Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae rhai pobl mewn mwy o berygl o fynd ar goll nag eraill, o bosibl oherwydd eu sefyllfa (er enghraifft, plant mewn gofal) neu broblemau meddygol (er enghraifft pobl â dementia neu rai pobl â phroblemau iechyd meddwl).
Gall pobl sydd wedi mynd ar goll o’r blaen fod mewn perygl o fynd ar goll eto, yn enwedig os nad yw’r problemau a achosodd iddynt fynd ar goll yn y lle cyntaf wedi cael eu datrys.
Nid yw hyn yn golygu y bydd pob plentyn mewn gofal, pawb sydd wedi mynd ar goll o’r blaen, neu bawb sydd â dementia yn mynd ar goll. Ond mae’n gwneud synnwyr cynllunio ymlaen llaw i geisio atal pobl rhag mynd ar goll, a chasglu gwybodaeth am bobl ymlaen llaw fel y gallwch ei rhoi i ni’n gyflym os byddant yn mynd ar goll.
Os ydych chi’n gofalu am rywun â dementia, boed hynny mewn cartref gofal neu yn ei gartref ei hun, gallwch lenwi ffurflen Protocol Herbert sy’n cynnwys manylion am y person, ei orffennol, ei arferion a’r llefydd mae’n ymweld â nhw. Yna, os bydd y person hwnnw’n mynd ar goll, gallwch roi’r wybodaeth i ni er mwyn arbed amser cyn dechrau chwilio.
Cyngor i ofalwyr pobl â dementia sydd mewn perygl o fynd ar goll
Hyd yn oed os nad ydych chi wedi riportio achosion blaenorol wrth yr heddlu, gallai pobl sydd wedi mynd ar goll o’r blaen fod mewn perygl o fynd ar goll eto.
Neu gallai rhywun sydd erioed wedi mynd ar goll o’r blaen fod mewn perygl os yw wedi dechrau sôn am fynd ar goll.
Gallai rhywfaint o’r cyngor ar gyfer delio â pherson coll ar ôl iddo ddod yn ôl fod yn ddefnyddiol i chi os ydych chi’n gofalu am rywun neu os ydych chi’n agos at rywun sydd mewn perygl o fynd ar goll.