Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych wedi derbyn hysbysiad atafaelu neu os yw eich cerbyd wedi cael ei atafaelu oherwydd yr amheuir ei fod yn cael ei yrru heb drwydded yrru neu yswiriant dilys, ewch i’n tudalen cerbydau wedi'u hatafaelu i gael y wybodaeth gywir.
Yma fe gewch wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud os cafodd eich cerbyd ei roi mewn pownd gan yr heddlu am y rhesymau canlynol:
Os yw'ch cerbyd wedi'i atafaelu ac yn cael ei gadw gan un o'n gweithredwyr achub, fe gewch lythyr hysbysu pan fydd yn barod i'w gasglu.
Bydd angen ichi fynd i garej y gweithredwr achub i brofi pwy ydych chi ac mai chi yw perchennog y cerbyd a thalu unrhyw daliadau statudol.
Mae hyn yn golygu naill ai:
Ni fyddwn yn derbyn dull adnabod myfyriwr neu gyflogwr.
Mae hyn yn golygu naill ai:
Oni bai bod y cerbyd yn cael ei symud o garej y cwmni achub cerbydau ar gerbyd achub bydd angen iddo gael naill ai:
Os nad oes gennych bolisi yswiriant dilys ni allwch yrru’r cerbyd ar y ffordd. Bydd angen i chi ei symud o garej y cwmni achub cerbydau ar gerbyd achub.
Gallwch weld manylion llawn y taliadau statudol yn Rheoliadau 2005 Deddf Traffig Ffyrdd (Cadw a gwaredu cerbydau sydd wedi'u hataelu) - diwygiwyd 2008.
Pennir y taliadau hyn gan y llywodraeth, nid yr heddlu, ac maent yn amrywio yn dibynnu ar bwysau a chyflwr y cerbyd.
A fyddech cystal â nodi, mae’r taliadau storio dyddiol yn dechrau o hanner dydd ar y diwrnod wedi i’r cerbyd gael ei atafaelu.
Os na allwch chi fynd i'r garej achub yn bersonol, yna gall rhywun arall ei gasglu ar eich rhan.
Rhaid i’r person hwnnw ddod â’r dogfennau a restrir uchod yn ogystal â:
Os ydych eisiau casglu eiddo o’r cerbyd sydd wedi’i bowndio, ond nid y cerbyd ei hun, mae angen i chi ddod â phrawf mai chi yw perchennog neu geidwad cofrestredig y cerbyd (V5C neu V5C/10).
Gall rhywun arall gasglu eiddo ar eich rhan, ond mae angen iddynt ddod â’r canlynol gyda hwy:
A fyddech cystal â nodi, os yw’r cerbyd wedi’i ddifrodi’n wael efallai na fydd modd mynd i mewn iddo er mwyn casglu’r eiddo.
Os rhoddwyd hysbysiad gwahardd PG9 i’ch cerbyd, os nad yw’n addas ar gyfer y ffordd neu os nad yw’n tanio, bydd angen i chi drefnu i weithredwr achub cerbydau wedi’i yswirio a’i hyfforddi’n llawn ac sydd â’r offer priodol i’w gasglu a chi fydd yn gyfrifol am gost.
Dydyn ni ddim yn caniatáu i gerbydau gael eu trwsio tra bôn nhw yn y garej achub (mae hyn yn cynnwys newid teiars, trwsio sgriniau gwynt neu danio’r injan â dolenni tanio).
Dewch â set o allweddi, rhag ofn na adawodd y gyrrwr yr allweddi yn y cerbyd.
Os oedd y cerbyd mewn gwrthdrawiad ac nad ydych yn siŵr a yw’n addas ar gyfer y ffordd, ystyriwch fod gweithredwr achub cerbydau proffesiynol yn ei symud.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynd â’ch cerbyd i garej er mwyn cael gwiriad diogelwch os ydych yn ei gael yn ôl wedi iddo gael ei ddwyn.
Nid yw’r heddlu, gan gynnwys staff y garej achub, yn cael dweud a yw eich cerbyd yn addas ar gyfer y ffordd ai peidio.
Os nad oes gan eich cerbyd y platiau cofrestru cywir a’ch bod yn bwriadu ei yrru, rhaid i chi ddod â phlatiau eraill dilys pan fyddwch yn ei gasglu.
Os ydych yn gyrru gyda thrwydded dros dro rhaid i chi ddod â pherson gyda chi, sydd:
Gwnewch yn siŵr bod gennych blatiau D neu L ar y cerbyd.
Os nad ydych eisiau hawlio eich cerbyd yn ôl, mae angen i chi fynd i’r garej y cwmni achub cerbydau gyda phrawf adnabod a phrawf perchnogaeth.
Unwaith eich bod yn arwyddo’r ymwadiad cerbyd, fe’i gwaredir ar unwaith, naill ai drwy ei sgrapio neu mewn arwerthiant. Ni fyddwch chi wedyn yn gyfrifol am drethu nac yswirio’r cerbyd.