni am forgais neu ymrwymiadau credyd sy’n unol â’ch incwm ar yr amod eich bod yn gallu rheoli’r ad-daliadau arferol. Mae dyledion ond yn broblem pan fyddant yn sylweddol a phan fydd unigolion yn methu â chymryd camau i ddatrys y broblem. Pan fydd gwybodaeth wedi’i rhoi ‘yn gyfrinachol’ bydd y risg yn lleihau’n sylweddol.
Mae gwiriadau hunaniaeth yn rhan hanfodol o’r broses fetio, gan gynnwys gwiriadau Diogelwch Cenedlaethol, ac am y rheswm hwn bydd gofyn i chi gyflwyno dogfennau gwreiddiol megis pasbort neu dystysgrif geni i’ch Rheolwr neu Swyddog Recriwtio. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu harchwilio, eu gwirio a’u dilysu a bydd copïau yn cael eu gwneud ar gyfer ein cofnodion a byddant yn cael eu cyplysu â’ch cais fetio. Bydd y dogfennau’n cael eu hardystio fel gwir gopi ac yn cael eu harwyddo a’u dyddio.
Gallai rhoi gwybodaeth ffug neu anghywir ar ffurflen gais neu gelu gwybodaeth ar ffurflen fetio neu mewn cyfweliad dilynol gael ei ystyried fel tystiolaeth na ellir dibynnu arnoch / nad ydych yn onest. Yn wir, gellid gwrthod eich cliriad oherwydd hyn, er efallai na fyddai’r hyn rydych wedi ei gelu yn ei hun wedi achosi problem. Yn fwy na hynny, gellid gwyrdroi eich cliriad os bydd y ffeithiau hyn yn dod i’r amlwg yn ddiweddarach.
Dim ond yn yr achosion mwyaf difrifol y rhoddir ystyriaeth i wrthod cliriad fetio. Prif nod y weithdrefn fetio yw sicrhau na ellir dylanwadu ar aelodau o staff oherwydd bod ganddynt ‘gyfrinachau’ nad ydynt am eu datgelu.
Rhaid i chi hysbysu’r adran fetio am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau personol megis partner parhaol newydd, trigolion newydd yn byw yn eich cartref, newid cyfeiriad, cael eich arestio, rhybudd neu euogfarn neu gysylltiad â throseddwr.
Ar yr amod bod y ffurflenni fetio wedi eu llenwi yn iawn, mewn byd delfrydol byddai’r broses fetio yn cymryd ychydig ddyddiau. Fodd bynnag, lle bydd angen gwirio manylion mewn ardaloedd Heddlu eraill neu mewn gwledydd eraill, gall gymryd wythnosau neu fisoedd.
Mae’r elfen hon yn ddibynnol ar lefel y fetio sydd ei angen, gall bara rhwng isafswm o 3 mlynedd ag uchafswm o 10 mlynedd. Bydd rhai lefelau o fetio yn rhai lle bydd angen adolygiadau blynyddol a fydd yn cynnwys ffurflenni y bydd yn rhaid i chi a’ch Rheolwr Llinell eu llenwi a’u dychwelyd i’r Uned Fetio.
Ar yr amod bod y ffurflenni fetio wedi'u cwblhau'n gywir ac yn llawn, mewn byd delfrydol, gellir cwblhau gwiriadau fetio o fewn ychydig wythnosau. Fodd bynnag, os oes rhaid cwblhau gwiriadau mewn ardaloedd heddlu eraill neu mewn gwledydd eraill, gall fod oedi o sawl wythnos neu fisoedd.
Ni fydd fetio yn dechrau tan y bydd yr ymgeisydd wedi llwyddo yn eu cyfweliad. Os bydd cliriad fetio yna'n cael ei wrthod, fe’ch hysbysir o hynny ac fe gaiff hynny ei gadarnhau gan yr Uned Fetio a rhoddir rheswm lle bo hynny’n bosibl. Fel arfer, ni fydd rhesymau penodol yn cael eu rhoi a hynny er mwyn gwarchod cyfrinachedd pobl eraill a diogelwch HGC. Rhaid i geisiadau am apêl neu adolygiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddynt fod oddi wrth yr ymgeisydd eu hunain neu mae'n rhaid i’r cais gael ei gymeradwyo gan yr ymgeisydd. Rhaid gwneud hyn o fewn 14 diwrnod i’r penderfyniad fetio.
Cynhelir adolygiadau gan Uwch Swyddogion Heddlu annibynnol sydd â gwybodaeth ymarferol lawn o Bolisi Fetio Cenedlaethol CCPSH ac ymdrinnir â phob apêl mor brydlon â phosibl.
Cynhelir apeliadau gan Swyddog penodedig o reng CCPSH neu unigolyn penodedig arall nad yw wedi ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol. Bydd hyn yn sicrhau fod tryloywder ac uniondeb y broses apeliadau yn cael ei chynnal a'i chwblhau. Ymdrinnir â phob apêl mor brydlon â phosibl. Unwaith yr ystyrir yr apêl, hysbysir yr ymgeisydd.
Mewn achosion sy’n ymwneud â gwiriadau Diogelwch Cenedlaethol, mae proses apelio ar wahân ar gael. Mae gwybodaeth ar gael gan yr Uned Fetio ar gais.
Bydd yr holl wybodaeth sy’n cael ei phrosesu yn ystod y broses fetio yn cael ei phrosesu mewn modd cwbl gyfrinachol ac ond yn cael ei defnyddio at ddibenion diogelwch. Bydd ffurflenni fetio, holiaduron fetio a dogfennaeth gefnogol yn cael eu cadw mewn ffeiliau electronig, yn cael eu cadw o fewn yr Uned Fetio ac ni fydd y wybodaeth yn cael ei datgelu i unrhyw asiantaeth allanol.
Eich cyswllt heddlu unigol enwebedig yn yr adran recriwtio neu ysgrifennwch at:
Yr Uned Fetio
Bae Colwyn
Pencadlys yr Heddlu
Glan y Don
Bae Colwyn
LL29 8AW