Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yma gallwch weld sut i hawlio cerbyd sydd wedi’i atafaelu yn ôl o dan Adran 165A Deddf Traffig y Ffyrdd 1998. Golyga hyn bod gan swyddog sail resymol i gredu nad oedd gan y gyrrwr yswiriant neu nad oedd yn gyrru’n unol â’i drwydded yrru.
Os yw eich cerbyd wedi’i atafaelu am y rheswm hwn dylai bod y gyrrwr wedi derbyn hysbysiad atafaelu.
Os yw eich cerbyd mewn pownd am reswm arall, ewch i’n tudalen cerbydau wedi'u powndio.
Os yw'ch cerbyd wedi’i atafaelu, mae gennych saith diwrnod gwaith i fynd i un o'r gorsafoedd heddlu hyn – yn ystod yr amser penodedig – gyda'r dogfennau cywir (sydd wedi'u rhestru isod). Os na wnewch chi, gall eich cerbyd gael ei werthu neu ei sgrapio.
Gorsaf Heddlu Wrecsam
Cyn Galeri Oriel
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU
(o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 4yp)
Ei gweld ar fap
Gorsaf Heddlu’r Rhyl
Ffordd Wellington
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 1DA
(o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 4yp)
Ei gweld ar fap
Gorsaf Heddlu Bangor
Ffordd Gwynedd
Bangor
Gwynedd
LL57 1DT
(o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 4yp)
Ei gweld ar fap
Gorsaf Heddlu’r Wyddgrug
Stryd y Brenin
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1EF
(o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 1yp a 3yp i 4yp)
Ei gweld ar fap
Gorsaf Heddlu Llandudno
Ffordd Oxford
Llandudno
Conwy
LL30 1DN
(dydd Mawrth, dydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener, 9yb i 1yp a 3yp i 4yp)
Ei gweld ar fap
Gorsaf Heddlu Caernarfon
Maesincla
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BU
(dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener, 9yb i 1yp a 3yp i 4yp)
Ei gweld ar fap
Pan ewch chi i un o'r gorsafoedd heddlu dynodedig, rhaid ichi ddangos y dogfennau canlynol (y rhai gwreiddiol, nid copïau) er mwyn i'ch cerbyd gael ei ryddhau:
Rhaid i'ch trwydded yrru fod naill ai:
Gyda rhai eithriadau, gan gynnwys rhai consesiynau ar gyfer myfyrwyr ar gwrs cyfnod penodol, nid yw gyrwyr yn cael gyrru yn y Deyrnas Unedig ar drwydded a roddwyd gan wlad y tu allan i'r UE neu'r AEE am fwy na 12 mis ar ôl iddynt gyrraedd y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf. Dim ond cyfieithiad rhyngwladol o'r drwydded yw trwydded yrru ryngwladol ac nid yw'n cynnig unrhyw awdurdod na hawl i yrru yn ei hawl ei hun. Mae'n rhaid cael y drwydded yrru ddomestig y mae'n cyfeirio ati gyda hi.
Os ydych chi wedi'ch anghymhwyso mewn Aelod-wladwriaeth arall o'r UE neu wlad arall yn yr AEE, mae’r anghymhwysiad hwnnw’n gymwys yn y Deyrnas Unedig hefyd.
Bydd angen ichi ddangos tystysgrif yswiriant modur ddilys sy'n caniatáu i gerbyd a atafaelwyd gan awdurdod llywodraeth gael ei ryddhau cyn i'ch cerbyd gael ei ryddhau, hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ei yrru ar ffordd gyhoeddus.
Rydym yn derbyn:
Gofalwch eich bod wedi datgan yr holl ffeithiau perthnasol i'ch yswiriwr, gan gynnwys:
Os codoch chi’r polisi ar ôl i’r cerbyd gael ei atafaelu, mae’n rhaid hefyd ichi ddatgan collfarnau perthnasol sydd yn yr arfaeth, gan gynnwys y rhai a all fod yn yr arfaeth mewn perthynas â'r digwyddiad y mae'r cerbyd wedi’i atafaelu yn ei sgil ar hyn o bryd.
Rhaid ichi ddweud wrth yr yswiriwr hefyd fod y cerbyd wedi'i atafaelu a'i fod yn lloc yr heddlu.
Mae methu datgan y ffeithiau perthnasol cywir neu roi gwybodaeth ffug wrth godi yswiriant yn drosedd ddifrifol. Gall hyn wneud eich yswiriant yn annilys a byddwn yn riportio pob amheuaeth o dwyll i'r cwmni perthnasol.
Gallwn rannu gwybodaeth gyda'ch yswiriwr neu Swyddfa'r Yswirwyr Moduron os ydym yn amau bod yna drosedd.
Efallai na fydd yswiriant byrdymor neu dros dro (am gyfnod o hyd at 30 diwrnod) yn ddilys i hawlio cerbyd a atafaelwyd yn ôl. Gwiriwch y geiriad ar y dystysgrif neu'r nodyn yswiriant. Os oes amheuaeth, cysylltwch â'ch yswiriwr cyn dod i'r orsaf.
Os nad ydyn ni’n fodlon bod eich yswiriant yn ddilys ar gyfer rhyddhau cerbyd sydd wedi'i atafaelu, efallai y gofynnwn ichi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig oddi wrth eich yswiriwr.
Ni all masnachwr moduron ryddhau cerbyd a atafaelwyd ar eich rhan.
Dim ond deiliad y polisi a all ddangos polisi yswiriant agored neu bolisi yswiriant masnach i ryddhau cerbyd a atafaelwyd. Rhaid i'r polisi gynnwys yr awdurdod iddo gael ei ddefnyddio i ryddhau cerbyd a atafaelwyd gan yr heddlu.
Os nad chi yw perchennog neu geidwad cofrestredig y cerbyd, neu os nad oes gennych y V5C llawn (llyfr log) yn eich enw chi, dilynwch y canllawiau priodol:
Os nad yw’r llyfr log gennych, bydd angen ichi ddod â'r V5C/2 (Rhan 10 –atodiad gwyrdd ceidwad newydd y llyfr log) a bydd rhaid i chi lenwi cais V62 am V5C newydd tra byddwch chi yn yr orsaf. Anfonwn ninnau hwn i'r DVLA ar eich rhan, ynghyd â'r V5C, gan gofrestru'r cerbyd yn eich enw chi.
Os nad yw’r llyfr log V5C neu V5C/2 (Rhan 10 – atodiad ceidwad newydd gwyrdd y llyfr log) gennych, bydd angen inni weld prawf o berchnogaeth y gellir ei ddilysu – gallai hwn fod yn dderbynneb swyddogol o'r garej lle cafodd y cerbyd ei brynu, neu dystiolaeth eich bod wedi’i brynu, fel trosglwyddiad banc neu fil gwerthiant. Bydd angen iddo gynnwys manylion y ceidwad blaenorol er mwyn inni gysylltu ag ef i gadarnhau eich bod wedi prynu'r cerbyd oddi wrtho.
Bydd rhaid hefyd ichi lenwi cais V62 am V5C newydd tra byddwch chi yn yr orsaf. Anfonwn ninnau hwn i'r DVLA ar eich rhan, ynghyd â'r V5C, gan gofrestru'r cerbyd yn eich enw chi. Bydd angen ichi ddod ag archeb bost hefyd yn daladwy i 'DVLA ABERTAWE’ i dalu ffi osod y DVLA o £25. Anfonwn ni hon i’r DVLA gyda’r V62.
Os yw’r llyfr log V5C neu V5C/3 (Atodiad melyn masnachwyr moduron) gennych, bydd angen inni weld tystiolaeth y gellir ei gwirio o fasnachu mewn perthynas â'r cerbyd a atafaelwyd, megis llyfr stoc neu rywbeth tebyg sy'n cynnwys manylion cerbydau a brynwyd. Rhaid i hwn gynnwys dyddiad ac amser prynu'r cerbyd a atafaelwyd (ni fydd un darn o bapur gyda manylion y cerbyd wedi'i ysgrifennu arno yn dderbyniol).
Os yw’r V5C gennych, bydd rhaid hefyd ichi lenwi ffurflen cais V62 tra byddwch chi yn yr orsaf. Anfonwn ninnau hon i’r DVLA ar eich rhan ynghyd â’r V5C (heb yr atodiad melyn Masnachwyr Moduron V5C/3), gan gofrestru’r cerbyd yn eich enw chi.
Os nad yw’r V5C gennych, bydd angen hefyd ichi ddod ag archeb bost yn daladwy i 'DVLA ABERTAWE’ i dalu ffi osod y DVLA o £25. Anfonwn ni hon i’r DVLA gyda’r V62 a chaiff i cerbyd ei gofrestru yn eich enw chi.
Os ydych chi'n ymweld â'r Deyrnas Unedig, bydd angen ichi ddod â'r dogfennau canlynol i orsaf yr heddlu:
Os ydych chi wedi mewnforio neu wedi dod â cherbyd i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu aros am fwy na chwe mis, rhaid ichi fynd drwy broses sy'n cynnwys cofrestru a threthu'r cerbyd gyda'r DVLA. Gweler proses lawn mewnforio cerbyd i’r Deyrnas Unedig.
Os caiff eich cerbyd ei atafaelu tra byddwch yn mynd drwy'r broses hon, bydd angen ichi fynd i un o'r gorsafoedd heddlu dynodedig o fewn saith diwrnod ar ôl dyddiad yr atafaeliad i ddweud hynny wrthym. Bydd angen ichi ddangos y ddogfennau uchod er mwyn i'ch cerbyd gael ei ryddhau.
Fel ceidwad cofrestredig neu berchennog cerbyd a atafaelwyd, chi sy’n gyfreithiol gyfrifol amdano a rhaid i chi fynd i'r lloc yn bersonol i brofi perchenogaeth a thalu'r ffioedd.
Dim ond os gallwch chi ddangos tystiolaeth o’r canlynol y gall y gofyniad cyfreithiol hwn gael ei anwybyddu:
Os oes unrhyw un neu ragor o'r amgylchiadau hyn yn gymwys i chi, bydd angen ichi drefnu i rywun arall (trydydd parti) gasglu'r cerbyd ar eich rhan. Rhaid i'r trydydd parti hwn fynd i'r orsaf heddlu gyda'r dogfennau uchod, yn ogystal â’r canlynol:
Fel arfer dylai’r gyrrwr sydd wedi’i enwebu fod wedi’i enwi fel gyrrwr ychwanegol ar bolisi'r ceidwad cofrestredig ei hun. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â'ch yswiriwr cyn dod i'r orsaf.
Os gallwch chi ddod i orsaf yr heddlu i sefydlu mai chi yw’r perchennog ond na allwch yrru'r cerbyd eich hun, gallwch enwebu rhywun i'w gasglu ar eich rhan. Mae angen i chi a'r trydydd parti fynd i'r orsaf heddlu gyda'ch gilydd.
Mae angen ichi ddod â dogfen adnabod â llun (pasbort neu drwydded yrru).
Mae angen i'r trydydd parti ddod â'i drwydded yrru a dogfen adnabod â llun (pasbort neu drwydded yrru).
Rhaid i'ch polisi yswiriant ganiatáu i’r trydydd parti yrru'r cerbyd a atafaelwyd, ac nid yw hyn wedi’i gynnwys mewn estyniad ar bolisi yswiriant y trydydd parti sy’n rhoi 'hawl i yrru cerbydau eraill nad ydyn nhw’n perthyn i chi’.
Ar ôl inni awdurdodi rhyddhau'ch cerbyd, bydd rhaid i chi (neu'r trydydd parti sy'n casglu'r cerbyd ar eich rhan) fynd i'r lloc achub cerbydau i'w gasglu.
Cyn i’r asiant achub roi eich cerbyd i chi, rhaid i chi dalu'r costau achub a’r costau storio dyddiol iddo.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y taliadau statudol y bydd yn rhaid i chi eu talu yn Rheoliadau Symud Ymaith, Storio a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) 2023.
Ar gyfer cerbydau a atafaelwyd cyn 6 Ebrill 2023 bydd yn rhaid i chi dalu’r taliadau a restrir yn Rheoliadau (Cadw a Gwaredu Cerbydau Modur a Atafaelir) (Diwygio) 2008 Deddf Traffig Ffyrdd 1988.
Y Llywodraeth, nid yr heddlu, sy'n pennu'r costau hyn, ac maent yn amrywio yn ôl pwysau a chyflwr y cerbyd.
Sylwch: mae'r costau storio dyddiol yn dechrau ganol dydd ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i’r cerbyd gael ei atafaelu. Maen nhw’n cael eu codi bob dydd, gan gynnwys ar y penwythnosau ac ar wyliau cyhoeddus.
Byddwn yn caniatáu i berchennog neu geidwad werthu cerbyd ar ôl iddo gael ei atafaelu. Rhaid i'r person a oedd yn berchennog neu'n geidwad cofrestredig pan gafodd y cerbyd ei atafaelu fynd i'r orsaf, ynghyd â'r perchennog newydd. Bydd y perchennog newydd yn cael ei drin fel trydydd parti, felly bydd angen dod â'i drwydded yrru a'i ddogfen adnabod â llun (pasbort neu drwydded yrru).
Rhaid ichi gydymffurfio â gweithdrefn y DVLA ynglŷn â cheidwad newydd. Bydd gofyn i'r ceidwad newydd gofrestru'r cerbyd yn ei enw ei hun, hyd yn oed os yw'n fasnachwr moduron. Os cafodd y cerbyd ei werthu i fasnachwr moduron dilys yna bydd rhaid llenwi Atodiad V5C/3 masnachwr moduron. Byddwn yn anfon yr holl ddogfennau i'r DVLA ar eich rhan fel bod yr holl fanylion ar y gronfa ddata yn gywir.
Os nad oes gan eich cerbyd MOT dilys, dim ond i ganolfan prawf MOT sydd wedi’i threfnu ymlaen llaw y cewch chi yrru'r cerbyd yn gyfreithlon. Fel arall, gallwch drefnu iddo gael ei dynnu ar drelar, lori achub neu gerbyd tebyg, ond rhaid bodloni'r amodau ar gyfer ei hawlio’n ôl yn gyntaf.
Os yw'r dreth wedi dod i ben, mae'n bosibl y caiff eich cerbyd ei atafaelu eto os ewch ag ef ar y ffordd. Rhaid trethu cerbydau cyn eu gyrru ar ffyrdd y Deyrnas Unedig.
Dewch â set o allweddi, rhag ofn bod y gyrrwr (os nad chi oedd y gyrrwr) heb adael yr allweddi yn y cerbyd.
Os nad oes gan eich cerbyd blatiau rhif cywir a'ch bod yn bwriadu ei yrru, rhaid ichi osod platiau cyfnewid dilys wrth ei gasglu.